Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Williams, John (Tuhwnt i'r Bwlch)

Oddi ar Wicidestun
Williams, David Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Williams, J H

WILLIAMS, JOHN (Tuhwnt i'r Bwlch, 1778—1850). —Un o wyr mawr Môn " oedd efe, ac yn deilwng o draddodiadau gore'r Ynys. Mab ydoedd i amaethwr cyfrifol, Mr. John Williams, Ty'n Llan, Llanfihangel Ysgeifiog. Dygwyd ef i fyny yn arddwr, ym Mhlas Ardalydd Môn. Ond pan glywodd am anturiaethau Mr. Madocks, cyfeiriodd ei wyneb tuag ato,—ei debyg a dyn at ei debyg, ar y cyntaf i geisio ganddo le yn arddwr; ond gwelodd Mr. Madocks yn fuan adnoddau amgenach na garddwr ynddo gwelodd ddefnyddiau goruchwyliwr, ac ni siomwyd mohono. Ymsefydlodd Mr. Williams yn Ynys Tywyn—nid oedd yr enw Porthmadog wedi ei fabwysiadu y pryd hynny. Ymbriododd â Miss Williams, Saethon, Lleyn, a symudasant i fyw i Duhwnt i'r Bwlch. Ymdaflodd Mr. a Mrs. Williams i fywyd goreu'r dref ieuanc. Hwynthwy fu'n foddion i sefydlu achos Annibynol yn y lle. Cymerai Mr. Williams ran flaenllaw gydag addysg, a phob achos dyngarol. Eglwyswr egwyddorol ydoedd, ond noddai grefydd yn gyffredinol. Yr oedd yn gyfaill personol i feirdd a llenorion y cwmwd, ac yn un o garedigion pennaf y bardd gorweddiog, Sion Wyn o Eifion. Ar ol ei farw, ebe Sion Wyn mewn llythyr at Eben Fardd —"Gwyddwn yn dda y byddai i ti gydymdeimlo â mi yn y golled a gefais trwy farwolaeth Mr. Williams. Anhawdd fydd i mi weled neb a ragora arno ef fel cyfaill yn ei fawr ewyllys da i mi—ei ymgais i wneud lles i mi, ei ofal gwastadol am danaf, a'i ddull tyner a serchiadol tuag ataf: yr oedd yn nodedig a thra theilwng o fy mharch mwyaf diffuant."[1] Bu farw, ar y 26ain o Dachwedd, 1850. Dodwyd ei weddillion mewn vault o dan lawr Eglwys Tremadog, a dodwyd coflech o fynor ar bared yr eglwys er cof am dano, ac hefyd am ei briod a'u hunig fab, y rhai a hunant yn yr un beddrod.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Adgof Uwch Anghof," tud. 154.