Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Mathews, Nathaniel

Oddi ar Wicidestun
Mathews, Edward Windus Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Morris, Daniel

MATHEWS, NATHANIEL (1787—1867).—Mab ieuengaf i wr o'r un enw, oedd yn byw yn New House, Peckenham. Symudodd i Gymru yn y flwyddyn 1835, gan ymgartrefu yn y Wern, Penmorfa. Yr oedd yn un o gyfranddalwyr Chwarel Rhiwbryfdir, Ffestiniog. Bu'n briod â Miss Mary Windus, unig ferch Edward Windus, Ysw., o Tottenham, Swydd Middle

Cymerai ddyddordeb mawr ym mywyd Ffestiniog a Dyffryn Madog; a bu'n llanw'r swydd o Ynad Heddwch dros Sir Gaernarfon am lawer o flynyddoedd. Ystyrid ef a Mr. J. W. Greaves fel yr ynadon mwyaf cywir ac uniawn a fu'n eistedd erioed ar unrhyw fainc. ynadol. Bu farw ar y 3ydd o Fawrth, 1867, yn 80ain mlwydd oed. Bu ei briod farw ar y 13eg o Ragfyr, 1852, yn 62 mlwydd oed. Claddwyd y ddau yng nghladdfa'r teulu ym mynwent St. Mair, Peckenham.

Nodiadau

[golygu]