Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Iolo Meirion (Edward Davies)

Oddi ar Wicidestun
Ioan Madog (John Williams) Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Jones, David

IOLO MEIRION (Edward Davies, 1834—1882).—Saer coed a llenor. Ganwyd ef yn Aberserw, ger Trawsfynydd, yn y flwyddyn 1834. Bu am gyfnod yn Awstralia, ond ni bu ei arhosiad yno'n hir. Yn 1858, ymbriododd â Miss Ellen Lloyd, merch henaf y diweddar Mr. William Lloyd, Talsarnau. Tua'r flwyddyn 1871 symudodd i Borthmadog i ddilyn ei grefft o saer coed. Ychydig o fanteision addysg a gafodd ym more'i oes; ond bu am gyfnod yn ddiweddarach yn Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ac yn feddyliwr clir, ac wedi ymgydnabyddu llawer â llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg. Yr oedd yn llenor coeth a diwylliedig, a phe buasai'n meddu ar fwy o ymddiriedaeth ynddo'i hunan buasai'n esgyn yn rhwydd i reng flaenaf llenorion ei oes. Yr oedd ei feddwl yn tueddu at fod yn athronyddol; ond hynafiaeth yn bennaf a gafodd ei sylw. Gwnaeth lawer gyda chyfarfodydd llenyddol a Chyfarfodydd Ysgolion y M.C., Dosbarth Tremadog. Ennillodd amryw wobrau mewn cyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau. Yng Nghylchwyl Lenyddol Blaenau Ffestiniog, Llungwyn, 1870, ennillodd wobr am draethawd ar "Enwogion Swydd Feirion, hen a diweddar," &c. Hefyd, mewn eisteddfod arall yn Ffestiniog, ennillodd wobr o ddeg punt am draethawd ar "Hynafiaethau Swydd Feirion." Cyhoeddodd yr "Enwogion" yn llyfr swllt, wedi ei argraffu yn "Swyddfa'r Goleuad, gan J. Davies, Caernarfon "; ond y mae erbyn hyn yn brin ac yn anodd iawn ei gael. mae'r "Hynafiaethau" eto mewn MS. Gresyn na chyhoeddid y ddau, yn un llyfr hylaw, oherwydd prin yw Meirion o lyfrau tebyg. Bu farw ar y 12fed Hydref, 1882, yng Nghlog y Berth, Porthmadog, yn 48 mlwydd oed.

Anwyl anwyl, oedd ein Iolo inni,
A doniol lenor, daenai oleuni:
Athraw galluog, enwog, fu'n gweini
I'w oes a'i genedl mewn gwresog ynni:
Gwron oedd yn rhagori—mewn crefydd,
A gwir ddiwinydd garai ddaioni.
—Dewi ap Selyf.


Nodiadau

[golygu]