Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Yr Enwogion-Alltud Eifion

Oddi ar Wicidestun
Yr Eisteddfodau Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Beuno (Richard Williams)

PENNOD VIII.
YR ENWOGION.

Arferwn ddweyd pan fo gwr o bwys farw, yr el pethau ymlaen hyd yn oed hebddo ef, a dichon yr ant, ond y mae'n gwestiwn a elent mor dda, pe na buasai efe erioed wedi bod yn eu gyrru. Yr hwb a gawsant gan wyr cryfion a fu sy'n gyrru aml i beth ymlaen heddyw."—MORRIS PARRY, Caer.

ENWOGION DDOE.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Robert Isaac Jones (Alltud Eifion)
ar Wicipedia

ALLTUD EIFION (Robert Isaac Jones, 1814—1905). —Cyhoeddwr, hynafiaethydd, a bardd, a aned yn Nhyddyn Iolyn, Pentrefelin, ger Porthmadog, yn y flwyddyn 1814. Yr oedd yn ddisgynydd o hen deulu enwog Isallt yn Eifionnydd,—y cyff yr hannai Dafydd y Garreg Wen o hono,—teulu nodedig am eu mhedr meddygol. Bu R. Isaac Jones yn egwyddor-was gyda Mr. D. C. Williams, Pwllheli; oddi yno aeth i Gaernarfon a Llunden. Yn y flwyddyn 1835 agorodd fasnach Fferyllydd, ar ei gyfrifoldeb ei hun, yn Nhremadog, lle y treuliodd weddill ei oes faith. Bu hefyd am gyfnod yn cadw cangen o'r busnes ym Mhorthmadog. Bu ganddo ran helaeth ym mywyd eglwysig a chenedlaethol Tre a Phorthmadog. Efe, gyda Mr. John Thomas y Cei, a gychwynodd achos eglwysig ym Mhorthmadog, ac a fuont yn brif sylfaenwyr yr Eglwys yno, a bu'n aelod gweithgar ar ei phwyllgor adeiladu. Bu'n warden, yn overseer, ac yn aelood o bwyllgor yr Ysgol Genedlaethol a'r Bwrdd Addysg wedi hynny. Cymerodd ran amlwg yn y frwydr yn erbyn mabwysiadu'r Bwrdd. Yr oedd yn noddwr selog i'r Eisteddfod, a dilynodd hi ar hyd ei fywyd. Urddwyd ef yn Eisteddfod Biwmaris. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth ar hyd ei oes—englynion yn bennaf. Ond ei hoff faes ydoedd Hynafiaeth. Ysgrifennodd "beth wmredd" yn y cyfeiriad hwnnw i'r newyddiaduron a'r cylchgronnau,



EMRYS

er na wnai hynny wrth drefn na rheol. Cyhoeddodd rai llyfrau, megis "Yr Emynydd Cristionogol," yn 1889; "Y Gestiana, sef Hanes Tre'r Gest, &c., yn 1892; a chyhoeddodd a golygodd "Cell Meudwy, sef Gweithiau Ellis Owen,'" yn 1877; a Gwaith Barddonol "Sion Wyn o Eifion " yn 1861. Efe hefyd oedd golygydd a chyhoeddwr "Baner y Groes," sef cylchgrawn misol Eglwysig; ac yr oedd yn gyd-olygydd â'r Parch. D. Silvan Evans i'r Brython, 1858-1863, ac yn gyhoeddwr iddo. Yr oedd yn gyfaill personol â phrif lenorion a chlerigwyr ei oes. Yr oedd yn wr hynaws a charedig, er y gallai ffraeo ar bapur dan gamp.

Bu'n briod dair gwaith—gyda Miss Hughes, ail ferch Dr. T. Hughes, Pwllheli; â Miss Roberts, Tremadog; a'r tro olaf gyda Miss Roberts, Bodlina, Môn. Bu iddo bedwar mab-un ydoedd Dr. Henry Isaac Jones, a fu farw yn San Francisco. Nid oes yn fyw heddyw ond Mr. E. Christmas Jones, Fferyllydd ac Argraffydd, Tremadog. Bu Alltud Eifion farw ar y 7fed o Fawrth, 1905, mewn oedran teg, yn 91 mlwydd oed, a chladdwyd ef yng nghladdfa'i hynafiaid ym mynwent Ynyscynhaiarn. Dodwyd ffenestr liwiedig ddrudfawr er coffadwriaeth am dano yn eglwys Ynyscynhaiarn. Wele'i doddaid coffa:

Hybarch hen oeswr, burwych hanesydd,
A'r haeddaf, hynaf, o feirdd Eifionnydd:
Trist yw a daenant trosot adenydd,
Cwsg awdwr eurddawn,—cwsg, wedi'r hirddydd.
Am dy ffawd a grym dy ffydd—erys son,
Tra cyrrau Eifion yn gartre crefydd.
—EIFION WYN.


Nodiadau

[golygu]