Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Greaves, John Whitehead

Oddi ar Wicidestun
Goleufryn (W. R. Jones) Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Griffith, Samuel

GREAVES, JOHN WHITEHEAD (1807—1880).—Mab i Richard Greaves, Banker o Leamington. Daeth i Gymru tua 1833, ac a brynodd Gloddfa'r Llechwedd. Efe, trwy ymdrech ddygn, a roddodd i lawr sylfeini'r cwmni llechau llwyddiannus sy'n dwyn yr enw. Priodd â Miss Steadman, Tŷ Nanney, Tremadog; a buont. yn byw am ysbaid yn Nhan'rallt, ac hefyd ym Mlaenau Ffestiniog. Bu farw yn Brighton, ar y 12fed o Chwefrol, 1880, yn 73 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Leamington. Cymerai ran flaenllaw yn symudiadau cyhoeddus Tre a Phorthmadog. Bu'n Ynad Heddwch, a chywirach ynad nid eisteddodd ar y Fainc. Bu'n noddwr ffyddlon i'r Ysgol Genedlaethol. Meibion iddo ef yw J. E. Greaves, Ysw., Arglwydd Rhaglaw y Sir, ac R. M. Greaves, Ysw., y Wern; a'i ferched ef yw Miss Greaves, Tan'rallt, a Lady A. Osmond Williams, Castell Deudraeth.

Nodiadau

[golygu]