Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Jones, David

Oddi ar Wicidestun
Iolo Meirion (Edward Davies) Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Jones, William

JONES, DAVID (1866—91).—Mab i Richard ac Elizabeth Jones, 19, Lombard Street, a brawd i'r Parch. R. W. Jones, M.A., ac ŵyr, o du ei fam, i'r Parch. David Davies (Exciseman a phregethwr adnabyddus). Ganwyd David Jones ar y 12fed o Ebrill, 1866, yn y Fron Goch,—tyddyn bychan gerllaw Bontnewydd, Caernarfon. Efe oedd yr hynaf o saith o blant. Symudodd y teulu i Borthmadog, gan ymaelodi yng nghapel y Garth. Danghosodd y mab o'i febyd ei fod yn llawn o ysbryd yr efengyl; hi oedd ei hyfrydwch beunydd. Dechreuodd bregethu yn Ebrill, 1886. Aeth i Ysgol Ramadegol Aberystwyth—yr Ardwyn—ac oddi yno i Goleg y Bala. Ond ymosododd y gelyn arno, ac a'i lluddiodd i orffen ei addysg. Dychwelodd adref at ei deulu i geisio adferiad; ond wedi nychu'n hir, bu farw, ar y 15fed o Dachwedd, 1891, yn 25ain oed. Yr oedd ei gymeriad yn lân a phur, a'i grefydd yn ddiamheuol. Yr oedd yn gymeradwy gan ei gydnabod, yn dra addawol fel pregethwr, ac yn meddu mesur helaeth o ddawn y weinidogaeth. Claddwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Porthmadog. (Y Drysorfa, Ionawr, 1892).

Nodiadau

[golygu]