Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Jones, William

Oddi ar Wicidestun
Jones, David Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Madocks, William Alexander

JONES, WILLIAM (1812—1887).—Brodor o Chwilog, a nai fab chwaer i Sion Wyn o Eifion; crydd wrth ei alwedigaeth. Symudodd i fyw i Dremadog yn y flwyddyn 1837, i gadw siop grocer, lle y bu hyd y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Borthmadog, gan ymsefydlu'n wneuthurwr canhwyllau. Cymerai ran amlwg yng ngweithrediadau cyhoeddus y dref—yn addysgol, gwleidyddol a chrefyddol. Yr oedd yn bleidiwr selog i addysg rydd, a bu'n noddwr ffyddlon i'r Ysgol Frytanaidd. Cymerodd ran flaenllaw ym mrwydr y Bwrdd Ysgol. Mewn gwleidyddiaeth, Rhyddfrydwr pybyr ydoedd. Yr oedd yn siaradwr hyawdl a dylanwadol. Yn grefyddol, Bedyddiwr Cambelaidd ydoedd. Tua'r flwyddyn 1858, gwnaeth y brodyr yn Berea apel at Mr. Jones am iddo fod yn fugail arnynt, â'r hyn y cydsyniodd, ond ychydig a fu ei arhosiad. Ymneillduodd oddi yno, gan sefydlu achos o'i enwad ei hun yn Chapel Street. Bu farw ar 18fed o Orffennaf, 1887, yn 76 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Penymaes, Criccieth.

Nodiadau

[golygu]