Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Morris, Daniel
Gwedd
← Mathews, Nathaniel | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Morris, Owen → |
MORRIS, DANIEL (1789—1840).—Meistr cyntaf yr Harbwr. Brodor o Lanystymdwy. Bu'n gwasanaethu gyda Mr. Bidwell, Tan 'Rallt a Farm Yard, Tremadog. Yn 1816 priododd â Mary, un o ferched William Owen, Ynys Cyngar,—yntau y pilot cyntaf ym Mhorthmadog. Symudodd i fyw i'r Tywyn—fel y gelwid y Port y pryd hwnnw—a phenodwyd ef yn Feistr yr Harbwr—swydd a lanwodd gyda ffyddlondeb hyd ddiwedd ei oes. Ystyrid ef yn wr o synwyr cyffredin cryf, ac ym meddu ar farn aeddfed. Bu farw ar y 29ain o Ragfyr, 1840, yn 51 mlwydd oed.