Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Y Cymdeithasau

Oddi ar Wicidestun
Yr Eisteddfodau Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Yr Enwogion-Alltud Eifion

PENNOD VII.
Y CYMDEITHASAU.

Y Rhai Fu—Y Rhai Sydd.

"Gellir darllen hanes gwlad oddiwrth ei Chymdeithasau."

"God has made you social and progressive beings. It is your duty, then, to associate yourselves and to progress as much as is possible in the sphere of activity in which you are placed by circumstances, and it is your right to demand that the society to which you belong shall not impede you in your work of association and of progress, but shall help you in it and supply you with the means of association and of progress."—MAZZINI.

Y CYMDEITHASAU A FU.

Cymdeithas Eifionnydd er Cospi Drwg-weithredwyr.
Sefydlwyd 1820.

Trysorydd, Owen Griffith, Ysw., Cefn Coch. Ysgrifennydd, Ellis Owen, Ysw., Cefn y Meusydd. Gan fod adroddiad ac un o hysbyslenni'r Gymdeithas hon am y flwyddyn 1834 yn fy meddiant, ac na bu'r manylion am dani, hyd y sylwais i, yn argraffedig mewn na llyfr na chylchgrawn, dodaf hwn i mewn yma, gan fod prif wyr Porthmadog yn noddwyr iddi. Wele'r hysbysiad:

Yr ydym yn hysbysu
Ein bod ni, y rhai sydd a'n 'henwau isod, wedi cyd-uno i ddilyn yn egniol y moddion cyfreithlawn i gospi pawb a ddygant, neu a ddrygant ein Heiddo, a'n Meddiannau. Ac fel y byddo i ni gael ein bwriad cyfiawn yn mlaen yn fwy effeithiol, yr ydym wedi darparu ac ymrwymo i dalu y Gwobrau canlynol, i bwy bynag a fyddo yn foddion i ddal a chospi yr hwn neu y rhai a wnelont y Drygau isod:—

Llosgi Tai Annedd, neu unrhyw Dai allan, Yd neu Wair; Torri Tai, neu Yspeilio ar y Ffordd Fawr Lladrata Ceffyl neu Gaseg.......£4 4s 0d
Lladrata Eiddo eu Meistr neu eu Meistres, gan was neu forwyn ......£3.0.0
Lladrata neu Anafu Buwch, Llo, Dafad, neu ryw anifail arall.........£2.10.0
Lladrata unrhyw fath o Dda neu Eiddo allan o Adeilad, neu Feusydd cauedig ........£2.2.0
Torri Coed, Canghennau, neu Blanhigion Coed byw, o unrhyw le......£1.1.0
Lladrata neu ddrygu Gwagenau, Troliau, Erydr, neu ryw Offer Hwsmonaeth .......£1.0.0
Lladrata Yd, Gwair, neu Wellt, ar eu traed neu wedi eu torri; Pytatws, Maip, neu Fresych, yn neu allan o'r ddaear ......... £1.0.0
Lladrata Mawn o Fawnog, Cors, neu oddiwrth Dy; Glo a phob Tanwydd neu ladrata Eithin ......£1.0.0
Torri Perllannau neu Erddi Herw—hela, cario Gynau, a Saethu yn y nos . Lladrata Moch neu Adar Dofion .........£0.10.0
Troseddu ar Dir neu Feusydd, trwy wneud gau Lwybrau neu Ffyrdd .........£0.10.0
Torri neu Ladiata Llidiardau, Cledrau, Pyst, neu Heiyrn a fyddo yn perthyn iddynt .........£0.10.0
Cerddedwyr a Chrefwyr digywilydd (Impudent Vagrants).........£0.10.0


Ac am unrhyw Drosedd neu Ladrad a wneler ac na enwyd uchod, rhodder y Wobr a farno Dirprwywyr y Gymdeithas yn addas; hefyd telir y draul am chwilio i gael allan unrhyw Ddrwgweithredwr, cymaint (ond nid mwy) a'r Wobr am y trosedd hwnnw.

Yn dilyn yr uchod y mae enwau tua chant o wŷr blaenllaw y cymdogaethau. Gelwid y Gymdeithas hon ar lafar gwlad yn "Glwb Lladron,"[1] a pharhaodd mewn bri hyd sefydliad yr Heddgeidwaid. Fel i bob clwb arall, yr oedd iddi ei "chinio blynyddol." Yr oedd hwnnw a'r aelodaeth i'w cael am hanner coron. Cynhelid y cinio ar Ddydd Gwyl Dewi, ym Mhenmorfa a Thremadog bob yn ail. O'r Gymdeithas hon y deilliodd y Gymdeithas Geidwadol bresennol.

Cymdeithas Gynhorthwyawl Tre a Phorthmadog.<br.> Sefydlwyd Nadolig, 1838.

Llywydd, John Williams, Ysw., Tuhwnt i'r Bwlch. Is-Lywydd, Ellis Owen, Cefn y Meusydd.

Ymddiriedolwyr: Samuel Holland, Ysw., Plas y Penrhyn; John Williams, Ysw., Brecon Place. Trysorydd, Mr. Maurice Lloyd, Porthmadog. Ysgrifennydd, R. Isaac Jones, Tremadoc.

Cymdeithas Ddarllen Porthmadog, i Forwyr, Crefftwyr, ac eraill.

"Mae y Gymdeithas uchod wedi ei sefydlu er's amryw flynyddau, ac yn parhau yn fywiog yn ei gweithrediadau. Mae yn perthyn iddi ystafell ddarllen dra chyfleus, a llyfrgell at wasanaeth yr aelodau mae yr hawl sydd gan yr aelodau i gymeryd llyfrau gyda hwynt adref o'r llyfrgell, er eu galluogi i estyn manteision y sefydliad i'r cyfryw o'u teuluoedd nas gallant fod yn aelodau o'r Gymdeithas.

Mae y llyfrgell yn gynwysedig o lyfrau Cymraeg a Saesneg nifer dda o bapurau newyddion yn eu mysg ddau o bapurau dyddiol Llundain, a thri o bapurau wythnosol, ac amryw o'r cyhoeddiadau misol Cymreig. Hefyd Yr Amserau a'r Traethodydd. Mae y Gymdeithas wedi ei galluogi i osod yr holl fanteision hyn o fewn cyrraedd yr iselaf eu sefyllfa. Chwe' cheiniog yn y mis, sef deunaw ceiniog yn y chwarter, yw y cwbl o dâl am wasanaeth yr ystafell a'r llyfrau. Ac y mae tanysgrifwyr o ddeg swllt a chwe' cheiniog yn y flwyddyn yn cael gwasanaeth yr ystafell a'r llyfrau yn ddi-dâl i'w mheibion (os rhwng yr oed o dair ar ddeg a deunaw mlynedd) ac i'w prentisiaid, os y byddant yn feistriaid gwaith. Ym misoedd y gaeaf, bwriedir traddodi darlithoedd ar faterion buddiol a phoblogaidd, y rhai a fyddant yn rhydd i'r holl aelodau. Mae y cyfeisteddfod hefyd yn derbyn tanysgrifiadau o 5/- oddi wrth y llongau perthynol i'r porthladd, yr hyn sydd yn gwneuthur yr ystafell yn rhydd i'r dwylaw oll, tra y byddont yn y cyfleusderau, heb ddim tâl ychwanegol." —(Y Geiniogwerth, Rhagfyr, 1847).

Gresyn i'r fath Gymdeithas ragorol fethu dal ei thir.

Club Chwareu Porthmadog. (The Portmadoc Histrionic Club).
1870.

Cymdeithas Gerddorol Porthmadog. Arweinydd, William Owen.
1863.

Y Temlwyr Da. "Teml Madog."
1872—1889.

Prif Demlydd, Mr. John Owen.
Ysgrifennyddes, Miss A. Williams, Lombard Street
Ar у 9fed o Ebrill, 1878, cynhaliwyd Uwch Deml Cymru ym Mhorthmadog.

Cymdeithas Lenyddol y Bobl Ieuanc. (Portmadoc Literary Debating Society).
1878—1886.

Ei Swyddogion cyntaf:—Llywydd, Mr. Thomas Jones, (Cynhaearn); Trysorydd, Mr. Thomas Roberts, cyfreithiwr; Ysgrifennydd, Mr. Robert Williams, Foundry.

A'r Gymdeithas hon yr ymunodd Mr. Lloyd George ar ei ddyfodiad i Borthmadog, ac ynddi hi y dechreuodd siarad yn gyhoeddus ac y dadblygodd ei ddawn ddadleuol.

Cylchwyl Lenyddol Salem.
1856.

Gogyfer a'r Gylchwyl hon yr ysgrifennodd Owen Morris ei draethawd ar "Portmadoc and its Resources."

Cymdeithas Gerddorawl Porthmadog. (The Portmadoc Choral Society).
Arweinydd, Mr. John Roberts.
1868—1890.

Y Gerddorfa Linynnawl Porthmadog. (The Portmadoc Orchestral Society).
Arweinydd, Mr. John Roberts.
1870-1890.

Cymdeithas y Cleifion.
Ysgrifennydd, Mr. William Jones.

Cymdeithas Gyfeillgar Porthmadog.
1862—1912.

Swyddogion cyntaf: Ymddiriedolwyr, Edward Breese, Ysw., a Samuel Holland, Ysw., A.S. Ysgrifennydd, Mr. Robert Jones, Bank Place.

North Wales Mutual Ship Collision Insurance Society.
1866—1908.


CYMDEITHASAU Y SYDD.
CYMDEITHASAU CREFYDDOL.

Cyngor Eglwysi Rhyddion Porthmadog a'r Cylch.

Cyn—Lywyddion, Mr. Jonathan Davies, Y.H., Parch. W. Ross Hughes, Parch. D. J. Williams, Mr. E. Hugheston Roberts, Parch. T. Bassett, Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D., Mr. Joseph Roberts.

Y Swyddogion presennol,—Llywydd, y Parch. Owen Evans. Is—Lywydd, Mr. W. T. Williams, Penmorfa. Trysorydd, Mr. D. R. Thomas. Ysgrifennyddion, Mri. W. D. Jones, Morfa Bychan, ac E. Gwaenog Rees, 126, High Street.

Undeb Gweinidogion Dyffryn Madog.
Ysgrifennydd, y Parch. W. Ross Hughes.

Y Feibl Gymdeithas. Sefydlwyd 1870.

Swyddogion cyntaf,—Llywydd, Mr. Edward Breese. Ysgrifennydd, Mr. J. Phillips (Tegidon).

Swyddogion presennol,—Llywydd, Mr. Robert Williams, Britannia Foundry. Trysorydd, Mr. D. R. Thomas. Ysgrifennydd, Mr. Hugh Hughes, New St.

CYMDEITHASAU LLENYDDOL.

Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl (M.C.).

Llywydd, y Parch. J. Henry Williams. Is-Lywydd, Mr. Robert Roberts. Trysorydd, Capten Lloyd, Derlwyn. Ysgrifennydd, Mr. Beton Jones.

Cyfarfod Llenyddol a Cherddorol y Nadolig
(Tabernacl).

Cadeirydd, Mr. David Williams, Ivy House. Trysorydd, Mr. William Jones, 9, Snowdon Street. Ysgrifennydd, Mr. Robert Roberts, Hebog View.

Cymdeithas Lenyddol Seion (B.).

Llywydd, Mr. Robert Humphreys. Is-Lywydd, Mr. Morris E. Morris. Trysoryddes, Miss E. O. Pugh. Ysgrifennydd, Mr. Edward Ames.

Cymdeithas Lenyddol Ebenezer (W.).

Llywydd, y Parch. Owen Evans. Ysgrifennyddes, Mrs. O. G. Lloyd, Tremydre. Trysorydd, Mr. W. H. Rogers, Marine Terrace.

Cymdeithas Lenyddol Eglwys Sant Ioan.
Llywydd, y Parch. J. E. Williams.

Cymdeithas Lenyddol y "Vagabond."

Sefydlwyd Hydref, 1910, ar gynllun Cymdeithas Lenyddol Cefn y Meusydd. Ymdrinir ynddi â phrif bynciau'r dydd, ac ar awdwyr a llyfrau. Etholir ei haelodau trwy ballot, a chyfyngir eu rhif i 21. Cynhelir y cyfarfodydd yn wythnosol, a dewisa pob cyfarfod ei gadeirydd. Ei sefydlwyr oeddynt—Mri. W. H. Gibbon, County School; J. Emrys Davies, Garth Cottage; Ithel Davies, Bryn Eirian.

Swyddogion presennol, Trysorydd, Mr. Ithel Davies. Ysgrifennydd, Mr. J. Emrys Davies.

CYMDEITHASAU CYFEILLGAR.

Yr Odyddion. Cyfrinfa "Madoc."
Sefydlwyd 1878.

Y Swyddogion cyntaf,—Llywydd, F. H. Strowger. Is—Lywydd, Mr. W. R. Williams, High Street. Ysgrifennydd, Mr. R. W. Owen. Trysorydd, Mr. David Williams, Slate Works. Gwarcheidwad, Mr. W. O. Jones.

Yr Ysgrifennydd presennol, Mr. William Jones, Eifion Villa.

Nifer ar y llyfrau, 217.

Urdd Henafol y Coedwigwyr.
(Cymdeithas Deyrngarol Madog, Rhif 6521).
Sefydlwyd 1879.

Y Swyddogion cyntaf,—Capten Williams; Mri. William Jones, Garth Terrace; R. Williams, Madoc Street; a C. Williams, Chapel Street. Ysgrifennydd, Mr. R. Barrow Williams, High Street.

Y Swyddogion presennol,—Ymddiriedolwyr, Mri. D. Morris, Oakleys; D. R. Thomas, J. R. Owen. Swyddog Meddygol, Dr. Richard Griffith. Trysorydd, C. Williams, New Street. Ysgrifennydd, E. J. Edwards, Madoc Street.

Rhif ar y llyfrau, Rhagfyr 31, 1911, 228.

Y Serri Rhyddion. Cyfrinfa Madoc.
Rhif 1509.
Sefydlwyd Awst 24ain, 1874.

Swyddogion 1912,—Worshipful Master, Dr. Pierce Jones. Trysorydd, Bro. J. Jones Morris, P.M., P.P.G.S.W. Ysgrifennydd, Bro. J. Owain Hughes, P.M., P.P., G.Std.

Rhif yr aelodau, 61.

Cymdeithas Gynhorthwyol y Cambrian. (Cambrian Railway Mutual Aid Society).
Sefydlwyd 1912.

Llywydd, Mr. G. W. Yates. Trysorydd, Mr. Henry Jones (Arolygydd). Ysgrifennydd, Mr. Wm. Jones.

Cymdeithas Adeiladu Porthmadog.
Sefydlwyd 1866.

Ysgrifenwyr, Mr. Robert Jones, 3, Bank Place (1866—91); Mr. William Prichard, Broker (18911900); Mr. Griffith Prichard (1900).

CYMDEITHASAU GWLEIDYDDOL.

Y Gymdeithas Ryddfrydol.
Sefydlwyd Ionawr, 1887.

Swyddogion cyntaf,—Llywydd, Mr. Randall Casson.. Ysg. Mygedol, Mr. Robert Jones, Cyfreithiwr. Ysg.Cyffredinol, Mr. J. R. Pritchard. Trysorydd, Mr. Robert McLean.

Swyddogion presennol,—Llywydd, Mr. W. Morris. Jones. Trysorydd, Mr. William Jones, Metropolitan. Bank. Ysgrifennydd, Mr. T. H. Jones.

Rhif yr aelodau, 212.

Y Gymdeithas Geidwadol.
Sefydlwyd 1884.

Swyddogion cyntaf,—Llywydd, Dr. Jones Morris. Ysgrifennydd, Mr. J. E. Jones, Bank Place.

Swyddogion presennol, Llywydd, Mr. George Yates. Trysorydd, Serg. J. Hammond. Ysgrifennydd, Mr. Griffith Prichard.

Rhif yr aelodau, 170.

CYMDEITHASAU MORWROL.

Cymdeithas Yswiriol Llongau Porthmadog. (The Portmadoc Mutual Ship Insurance Society).
Sefydlwyd 1841.

Ysgrifennydd, Mr. Griffith Prichard. Trysorydd, Mr. David Morris.

Cymdeithas Yswiriol y Gomerian.
(The Gomerian Freight and Outfit Mutual Ship Insurance Society).
Sefydlwyd 1875.

Llywydd, Capten Morgan Jones. Trysorydd, Mr. David Davies. Ysgrifennydd, Mr. Griffith Prichard.

Cymdeithas y Morwyr.
(The Fishermen Society).

Ysgrifennydd, Mr. H. Arthur Thomas.

Sefydliad y Morwyr
(Sailors' Institute).
Agorwyd Tachwedd 11eg, 1907.

Swyddogion,—Llywydd, Mr. Richard Davies, C.S. Ysgrifennydd, Mr. J. Owain Hughes, The Glen.

CYMDEITHASAU MEDDYGOL.

Cymdeithas Feddygol y Gweithwyr, Porthmadog a'r Amgylchoedd.
Sefydlwyd Gorffennaf, 1889.

Meddyg, Dr. Harry R. Griffith. Ysgrifennydd, Evan Lloyd, East Avenue.

Cymdeithas Feddygol Gweithwyr Porthmadog a'r Amgylchoedd.

Meddyg, Dr. Roberts, Bank Place. Llywydd, David Williams, Penmorfa. Trysorydd, Owen Williams, Tremadog. Ysgrifennydd, F. Llew. Buckingham.

Cymdeithas Mamaethod Porthmadog. (Portmadoc District Nursing Association).
Sefydlwyd 1895.

Y Pwyllgor Mygedol,—Dr. Harry R. Griffith, Dr. Pierce Jones, Dr. Roberts, Dr. R. Griffith, a Dr. Green.

Ysgrifenyddesau, Mrs. McLean a Mrs. Purnell. Llywyddes a Thrysoryddes, Mrs. Breese.

The Portmadoc Ambulance Brigade.
Sefydlwyd 1896.

Yr Athraw Meddygol cyntaf, Dr. Walter Williams. Dilynwyd ef gan Dr. Harry Griffith.

CYMDEITHASAU'R MERCHED.

Cymdeithas Dorcas (Tabernacl).
Sefydlwyd 1898.

Llywyddes, Mrs. Davies, Bryneirian. Ysgrifennyddes, Miss Williams, Osmond View. Trysoryddes, Mrs. Roberts, Post Office.

Y Girls' Friendly (St. Ioan).
Ysgrifennyddes, Miss Homfray.

Y Girls' Guild.
Llywyddes, Mrs. Cornelius Roberts.

Cymdeithas Ddirwestol y Merched.
Sefydlwyd 1894

Llywyddes, Mrs. J. T. Jones, L. C. & M. Bank. Ysgrifennyddes, Mrs. Cornelius Roberts.

Y LLYFRGELLOEDD.

Llyfrgell Eglwys y M.C., Tabernacl.
Sefydlwyd 1904.

Trysorydd, Mr. David Jones, 18, Snowdon Street. Llyfrgellydd, Mr. Robert Williams.

Llyfrgell Eglwys y M.C., Garth.

Llywydd, y Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D. Trysorydd, Miss A. Williams, Lombard Street. Ysgrifennydd, Mr. J. O. Jones, Central Buildings. Llyfrgellydd, Mr. G. Griffiths, Wharf.

Llyfrgell y Clwb Rhyddfrydol.

Llyfrgell y Clwb Ceidwadol.

Darllenfa Pen y Cei.

CYMDEITHASAU CERDDOROL.

Cymdeithas Gorawl Porthmadog.
Sefydlwyd 1904.

Arweinyddion, Mr. J. C. McLean, F.R.C.O., a Mr. Evan Evans. Llywydd, Mr. D. Breese. Trysorydd, Mr. David Williams. Ysgrifennydd, Mr. D. O. M. Roberts.

Y Gerddorfa.

Arweinyddion, Mr. J. C. McLean, F.R.C.O., a Mr. Evan Evans. Trysorydd, Mr. J. Jones Morris. Ysgrifennydd, Mr. R. Jones Lloyd.

Arddanghosfa Cwn a Cheffylau Porthmadog a'r Cylch.
Sefydlwyd 1885.

Swyddogion cyntaf,—Llywydd, Mr. J. P. Roberts, Ynystowyn. Ysgrifennydd, Mr. R. G. Humphreys (R. o Fadog).

Cymdeithas y Gwelliantau.
Sefydlwyd Mai, 1908.

Llywydd, Mr. Jonathan Davies, Y.H. Ysgrifennydd, Mr. Llew. Ll. Davies.

CYMDEITHASAU CHWAREU.

Y Golf.

Llywydd, Mr. Ellis Jones. Trysorydd, Mr. J. O. Hughes. Ysgrifennydd, Mr. William Jones.

Y Cricket.

Llywyddion, Mr. D. Breese a Dr. H. R. Griffith. Trysorydd, Mr. G. Roberts. Ysg., D. Williams.

Tennis.

Captain, Mr. Lloyd Roberts. Trysorydd, Mr. Harold Jones. Ysgrifenyddion Miss Newell a Mr. Littler.

Y Bêl Droed.

Llywydd, Mr. G. Roberts. Trysorydd, Mr. H. A Stokes. Ysgrifennydd, Mr. Willie Hughes.

Nodiadau

[golygu]
  1. Neu "Clwb y Lladron Mawr yn cosbi lladron bach."