Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Tryfanwy, J R

Oddi ar Wicidestun
Roberts, John Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Williams, James Evan

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Richard Williams (J.R. Tryfanwy)
ar Wicipedia

TRYFANWY, J. R.—Brodor o bentref Rhostryfan; yno y'i ganwyd, ar y 29ain o Fedi, 1867. Ni chafodd ond ychydig o addysg. Pan yn naw mlwydd oed collodd ei olwg a'i glyw yn llwyr, a pharhaodd felly am flwyddyn. Yn 1880 dechreuodd ymadnewyddu drachefn. Symudodd ei rieni o Rostryfan i Dyddyn Difyr, Moeltryfan. Yno collodd ei fam ei hiechyd. Bu am gyfnod yn gweithio yn y chwarel, hyd nes y dechreuodd ei olwg waethygu eilwaith. Pan yn ddwy ar bymtheg oed, gorfu iddo fyned i'r Ysbyty i Lerpwl. Ychydig o leshad a gafodd yno. Collodd ei dad drwy ddamwain yn y chwarel. Aeth y Tyddyn yn dduach, a gorfu iddo ef, a chwaer fabwysiedig, a'i fam glaf, adael y lle. Aethai ei dad yn dlawd wrth suddo'i arian i dir gwael i gadw bywyd ei fam, a cheisio rhoddi ei olwg i'w unig fachgen—canwyll ei lygad, oedd bron yn ddall a byddar. Aethant i fyw i Dan y Manod, Rhostryfan. Yno bu farw ei fam, ar y 1af o Awst, 1886. Aeth y "chwaer fach" at ei nhain i Leyn, a chafodd yntau gartref yma ac acw hyd wanwyn 1887, pryd yr aeth i gartrefu at ei fodryb, chwaer ei dad, i Borthmadog. Yn ei adgofion yn Heddyw, Mawrth, 1897, dywed:

"Nis gwn pryd y dechreuis ganu; ond gwn mai colli fy nhad a'm gwnaeth yn fardd, ac mai colli fy mam a'm'hurddodd.' Cleddyf tanllyd profedigaeth oedd fy nghledd di-wain. O ymyl Gorsedd Angau y deuthum i'r byd, gan benderfynu barddoni."

Urddwyd ef gan Clwydfardd yn Eisteddfod Porthmadog, 1887. Y mae wedi ennill amryw gadeiriau a thlysau, ac y mae wedi cyhoeddi dau lyfr o farddoniaeth, sef Lloffion yr Amddifad," ac "Ar fin y Traeth."

"Prif nodwedd ei farddoniaeth yw dwysder,—nid dwysder pregethwr cyfiawnder yn unig, ond dwysder y gwir arlunydd hefyd. Nid yw prudd—der ei fywyd yn ei gân ond yn anaml; dwysder dedwydd gobaith sydd ynddi. Y mae hyawdledd pregethwr moesoldeb yn ei farddoniaeth."—O. M. Edwards.

Nodiadau

[golygu]