Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Roberts, Robert (1824—1892)
← Roberts, Robert (1790—1865) | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Roberts, Thomas → |
ROBERTS, ROBERT (1824—1892).—Meddyg a llenor, ydoedd frodor o'r Dyffryn. Bu'n egwyddor-was gyda Dr. Rowland Williams. Sefydlodd fusnes iddo'i hunan, a bu'n ei ddwyn ymlaen yn llwyddiannus, ac ar raddfa eang, am 35 o flynyddoedd. Yn y rhan ddiweddaf o'i fywyd cymerodd yn bartner Dr. Henry Evans. Yr oedd yn wladwr selog, yn ddyngarwr caredig, yn elusengar i'r tylawd, yn dyner o'r amddifad, ac yn noddwr i bob achos teilwng yn y lle. Yr oedd yn llyfrbryf diwyd, a chasglodd gronfa fawr o lyfrau, y rhai a werthwyd wedi ei farw. Carai farddoniaeth, ac yr oedd yn bur fedrus am adrodd. Ei hoff ddernyn ydoedd "Ewyllys Adda." Urddwyd ef yn fardd yn Eisteddfod 1872, wrth yr enw "Robin Goch o'r Gest." Ond ychydig o lwydd a fu iddo fel bardd. Gwnaeth benhillion coffa am ei wraig; a threiodd ei law at wneud englyn i "Hafgwm," yng nghreigiau Bwlch y Môch. Wele'r ymgais:
HAFGWM.
Creigiog, clogyrnog gernau,—hynodol,
Ofnadwy bicellau,
Yw Hafgwm, erchyll gwm gau,
Ond bu am wythnosau yn methu llunio'r linell olaf. Wedi iddi fyned "i'r pen" arno, aeth i ddweyd ei gŵyn wrth Ioan Madog. "Yn eno'r tad," ebe Ioan, pam na ddeudwch chi,
"A nadrodd yn ei odrau!"
Yr oedd yn ŵr haelionnus a charedig, er yn wyllt ei dymer. Yn Eisteddfod 1872 cynhygiodd wobr o ddeg punt am y Bryddest oreu ar "Gariad Mam." Bu'n briod â Miss J. Elizabeth, chwaer Mr. Edward Breese; ond ni bu iddynt blant. Bu farw yn haf 1891, trwy syrthio i lawr y grisiau. Yr oedd ei briod wedi marw o'i flaen. Rhoddodd golofn ar ei bedd o'r meini gwenithfaen sydd wrth Bwlch y Môch—carreg fawr uchel, wedi ei nhaddu, ac yn hollol nodweddiadol o'r Doctor hynod. Wele'r cerfiad:—
In Memory of
JANE ELIZABETH,
the beloved wife of
Robert Roberts, M.R.C.S., &c.
of Tuhwntirbwlch, Portmadoc;
and daughter of the Rev. John Breese
and Margaret his wife.
In all the relations of life exemplary,
a loving and devoted wife,
a good and dutiful daughter,
a tenderly attached sister,
and a true friend of the poor,
she went to her rest on
the 13th day of November, 1880,
at the all too early age of 49
The above Robert Roberts,
was laid by the side of his BELOVED,
Aug. 1st, 1891. Aged 69.