Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Williams, J H

Oddi ar Wicidestun
Williams, John (Tuhwnt i'r Bwlch) Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Williams, Walter Ebner

WILLIAMS, J. H. (1813—1876).—A anwyd ar yr 8fed o Orffennaf, 1813. Gôf cyffredin ydoedd wrth ei alwedigaeth. Gweithiodd yn galed. Codai'n fore, ac elai'n hwyr i gysgu, a gorchfygodd anhawsderau lu. Ymddyrchafodd i fod yn berchennog y Britannia Foundry, y Steam Mills, ynghyda nifer o longau a thai; a bu am gyfnod helaeth o'i fywyd yn llwyddiannus iawn. Ni dderbyniodd unrhyw fanteision addysg ym more'i oes; ond yr oedd yn feddiannol ar ynni a phenderfyniad diderfyn ymron. Cyflogai lawer o weithwyr, ac yr oedd caredigrwydd ac haelioni'n cydgyfarfod ynddo. Yr oedd yn Fethodist selog. Cymerodd ran amlwg yn ffurfiad eglwys y Tabernacl, a gwnaed ef yn un o'i swyddogion cyntaf. Gwasanaethodd ei gapel a'i enwad yn ffyddlon, a gadawodd ganpunt yn ei ewyllys ddiweddaf tuag at ddiddyledu'r Tabernacl. Gweithiodd yn egniol gydag addysg rydd, a chyfranodd yn helaeth tuag ati. Yr oedd yn ewythr, o frawd ei fam, i'r Cymro twymgalon, Mr. Cadwaladr Davies, Bangor—un o garedigion pennaf addysg Cymru. Bu farw ar yr 21ain o Awst, 1876, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent capel y Garth.

Nodiadau

[golygu]