Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Roberts, O M
Gwedd
← Roberts, John Prichard | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Roberts, Robert (1790—1865) → |
ROBERTS, O. M. (1833—1896).—Pensaer—architect—mab i Edward Roberts. Ganwyd ef yn Birkenhead, a dygwyd ef i fyny yn asiedydd. Symudodd i Borthmadog yn 1850, a bu'n gweithio crefft ei dad ar gapel y Tabernacl, pryd y cynhaliai hefyd gyfarfodydd i ddysgu drawing. Wedi gorffen adeiladu'r Tabernacl, ymsefydlodd yn adeiladydd; ond rhoddodd hynny i fyny'n fuan, gan ymsefydlu fel pensaer, gyda'r hyn y bu iddo lwyddiant nid bychan, yn enwedig gyda chapelau. Efe a gynlluniodd y Capel Coffa, y Garth, Bont Ynys Galch, ac Ysgol Frytanaidd Porthmadog. Bu farw Rhag. 15fed, 1896, yn ei 63ain mlwydd o'i oedran.