Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Thomas, Job

Oddi ar Wicidestun
Tegidon (John Phillips) Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Thomas, John

THOMAS, JOB (1814—1885).—Cerddor, ac ysgolfeistr —mab i weinidog o'r un enw, a wasanaethai ar eglwysi Annibynol Cymreig yn Woolwich a Deptford. Ganwyd y mab yn Deptford ar y 31ain o Ionawr, 1814. Cafodd addysg dda, a dygwyd ef i fyny yn wneuthurwr hetiau. Gadawodd Lunden yn ieuanc, gan wynebu ar Gymru, ac ymsefydlu dros amser yn Nhre'r Ddol, Llangynfelen—ardal ei fam. Oddi yno drachefn symudodd i Dremadog—ac yno y priododd cyn bod yn ugain oed, ac y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd yn gerddor, bardd, a llenor; a chyfansoddodd amryw ddarnau yn y cymeriadau hynny. Bu am gyfnod yn cadw ysgol yn Nhremadog, a chyfrifid ef yn un lled fedrus gyda'r gwaith. Bu hefyd yn gyfrifydd (accountant). Ar sefydliad y Bwrdd Iechyd, yn y flwyddyn 1858, penodwyd Job Thomas yn Glerc iddo; a bu'n llanw'r swydd honno hyd y cyntaf o Ionawr, 1883, pryd, oherwydd ei henaint a llesgedd, y rhoddwyd iddo gydnabyddiaeth o ddeg swllt yn yr wythnos tra fu byw, ac y penodwyd Mr. John Jones, y clerc presennol, i'r swydd. Bu Job Thomas farw yn y flwyddyn 1885, yn 75 mlwydd oed.—(Cymru, Cyf. xxxviii., tud. 264).

Nodiadau

[golygu]