Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Hughes, Hugh

Oddi ar Wicidestun
Holland, Samuel Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Ioan Madog (John Williams)

HUGHES, HUGH (1813—1898).—Capten, pregethwr, ac amaethwr. Mab ydoedd i Robert a Margaret Hughes, Penrhydfechan, Morfa Bychan. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1813. Gôf oedd ei dad wrth ei alwedigaeth; ond yn amser adeiladu'r Morglawdd trodd i weithio gwaith maen, a bu am gyfnod yn gontractor o bwys ym Mhorthmadog. Bu Hugh Hughes, am y saith mlynedd cyntaf o'i oes, dan ofal ei nain. Hynny o addysg a gafodd ydoedd gyda John Wynne, yn Nhremadog, ac yn ddiweddarach gyda William Griffith, yn dysgu morwriaeth. Dechreuodd forio'n fore, a bu mewn enbydrwydd a llongddrylliau. Dewiswyd ef yn flaenor ym Mrynmelyn. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol ac yn bregethwr, ar yr un adeg, mewn Cyfarfod Misol yn Nhremadog. Bu ganddo ran flaenllaw yn sefydliad yr achos Methodistaidd ym Mhorthmadog. Ymddyrchafodd i fod yn gapten a bu'n pregethu llawer yn y porthladdoedd tra'n morio. Yn y flwyddyn 1847, priododd Miss Catherine Jones, merch ieuengaf Mrs. Jones, Gellidara, Lleyn. Gadawodd y môr, ac ymsefydlodd yno gyda hi, gan ymroddi'n llwyrach i grefydd. Yr oedd yn llwyr—ymwrthodwr a gwrth—ysmygwr selog. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac ym meddu ar gymeriad tyner. Bu farw Chwefrol 15fed, 1898. Ysgrifenwyd cofiant iddo gan y diweddar Barch. John Jones, F.R.G.S., argraffedig gan E. W. Evans, Dolgellau.

Odiaeth fel cadben ydoedd,—ond cafwyd
Mai cyfyng ei gylchoedd;
Moroedd gras yn addas oedd
Ei nwyfiant—dyna'i nefoedd.
Y Parch. John Jones, Brynrodyn.


Nodiadau

[golygu]