Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Pritchard, R

Oddi ar Wicidestun
Percival, Frederick Samuel Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Prichard, J R

PRITCHARD, R. (1783—1855).—Capten a bancer. Ganwyd ef yn Ty Gwyn y Gamlas, Ynys Llanfihangel-y-Traethau, Meirionnydd. Ymbriododd â Janet, merch Robert Jones, Plasucha, Meirion. Symudodd i fyw i Borthmadog tua'r flwyddyn 1828. Bu'n morio amryw weithiau gyda'i long, y Gomer, i'r America. Gadawodd y môr yn 1835, gan ddechreu masnach iddo ei hun yn y Terrace—lle a elwir yn awr yn Lombard Street. Masnachai ar y cyntaf mewn porter, a gariai ei long o'r Iwerddon. Ond wedi dyfodiad y don ddirwestol dros y wlad, yn 1838, rhoddodd i fyny werthu'r ddiod, fel arwydd gweledig o'i argyhoeddiad o ddrwg meddwdod cymerodd y baril olaf o borter a feddai gan ollwng ei gynnwys i'r heol. Daeth hwch cymydog heibio, chwenychodd y ddiod, ac yfodd yn helaeth o hono—a meddwodd! Daeth yn ddirwestwr selog, hynny yw, y capten—am yr hwch, ni chofnodir i honno byth sobri. Yn y flwyddyn 1836 agorodd y National and Provincial Bank, Pwllheli, gangen ym Mhorthmadog. Dewiswyd ty y capten i'w gynnal, ac yntau'n oruchwyliwr arno. Yr oedd yn Fethodist aiddgar, ac yn un o sylfaenwyr ei enwad ym Mhorthmadog. Yr oedd o dymer fywiog, ac o duedd garedig. Wedi bod "ar y lan" am 20 mlynedd, daeth awydd morio arno eilwaith; ac yn ei hen ddyddiau cyfeiriodd ei wyneb i hwylio tros y llydan—fôr. Pan yn un o borthladdoedd Califfornia, yn y flwyddyn 1855, tarawyd ef âg afiechyd blin, a fu'n angau iddo, ar ol cystudd byr, a gollyngwyd ei gorff i'w ddyfrllyd fedd yn ei ddeuddegfed mlwydd a thri ugain.

Nodiadau

[golygu]