Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Thomas, John

Oddi ar Wicidestun
Thomas, Job Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Williams, David

THOMAS, JOHN (1824—1887).—Brodor o Gaernarfon. Symudodd i Borthmadog, tua'r flwyddyn 1850, i fod yn shipping clerk i'r Mri. Greaves. Yr oedd yn Eglwyswr selog a chydwybodol, a bu'n olynydd i William Owen fel arweinydd côr yr Eglwys. Efe, gydag Alltud Eifion, a gychwynodd yr achos Eglwysig ym Mhorthmadog. Efe oedd ysgrifennydd yr Ysgol Genedlaethol a'r Bwrdd Ysgol, hyd ei farwolaeth, ar y 1af o Fawrth, 1887, yn 63 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Ynyscynhaiarn.

Nodiadau

[golygu]