Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Prichard, J R

Oddi ar Wicidestun
Pritchard, R Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Probert, Lewis

PRICHARD, J. R. (1866—1910).—Mab i R. J. Prichard, Porthmadog, yn ddilynol Fourcrosses, Pwllheli, a disgynydd o hen deuluoedd Cymroaidd Hafod Lwyfog. Derbyniodd ei addysg mewn ysgolion preifat. Yna aeth i Fanc y Mri. Pugh Jones a'i Gyf., yn Llandudno, a phan tuag ugain oed symudodd i Borthmadog. Ar ymddiswyddiad Mr. J. P. Williams, dyrchafwyd ef yn rheolwr, a chadwodd y swydd honno wedi i'r banc gael ei drosglwyddo i'r National Bank of Wales; ac yn ddiweddarach, pan drosglwyddwyd hwnnw drachefn i'r Metropolitan Bank. Ymbriododd â Miss Laura Williams, merch y diweddar Mr. Daniel Williams, Ivy House, ac y mae iddynt un mab. Cymerai ddyddordeb neillduol yng ngwahanol symudiadau cyhoeddus y dref, a gwnaeth lawer i hyrwyddo ei buddiannau ac i roddi ysbrydiaeth yn ei bywyd. Gweithiodd yn egniol i sefydlu yr Arddanghosfa flynyddol, a chydag adran Porthmadog o'r Gwirfoddolwyr. Un o'i ymdrechion diweddaf ydoedd sefydlu Cymdeithas y Gwelliantau, gyda'r amcan o godi'r dref a'r cwmpasoedd i fwy o sylw dieithriaid. Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni y Wasg Genedlaethol Gymreig, a Chwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon. Bu'n Ynad Heddwch am bymtheng mlynedd. Teithiodd lawer, a thraddododd liaws o ddarlithoedd er budd achosion crefyddol a dyngarol yn y dref a'r cymdogaethau cyfagos. Cyfarfu â'i farwolaeth ar y 7fed o Fehefin, 1910.

Nodiadau

[golygu]