Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Goleufryn (W. R. Jones)

Oddi ar Wicidestun
Evans, Robert Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Greaves, John Whitehead

GOLEUFRYN (W. R. Jones) (1840—1898).—Mab i Richard ac Ann Jones, Ty Isaf, Llanfrothen. Ganwyd ef ym Mai, 1840. Bu ei dad farw pan oedd efe'n chwech wythnos oed. Symudodd ei fam i gadw Tŷ Capel Tan y Grisiau, Ffestiniog, gan adael y bachgen gyda'i ewythr, o frawd ei dad—John Williams, Bryn Goleu. Pan oedd efe'n bum mlwydd oed symudodd ei fam, gyda'i dwy ferch, i'r America. Saer coed ydoedd John Williams, a dysgodd i'r bachgen yr un grefft. Pan yn 21ain oed aeth i weithio at Mr. J. H. Williams, Foundry, Porthmadog, gan ymaelodi yn eglwys y Tabernacl. Yno y dechreuodd bregethu, yn y flwyddyn 1865. Wedi ei gwrs athrofaol yng Ngholeg y Bala, bu'n weinidog ar eglwysi Tŷ Mawr, Bryn Mawr, Pen y Graig a Rhyd, Lleyn, Seion a Bethel, Llanrwst, yng Nghaergybi, ac yn ddiweddaf oll yng Nghaernarfon. Ymbriododd â Miss Rowlands, o Ben Llwyn, Aberystwyth. Bu farw Gorffennaf 11, 1898, yn 58 mlwydd oed. Ysgrifennodd lawer i gylchgronnau ei ddydd, a thynnodd ei ysgrifau galluog ar "Philistiaeth yng Nghymru" sylw mawr. Yr oedd yn edmygydd mawr o Carlyle. Yr oedd yn llenor coeth, yn ddarlithydd poblogaidd, ac yn bregethwr rhagorol. Cyhoeddwyd detholiad o'i weithiau llenyddol o dan olygiaeth Alafon.

Nodiadau

[golygu]