Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Mair Eifion (Mary Davies)

Oddi ar Wicidestun
Madocks, William Alexander Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Mathews, Edward Windus

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Mary Davies (Mair Eifion)
ar Wicipedia

MAIR EIFION (Mary Davies, 1846—1882).—Llenores, a barddones. Merch ydoedd i Lewis a Jennet Davies, Tregynter Arms, Porthmadog. Yno y ganwyd hi, ar y 17eg o Hydref, 1846. Capten llong oedd ei thad, a bu'n llwyddiannus gyda'i longau. Gwenai ffawd arno ym more ei oes; ond pan oedd efe'n mlodau'i ddyddiau dechreuodd ei nerth ballu, a chiliodd ei iechyd. Bu farw Awst y 6ed, 1853, yn ebrwydd wedi iddo ddychwelyd adref o un o'i fordeithiau, gan adael ar ei ol weddw ieuanc, gyda phump o blant amddifaid. Wedi marwolaeth y tad ymadawodd y fam â'i thylwyth o'r Tregynter Arms, i fyw ar ddarbodaeth ei phriod mewn neillduaeth; ond byr a fu mwyniant di-bryder y cartre newydd. Ymhen y flwyddyn wedi marw ei phriod, collodd Mrs. Davies ei llong newydd, y Jane a Mary-y llong a wnaeth ei mhordaith gyntaf yn fordaith olaf i'w pherchennog. Colled fawr oedd honno i wraig ieuanc weddw, oedd yn dechreu magu pump o blant, heb dad yn gefn ac yn nodded iddynt. Er hyn ni welodd brinder, ac ni adawodd ei phlant yn ddigynysgaeth ar ei mharwolaeth. Derbyniodd Mair yr addysg oreu oedd o fewn ei chyrraedd. Anfonwyd hi i Ysgol Uwch-raddol Miss Rees—merch Gwilym Hiraethog—ac yno y bu nes y cyrhaeddodd ei 16eg oed. Y tebyg yw mai o du ei thad yr etifeddodd y ddawn farddonol. Yr oedd ei thad yn berthynas i Dafydd Sion James, Penrhyndeudraeth, yr hwn oedd yn brydydd a cherddor o gryn deilyngdod. Danghosodd Mair Eifion duedd at farddoni yn ieuanc, a chafodd noddwr a chyfarwyddwr ffyddlon yn Emrys. Ymddanghosodd amryw o'i chynyrchion bore yn y Dysg- edydd; a daeth yn fuan yn gystadleuydd llwyddiannus mewn rhyddiaith yn ogystal a barddoniaeth yng nghyfarfodydd llenyddol y cylchoedd—pan yr oedd llenorion yn lluosocach yn y broydd nac ydynt yn awr. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1877, ymgeisiodd ar draethawd ar "Ffasiynnau'r Oes." Urddwyd hi'n Eisteddfod 1875. Yr oedd awyrgylch ei bywyd erbyn hyn yn dechreu pruddhau. Yn 1874 bu farw ei brawd, Capten John Davies—ffafr-ddyn y teulu—ac nid yn hir y bu'r fam hithau cyn ei ddilyn i briddellau'r dyffryn. Cafodd Mair ei rhan yn fore o gystuddiau'r byd, a dioddefodd hwy'n dawel. Bu'n cyfathrachu llawer â chyfoethogwyr ei chenedl, ac ymhyfrydai yng ngweithiau y beirdd a'r llenorion. Cyhoeddwyd ei barddoniaeth o dan yr enw "Blodau Eifion," o dan olygiaeth ei chyfaill, Gwilym Eryri. Yr wyf wedi manylu mwy ar Mair Eifion na'r cymeriadau eraill. Gwnaethum hynny am nad oes dim, hyd y gwelais, i'w gael yn ei chylch mewn unrhyw gylchgrawn; ac y mae'r "Blodau " bellach allan o argraff ac yn anodd ei gael. Am dani fel barddones a merch ieuanc rinweddol, dywed ei chofiannydd,—" Yr oedd ei hawen bur a llednais yn adlewyrchiad cywir o'i bywyd ar y ddaear. Canodd aml un ysywaeth ar destynau moesol a chrefyddol, ag y gellid yn naturiol, oddi wrth ei fuchedd a'i ymarweddiad, amheu purdeb a didwylledd ei galon. Ond ni ellir dweyd felly am dani hi, oblegid yr oedd ei bywyd hardd a dichlynaidd yn eglur dystiolaethu fod y cyfan yn tarddu oddiar argyhoeddiad dwfn a chariad gwirioneddol at y pur a'r dyrchafedig. Yr oedd o deimladau crefyddol tuhwnt i'r cyffredin, a chanfyddir hynny'n eglur oddi wrth gynyrchion ei hawen, oherwydd y mae rhyw eneiniad crefyddol yn rhedeg megis ffrwd dryloew trwy ymron yr oll o honynt." Bu farw ar yr 8fed o Hydref, 1882, yn 35 mlwydd oed."

Ym more'i heinioes ein Mair a hunodd,
Ei hardd, lân, ieuanc, werdd ddeilen wywodd;
Drwy'i bywyd, ar hyd llwybrau gras rhodiodd,
A'i hawen-odlau i'w Duw anadlodd;
Ym myd yr ing ni ymdrodd,—heibio'r ser,
I fro ei hyder, fry, fry, ehedodd.—Gwilym Eryri.


Nodiadau

[golygu]