Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Ioan Madog (John Williams)

Oddi ar Wicidestun
Hughes, Hugh Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Iolo Meirion (Edward Davies)

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Williams (Ioan Madog)
ar Wicipedia

IOAN MADOG (John Williams, 1812—1878).—Gôf a bardd, mab i Richard ac Ellen Williams, Tremadog. Tua'r flwyddyn 1811 symudodd ei rieni i'r Bont Newydd, ger Ruabon, ac yno, ar y 3ydd o Fai, 1812, y ganwyd Ioan Madog. Yn 1822 symudasant yn ol i Dremadog, lle y bu'r tad yn dilyn ei grefft wrth yr eingion. Ychydig o fanteision addysg a gafodd y bardd—ychydig o fisoedd gyda John Wynne yn Nhremadog, ac ar ol hynny gyda Mr. David Williams. Ond ni pharhaodd hynny'n hir. Gorfu iddo feddwl am rhyw alwedigaeth, a dewisodd fyned at ei dad i ddysgu ei grefft ef. Danghosodd yn fore ei fod yn feddiannol ar yr "awen wir," a llafuriai'n ddiwyd i'w choethi a'i diwyllio trwy ddarllen yr oll o weithiau'r prif feirdd y gallai ddod o hyd iddynt. Symudodd i Borthmadog i ddilyn ei alwedigaeth fel meistr gôf, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Yn Ebrill, 1838, priododd gyda Ann, merch Humphrey Evans, Llanfair, Harlech, a bu iddynt naw o blant. Daeth yn gynghaneddwr medrus, a dechreuodd gystadlu'n yr eisteddfodau, a daeth i gael ei adnabod fel cystadleuydd o bwys. Yr oedd yn nodedig am ei awen barod. Ysgrifennodd lawer o englynion—hynny oedd ei hyfrydwch ac enillodd lawer o wobrwyon. Ond nid oes yn aros heddyw, ar gôf gwerin Cymru, fawr yn ychwaneg na'r ddau englyn yn ei awdl i'r Gwaredwr a'i Deyrnasiad," sef, yr un i "Grist o flaen Pilat," a'r un i'r "Iawn." Wele'r blaenaf:—

Y Duw dirfawr, diderfyn,—bu ryfedd
Ei brofi gan adyn;
Un fu'n llunio tafod dyn
Yn fud o flaen pryfedyn


Wele'r llall:—.

Pob cur a dolur drwy'r daith,—a wellheir
Yn llaw'r meddyg perffaith;
Gwaed y groes a gwyd y graith
Na welir mo'ni eilwaith.


Honna rhai mai y Parch. David Jones, Treborth, yw awdwr y cwpled diweddaf; sut bynnag am hynny, y mae'n llawer perffeithiach gan y gôf na chan y pregethwr.

Ei brif gyfansoddiad yw ei awdl, "Y Gwaredwr a'i Deyrnasiad," a anfonodd i'r Gordofigion yn 1871. Er nad enillodd hon y wobr iddo, cydnabyddir hi yn awdl benigamp. Yr oedd ei gywydd i "Ddiffyniad Gibraltar, gan Elliott," yn fuddugol yn Eisteddfod Frenhinol Aberffraw yn 1849; "Cywydd Coffadwriaethol am y Dr. Morgan," yn Eisteddfod Rhuddlan yn 1850; a "Chywydd Coffadwriaethol am Robert ap Gwilym Ddu" yn Eisteddfod Madog, 1851.

Bu farw ar y 5ed o Fai, 1878, yn 66 mlwydd oed. Cyhoeddwyd ei weithiau barddonol, ynghyda bywgraffiad o hono, a llythyrau oddi wrth rai o brif feirdd ei genedl, o dan olygiaeth Cynhaearn,—y llyfr wedi ei argraffu'n lân a destlus gan Richard Jones, Pwllheli, yn 1881.

"Yr oedd yn gymydog caredig a diabsen, ac y mae y rhai a'i hadwaenent oreu yn dystion o hynawsedd ei galon a phurdeb ei gyfeillgarwch."—Cynhaearn, yn ei Gofiant.

"Y mae ei Englynion, ei Gywyddau, a'i Awdlau, fel cof—golofnau o farmor gloew, yn cadw ei goffadwriaeth i fyw, ac edrychir arnynt gyda mawrhad gan yr oesau a ddeuant.

Hyawdl od mewn Awdl ydoedd,
Angel Nef am Englyn oedd.—Hwfa Mon.


(Ei Gofiant; Y Geninen, Mawrth, 1896, tud. 29; Y Traethodydd, 1882, tud. 258; Cymru, Cyf. x., 229).

Nodiadau

[golygu]