Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Evans, Robert

Oddi ar Wicidestun
Evans, John Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Goleufryn (W. R. Jones)

EVANS, ROBERT (1829—1901).—Dilledydd, bardd, a llenor. Ganwyd ef ym Mhorthmadog yn y flwyddyn 1829. Enwau ei rieni oeddynt Owen a Margaret Evans. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith a barddoniaeth, a mabwysiadodd yr enw llenyddol Robin Eifion. Yr oedd yn gymeriad ar ei ben ei hun—yn siaradwr rhwydd a ffraeth, yn wir Gristion, yn gymydog ffyddlon, ac yn ddinesydd pur. Yr oedd yn un o gedyrn Wesleaeth yn y dref, a bu a'i ysgwyddau'n dyn o dan yr arch am flynyddau maith. Bu farw ar yr 21ain o Fedi, 1901, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Porthmadog.

Nodiadau

[golygu]