Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Roberts, Robert (1790—1865)
Gwedd
← Roberts, O M | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Roberts, Robert (1824—1892) → |
ROBERTS, ROBERT (1790—1865).—Mab i Edward a Dorothy Roberts, Ystumcegid, a anwyd ym Mawrth, 1790. Symudodd i fyw i Bensyflog. Bu'n flaenor yn eglwys y Methodistiaid yn Nhremadog am flynyddau; yn arolygwr yr Ysgol Sabothol; yn drysorydd y Feibl Gymdeithas; ac hefyd yn Is-lywydd i'r Gymdeithas Gyfeillgar Leol. Bu ganddo ran flaenllaw gyda phob symudiad o bwys yn ei amser yn Nhre' a Phorthmadog; ac yr oedd yn meddu dylanwad yn y cylchoedd y troai ynddynt. Yr oedd yn ddisgynydd o un o bymtheg llwyth Gwynedd, ac iddo berthynas â theuluoedd hynaf y broydd. Bu farw ar y 3ydd o Fai, 1865, yn 75 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Penmorfa.