Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Mathews, Edward Windus
← Mair Eifion (Mary Davies) | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Mathews, Nathaniel → |
MATHEWS, EDWARD WINDUS (Major, 1812—1889).—Mab i Nathaniel Mathews, y Wern. Yr oedd yn wr hynod am ei garedigrwydd a'i gymwynasgarwch; a bu ei ddylanwad yn help i lawer i ddringo i safleoedd o bwys. Yr oedd yn un o berchenogion Chwarel Rhiwbryfdir. Yr oedd yn foneddwr trwyadl, a bu'n ffyddlon i'w safle a'i gydwybod yn yr holl gylchoedd y troai ynddynt. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor yr Ysgol Genedlaethol am lawer o flynyddoedd, a chyfrannodd yn helaeth tuag at ei chynnal, gan ei chadw o ddyled lawer pryd. Efe sefydlodd Gorfflu y Gwirfoddolwyr ym Mhorthmadog, yn y flwyddyn 1850, ac efe oedd Capten cyntaf y cwmni. Yr oedd yn Eglwyswr ffyddlon a chywir. Bu'n Ynad Heddwch, ac yn Is-Raglaw Sir Gaernarfon. Symudodd o Ddyffryn Madog i'r Wern, Guilford, Swydd Sussex, lle y bu farw, ar y 26ain o Hydref, 1889, yn 77 mlwydd oed. Claddwyd ef yng nghladdfa'r teulu ym mynwent Eglwys St. Mair, Peckenham, Swydd Suffolk.