Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Percival, Frederick Samuel
← Parry, Thomas | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Pritchard, R → |
PERCIVAL, FREDERICK SAMUEL (1828—1912).—Prif berchennog Chwarel y Fotty a Bowydd ydoedd efe, ac ni bu meistr erioed yn caru lles ei chwarelwyr yn fwy, na neb yn fwy ei barch gan ei weithwyr. Bu yn dal cysylltiad â'r chwarel am dros hanner cant o flynyddoedd. Bu'n brif offeryn i sefydlu Clwb y Cleifion a Banc Cynilo ynglyn â'r chwarel. Ni bu ffyddlonach meistr erioed nag ef; ymlynai'n dyn wrth ei hen weithwyr. Pleidiai hwy ymhob achos teilwng, ac ni adawai hwynt yn ddigynnysgaeth yn eu hen ddyddiau. Yn 1899 cyflwynodd ei weithwyr anerchiad lliwiedig iddo, yn gydnabyddiaeth o'i lafur, ac yn arwydd o'u parch iddo a'u hymlyniad wrtho. Cymerai ddyddordeb mawr yn Eglwys Sant Ioan, a chyfrannodd yn hael tuag ati. Bu farw yn ei breswylfod, Bodawen, wedi cystudd maith, ar y 30ain o Dachwedd, 1912, yn yr oedran teg o 84 mlwydd oed. Claddwyd ef yng nghľaddfa'r teulu ym mynwent Llanbedrog.