Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Y Methodistiaid

Oddi ar Wicidestun
Y Bedyddwyr Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Yr Eglwys Wladol

Y GARTH

Dechreu'r Achos 1838
Adeiladu'r Capel 1845
Helaethwyd 1856
Adeiladu'r Capel presennol .1896-88


Y Gweinidogion

Y Parch. Thomas Owen 1860-1903
Y Parch W. T. Ellis, B.A., B.D. 1905


Dyn gwahanol iawn i'r Parch. W. Ambrose ydoedd y Parch. John Jones, Tremadog, er ei fod yn bregethwr o nôd gyda'r Methodistiaid—a hynny oedd ei gryfder. Yr oedd ym more ei oes yn hynod geidwadol ei ysbryd, ac yn hwyrfrydig i symud gyda'r oes. Pe'n fwy byw i "arwyddion yr amserau" buasai safle'r enwad yn y Dosbarth yn wahanol hyd yn oed i'r hyn ydyw heddyw. Gwrthwynebai yn gadarn y syniad o adeiladu capelau'n yr ardaloedd cylchynol, hyd nes y trechwyd ef yn llwyr gan y mwyafrif. Credai ef nad gormod oedd i'r bobl gerdded o Benmorfa a chyrion pellaf Porthmadog i'r gwasanaeth i Dremadog. Y canlyniad fu iddo weled yr Annibynwyr yn codi capelau cyfleus, o fewn cyrraedd y deiliaid, a bod heddyw yn rhai o'r ardaloedd ddau enwad, lle na ddylesid bod ond un, o herwydd Methodistiaid oedd corff y bobl. Nid oedd y trefniadau ychwaith yn gyfryw ag i ddigoni dyheadau'r bobl. Ni chynhelid yno ar y cyntaf ond dau foddion ar y Saboth —ysgol y bore ac oedfa'r hwyr. Trefn y daith y pryd hynny oedd—Criccieth y bore, Brynmelyn y prydnawn, a Thremadog y nos; ond yn raddol deuwyd i gael pregeth yn Nhremadog fore a hwyr. Erbyn y flwyddyn 1838—blwyddyn Diwygiad Beddgelert—yr oedd cynnifer a thriugain o'r cyflawn aelodau yn dyfod o Borthmadog a Phorth y Gest, ac yng ngwres y Diwygiad hwnnw dechreuasant ymgynnull ynghyd i dai eu gilydd i gynnal cyfarfodydd gweddio cyn myned i Dremadog erbyn yr oedfa ddeg. Ymhen dwy flynedd dechreuasant gynnal Ysgol Sabothol yno. Y personau amlycaf gyda hyn oedd:—Mri. Hugh Hughes (y


Y GARTH, MC

Parch. Hugh Hughes, Gellidara, wedyn); John Richards; William a Griffith Jones,—Tan y Lon, Criccieth, ar y pryd; John Roberts, Penyclogwyn; Capten William Hughes, a Capten Pritchard; ac yn y flwyddyn 1844 cawsant help Mr. Morris Davies—Bangor ar ol hynny. Dechreuasant gynnal yr Ysgol mewn rhan o dŷ, ar ffordd Penyclogwyn, oedd yn eiddo y Capten Pritchard, a gelwid hi yn "Ysgoldy Bach"; ac er mai bechan ydoedd byddai'n fynych o 70 i 80 yn bresennol. Ychwanegwyd nifer y moddion yn fuan trwy gynnal ambell bregeth, a chyfarfod gweddi, a seiat. Cofnodir i Moses Jones draddodi pregeth neillduol yno, ac i John Williams, y Garn, draddodi pregeth gydag arddeliad mewn warehouse yn perthyn i Mr. Robert Lloyd, Ffestiniog, pryd yr ymunodd deunaw o'r newydd a'r achos. Pregethid yn fynych hefyd yn yr awyr agored, ac oddiar fyrddau'r llongau, gan y Parchn. Robert Owen, Rhyl; Richard Humphreys, Dyffryn; Evan Williams, Morfa Nefyn; a David Charles—Abercarn y pryd hynny, ac eraill.

Wedi boddloni ar bethau felly am ysbaid, dechreuodd y personau a enwyd, ynghyda Mri. William Williams, Llanerch, a John Davies, shipper, amlygu eu hawydd i gael capel cyfaddas; ond ni chawsant gefnogaeth. Er hynny penderfynasant ymgymeryd â'r cyfrifoldeb eu hunain; ac erbyn y flwyddyn 1845 yr oedd y capel yn barod ganddynt. Ymaelododd tua 60 o aelodau Tremadog â'r eglwys newydd ym Mhorthmadog. Y blaenoriaid cyntaf oeddynt: —Mri. John Richards, Morris Davies, a Griffith Jones. Cynhyddai'r dref yn gyflym yn y cyfnod hwn; lliosogai'r achosion crefyddol yn gyfochrog â hynny, gan ychwanegu'n barhaus at nifer yr enwadau a'r addoldai. Cyflymed oedd y cynnydd fel nad oedd yr un o'r enwadau, ar y cyntaf, wedi ei ragweled a darparu'n ddigonol ar ei gyfer. Codi capel bach, ei helaethu, a'i ail-adeiladu, a fu eu hanes i gyd: a hynny fu hanes y Garth. Ymhen un mlynedd ar ddeg, penderfynwyd codi capel ym Morfa Bychan. Yr oedd yr Annibynwyr yno er's chwarter canrif. Ymadawodd deg o aelodau'r Garth i fyned yno. Tua'r amser hwn yr ychwanegwyd oriel at y capel, ac y bu'r Parch. Harris Jones, Ph.D., yn llafurio yn eu plith am rai misoedd, ac yr ymwelodd y Parch. John Hughes, Lerpwl, â hwy. Yn y flwyddyn 1857 daeth y Parch. Edward Davies o'r Pennant i sefydlu masnachdy yn y dref, a bu ei ddyfodiad o sirioldeb mawr i'r achos. Erbyn y flwyddyn 1859—blwyddyn y Diwygiad—nid oedd eisteddle wag o fewn y capel. Yng ngwres yr adfywiad hwnnw ymgynghorodd yr arweinwyr yng nghyd, am y priodoldeb o helaethu'r capel, neu adeiladu un newydd mewn man a fuasai'n cyfarfod â chynydd y dref. Ymgynghorwyd ar hyn gyda rhai o wyr mwyaf blaenllaw y Cyfarfod Misol, megis y Parchn. John Owen, Ty'n Llwyn, a Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon, y rhai a'i cynghorent yn llawen i adeiladu capel newydd, helaeth, mewn rhan arall o'r dref, yn hytrach nag ail adeiladu'r un oedd ganddynt. Ac adeiladwyd y Tabernacl. Yn y flwyddyn 1860, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i'r Parch. Thomas Owen i ddyfod yn fugail arnynt. Pan agorwyd y Tabernacl yn flwyddyn 1862, ymadawodd tua 140 o aelodau'r Garth i fyned yno; ac yn eu plith yr oedd y Parch. Edward Davies, a'r blaenor hynaf, Mr. John Richards. Y blaenoriaid arhosodd yn y Garth oeddynt—Mri. William Williams, Llannerch, a Thomas Morris; ond ychwanegwyd atynt yn fuan atynt yn fuan Mri. John Phillips (Tegidon), a John Lewis, plumber; ac er cymaint o aelodau aeth i'r Tabernacl, llanwyd eu lleoedd yn fuan, fel y gorfu iddynt eto helaethu'r capel. Ymadawodd Mr. Thomas Morris o'r Garth, ac ym mis Mai, 1871, daeth Mr. W. W. Morris (Penmorfa'n awr), i Borthmadog o Dan y Grisiau, gan ymaelodi yn y Garth. Yr oedd Mr. Morris yn flaenor yn Nhan y Grisiau, ac ar ei ddyfodiad i'r Garth etholwyd ef i'r swydd yno.

Erbyn y flwyddyn 1876 rhifai'r aelodau 286. Tua'r flwyddyn 1881 daeth Mr. Henry Llewelyn Jones i fyw i Borthmadog. Yr oedd efe wedi bod yn flaenor neillduol o weithgar yn Siloam, Llanfrothen, am ugain mlynedd: galwyd arno i lanw'r swydd yn y Garth, a bu ynddi yn wasanaethgar a defnyddiol am tuag un mlynedd ar bymtheg. Bu farw ar y 27ain o Ionawr, 1908.[1] Ar ol Mr. H. Llewelyn Jones, dewiswyd yn flaenoriaid y Mri. D. Williams, Custom House; Robert Roberts, y Bank; a Capten John Owen. Fel y symudai'r boblogaeth yn fwy i'r gwastadedd, teimlai rhai o'r brodyr fod safle'r capel yn anfanteisiol iddo, a theimlid hefyd fod angen am ei adnewyddu drachefn. Dadleuai rhai gyda sêl dros symud i fan mwy canolog; ond gwrthwynebid hwy gyda'r un brwdfrydedd gan rai o'r hen frodyr, yn enwedig Mr. William Williams, Llannerch. Teimlai'r dosbarth cyntaf nad oedd modd eangu'r hen gapel fel ag i gael yno ysgoldy a chlasrŵm, oherwydd y graig oedd o'r tu ol iddo. Bu llawer o bwyllgora ynglyn â hynny; ond y canlyniad fu, i bawb symud yn unfryd ac adeiladu capel newydd—y Garth presennol. Am waith y symudiad hwn dywed y Parch. Thomas Owen:—"Llawenydd mawr gennym allu dweyd er yr holl bwyllgorau a gynhaliwyd a'r gwahanol syniadau a draethid, na bu'r anghydfod lleiaf drwy yr holl drafodaeth. . . . . O'r diwedd aethpwyd o gwmpas i ymofyn addewidion at draul yr adeilad. . . . Calonogid ni yn fawr trwy yr addewidion a gafwyd. oedd rhai ohonynt yn aeddfed ffrwyth, yn disgyn gyda'u bod yn cael eu cyffwrdd, eraill yn fwy anniben, ond yn dyfod o'r diwedd."

Agorwyd y capel newydd yn nechreu'r flwyddyn 1898. Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd dros ddwy fil o bunnau wedi eu derbyn, sef:—

Tanysgrifiadau gan aelodau yr Eglwys a'r Gynulleidfa £1488 8s 6d Tanysgrifiadau trwy Docynau Casglu £83/13/6 Tanysgrifiadau cyfeillion tuallan i gylch y Gynulleidfa .£440/16/4 Llogau, gan gynnwys Llog o'r Banc £18/14/11 Ardreth dau dy yn Dora Street, hyd Mai 13eg, 1898 £37/17/6 Cyfanswm £2069/10/9

Yr oedd yr holl draul yr aed iddo yn £5,178 3s. 2c., yn cynnwys £250 am y tir, £145 am ddau dŷ y dywedid fod y capel yn tywyllu eu goleuni. Talwyd i'r cymerwr, gan gynnwys yr extras, £4,262 3s. Talwyd am sicrhau'r sylfaen concrete, llafur, &c., £155 2s.

Erbyn diwrnod ei agoriad, yr oedd dau wr a fu'n flaenllaw gyda'r symudiad wedi gorffwys oddi wrth eu llafur, sef y Capten John Owen, Garth Cottage, a Mr. William Williams, Llannerch. Yr oedd Capten Owen wedi cymeryd rhan neillduol yn y gwaith, ac yr oedd efe a'i briod wedi cyfrannu £205 tuag ato. Am William Williams, yr oedd ef yn un o sylfaenwyr Methodistiaeth ym Mhorthmadog, a bu a'i ysgwyddau'n dyn o dan yr arch. Bu'n swyddog yn y Garth am 45 o flynyddoedd. Cyfranodd, rhwng popeth, £47 10s. tuag at y capel newydd. Bu farw ar yr 11eg o Awst, 1897.

Agorwyd y capel newydd ar y 29ain o Fai, 1898, pryd y traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo gan y Parch. Thomas Owen.

Y blaenoriaid ar y pryd oeddynt:—Mri. Henry Llewelyn Jones, Robert Roberts, Banc, William Griffith, Robert Hughes, Richard Hughes, a John Lewis.

Yr oedd eu gweinidog parchus yn myned yn oedrannus; dechreuodd ei nerth a'i ynni gilio, a daeth yn fuan i deimlo'n awyddus i ymryddhau o'i ofalon bugeiliol. Rhoddodd ei eglwys i fyny, ond parhaodd yn y gwaith am ysbaid wedyn, ac edrychai'r eglwys arno fel eu bugail er na chymerai ei gydnabod am ei lafur. Yn y flwyddyn 1903 symudodd i dreulio hwyrddydd ei fywyd gyda'i fab yn Connah's Quay. Bu farw ar yr 28ain o Awst, 1908, yn 75 mlwydd oed.

Yn 1905 rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D. Dechreuodd yntau ei waith yn Nhachwedd y flwyddyn honno, ac nid oes weinidog mwy gweithgar nag efe o fewn y dref. Blwyddyn bwysig i Gapel y Garth fu'r flwyddyn 1908. Ynddi hi y bu farw dau o'r swyddogion—Mr. William Griffith, a Mr. H. Llewelyn Jones,—a'r ddau ar derfyn diwrnod da o waith, y naill yn 80, a'r llall yn 72 mlwydd oed. Yn y flwyddyn honno y dewiswyd yn flaenoriaid—Capten Morgan Jones; Mri. J. T. Jones, y Banc; William Jones, Eifion Villa; Owen Hughes; William. Jones (Ffestinfab), a W. Emlyn Jones. Ond cyn i'r flwyddyn derfynu bu farw Ffestinfab[2] a Mr. R. Hughes, Cambrian Mills; a chyn i'r flwyddyn newydd gerdded ymhell, cwympodd un o'r swyddogion ieuengaf. Mr. W. Emlyn Jones—gwr ag y disgwyliai'r eglwys lawer oddi wrtho. Bu farw ar y 24ain o Ionawr, 1909. Yn y flwyddyn 1908 y cynhaliwyd sale of work, tuag at ddiddyledu'r capel, a bu'r elw oddiwrthi'n £138.

Cododd mwy o bregethwyr o'r Garth nag o'r un o'r capelau eraill Mr. Evan Jones,—brodor o Lanelltyd, a fu farw pan oedd yr eglwys yn ei mabandod; y Parch. Henry Hughes—Brynkir yn awr; R. O. Morris, M.A., Birkenhead; David Jones, a fu farw'n ieuanc; a'i frawd addawol, R. W. Jones, M.A., a sefydlwyd Medi, 1913, yn Gerlan, Bethesda.

Nifer yr eglwys ar derfyn 1912 ydoedd cyflawn aelodau, 292; plant, 100. Yr Ysgol Sabothol: swyddogion, 3; athrawon ac athrawesau, 40; holl nifer ar y llyfrau, 272.

Ysgol Tan y Garth: swyddogion, 2; athrawon ac athrawesau, 11; holl nifer ar y llyfrau, 65.

Swm y ddyled, Rhagfyr, 1912, £1,759 8s. 4c.

Swyddogion:

Gweinidog.—Y Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D.

Pregethwr.—Mr. Richard W. Jones, M.A.

Blaenoriaid.—Mri. Richard Hughes, John Lewis, Capten Morgan Jones, Mri. J. T. Jones, Wm. Jones ac Owen Hughes.

Y TABERNACL

Adeiladwyd 1862
Ail-drefnwd oddi mewn 1866
Adgyweiriwyd ac Adeiladu Ysgoldy 1882-3
Adeiladwyd Ty Capel .1889
Adeiladwyd Ty Gweinidog 1897
Ychwanegu Llyfrgell a Class-room 1905
Prynnu'r Tir. 1905
Dathlu Jubilee a chlirio'r ddyled 1912


Gweinidogion yr Eglwys.

Y Parch. Thomas Owen 1862—77
Y Parch. J. J. Roberts .1879—1910
Y Parch. J. Henry Williams....... 1910


"O Ddiwygiad 1859 y tarddodd eglwys y Tabernacl. Capel mawr ac eglwys fechan a fu yma yn hir; ond cynyddai yn gyson, a bu am chwarter canrif yr eglwys luosocaf yn y Cyfarfod Misol, tua 500 drwy yr amser. Oherwydd fod lleoedd eraill yn cynyddu a bod hon yn lleihau yn hytrach, nid yw felly mwyach.' —Y Parch. J. J. Roberts yn Adroddiad 1908.

Pe buasai pob capel wedi cael cystal haneswyr ag a gafodd Salem a'r Tabernacl buasai gwaith eu dilynwyr orchwyl pleserus. Y mae adroddiad Mr. R. Rowland o ddechreuad yr achos yn y Garth a'r Tabernacl yn Nhrysorfa Mehefin a Gorffennaf, 1865, yn fanwl a dyddorol; ac y mae "Byr Hanes Eglwys y Tabernacl, Porthmadog yn Nhrysorfa, 1892, tud. 260 gan Mr. Robert Williams, yn nodweddiadol o fanylder a threfnusrwydd yr awdwr; fel, rhwng Mr. Rowland a Mr. Williams, y mae popeth a gwerth hanesyddol ynddo i'w gael yn yr ysgrifau hynny.

Wedi i eglwys y Garth benderfynu symud ymlaen i gael capel newydd, pasiwyd i anfon hynny i Gyfarfod Misol Criccieth, Chwefrol, 1859. Cawsant yno bob cefnogaeth yn llawen, ac yn ebrwydd gwnaed cais at Mrs. Madocks, trwy Mr. David Williams, Castell Deudraeth—ei goruchwyliwr—am dir cyfleus i adeiladu addoldy arno. Ond oherwydd fod Mrs. Madocks wedi trosglwyddo'r holl weithredoedd i'w mherch,—Mrs. Roche,—yr oedd Mrs. Madocks y pryd hynny ar ei gwely marw, bu peth gohiriad. Ym mis Ionawr, 1860,


Y TABERNACL M.C.

anfonwyd eilwaith ddirprwyaeth at Mr. Williams gyda'r un cais, a chafwyd caniatad yn rhwydd. Rhoddodd iddynt hanner acer o dir ar brydles o 99 mlynedd, am 5s. y flwyddyn, ac adeiladwyd arno gapel y Tabernacl. Gosodwyd y gwaith yn gontract i'r isaf ei bris, sef Mr. Edward Roberts, adeiladydd. Y pensaer (architect) ydoedd Mr. Ellis Williams o Faentwrog Swm y cymeriad ydoedd £1,440. Ond aeth y gost yn £390 yn fwy na'r cymeriad, ac ni chynhwysai hynny'r gost allanol gyda'r muriau. Cwblhawyd y gwaith erbyn diwedd y flwyddyn 1861, ac agorwyd ef ar y Saboth cyntaf o Ionawr, 1862, pryd y pregethwyd am 10 yn y bore gan y gweinidog, y Parch. Thomas Owen, oddiar Psalm xliii. 4, "Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd: a mi a'th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw." Symudodd 140 o aelodau o'r Garth i'r Tabernacl; yn eu plith yr oedd y Parch. Edward Davies, ynghyda'r blaenor hynaf, ac un o sefydlwyr y Garth, Mr. John Richards. Ymhlith y rhai a enwir fel prif hyrwyddwyr y symudiad ceir Mri. John H. Williams, y Foundry; Bennet Williams, yr ysgrifennydd, William Williams, a Capten Griffith Griffiths. Yr oedd y swm o £147 wedi ei gasglu cyn ymadael o'r Garth, a chymerodd y fam—eglwys arni ei hunan dri chant punt o'r gost. Dewiswyd y Mri. John Henry Williams, Robert Rowlands, a William Williams, yn flaenoriaid. Rhifai aelodau'r Ysgol Sabothol 256. Ar y cyntaf yr oedd y Tabernacl yn "daith" gyda Horeb,—lle oedd yn flaenorol yn daith gyda Bethel a Chwmystradllyn—a bu felly hyd nes yr adeiladwyd capel y Borth yn 1874, pryd y newidiwyd y daith o'r mynydd i'r môr, a rhoddwyd Horeb gyda Phrenteg. Yn y flwyddyn 1862 daeth y Parch. David Williams, oedd gyda'r Genhadaeth Gymreig yn Llunden, oherwydd gwaeledd ei iechyd, i breswylio i Borthmadog, ac ymaelododd yn y Tabernacl; ond ymhen tair blynedd derbyniodd alwad oddi wrth eglwys Tremadog.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf o oes eglwys y Tabernacl, ychwanegwyd at ei rhif 13 o'r newydd, a 36 trwy docynau. Casglwyd, rhwng popeth, yr un flwyddyn, £293 14s. 7c. Yn y flwyddyn 1864 daeth Mr. John Williams, brawd y Parch. D. Williams, o'r Penrhyn, i gadw'r Ysgol Frytanaidd, a dewiswyd ef yn flaenor yn fuan. Yn y flwyddyn 1873 symudodd yntau i Dremadog. Wedi dechreu addoli'n y capel newydd, canfyddwyd nad oedd eto'n foddhaol—yr oedd gormod o adsain ynddo; ac i wneud i ffwrdd a hynny gosodwyd oriel arno yn 1866, a symudwyd y pwlpud o'r pen cyferbyn â'r drws i'r man lle y mae'n awr. Yn y flwyddyn 1869 peidiodd Mr. Bennet Williams a bod yn flaenor, a symudodd Mr. W. Williams i fyw i Bont Newydd. Yn 1875 symudodd Mr. John Owen, un o flaenoriaid Tremadog, i'r Tabernacl, a derbyniwyd ef yn swyddog yno. Yn fuan ar ol hynny dewiswyd yn flaenoriaidyn y dull presennol—Mr. Daniel Williams a Capten Griffith Griffiths. Ond yn y flwyddyn ddilynol bu farw dau o'i swyddogion mwyaf blaenllaw,—Mri. John Richards a J. H. Williams. Cynhyddodd yr eglwys yn gyson, a daeth yn ddigon cref yn ol syniad rhai o'r aelodau i gynnal gweinidog ei hun.

Yn y flwyddyn 1877 terfynodd Mr. Owen ei gysylltiad âg eglwys y Tabernacl, wedi bod yn fugail gweithgar a ffyddlon arni o'i dechreuad, gan gyfyngu maes ei lafur i eglwys y Garth. Yn y flwyddyn honno y dechreuwyd yr Ysgol Sabothol Genhadol, a hynny drwy lafur ac ymdrech Miss Williams, Britannia Foundry—Mrs. Roberts, Rhuthyn, wedi hynny. Dechreuodd Miss Williams hi mewn ystafell gysylltiedig â'r felin lifio—perthynol i ffirm ei thad—a derbynicdd bob cefnogaeth gan eraill oedd o gyffelyb ysbryd cenhadol a dyngarol i ddwyn y gwaith ymlaen; a gwnaed hynny gyda llwyddiant nid bychan. Y mae o'm blaen yn awr y cytundeb a wnaed rhwng Mr. G. Proctor, perchenog yr adeilad yn Snowdon Street, â'r cymerwyr, ac am fod gwerth hanesyddol ynddo dodaf eu henwau i mewn yma:—"Hugh Jones, Madoc Street, blockmaker; David Griffith Davies, Clog y Berth, clerk, and Robert Williams, Britannia Foundry, iron founder." Hyd y cymeriad cyntaf ydoedd pum mlynedd, am bedair punt o ardreth flynyddol. Arwyddwyd y cytundeb ar y 31ain o Hydref, 1882. Ond ni bu'r lle'n hir o dan amodau felly, oblegid prynwyd ef yn eiddo i'r achos; ac y mae heddyw'n un o ysgolion mwyaf llafurus y Dosbarth. Rhifai'r disgyblion, yn ol ystadegau 1911.

Yn y flwyddyn 1877 daeth Mr. Pierce Davies i fyw o Gwmllan, gan ymaelodi yn y Tabernacl; a'r flwyddyn ddilynol dewiswyd ef yn flaenor, a llanwodd y swydd gyda medr a doethineb hyd ei farw, yn 1882.

Yn y flwyddyn 1879 symudodd Mr. R. Rowland i fyw i Flaenau Ffestiniog, ac yn 1881 bu farw'r Capten Griffith Griffiths. Ond ymhen ychydig fisoedd etholwyd Mri. Richard Hughes a John Roberts, y Felin, i lanw'r bylchau. Yng Ngorffennaf, 1891, dewiswyd Mr. Jonathan Davies, Mr. Richard Lloyd, a Mr. Robert Williams, yn flaenoriaid.

Nid oedd yr eglwys yn foddlon i fod yn hir heb weinidog ar ol i'r Parch. Thomas Owen gefnu arni; ac yn y flwyddyn 1879 rhoddasant alwad i'r Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), oedd y pryd hynny yn weinidog yn Nhrefriw. A gŵyr Cymru benbaladr ei werth ef heddyw, ac hapused a fu ei gysylltiad â'i eglwys. Sefydlwyd ef ar y 12fed o Fawrth. Yn y flwyddyn 1886 dioddefai Mr. Roberts oddi wrth anhwyldeb gyddfol, a rhoddodd yr eglwys flwyddyn o seibiant iddo, ynghyda chynhorthwy ariannol i gyfarfod â'i dreuliau.

Gwneid cyfnewidiadau parhaus ynglyn â'r adeilad, megis adgyweirio ei dô, adeiladu ysgoldy eang, a'i baentio. Yn y flwyddyn 1889 adeiladwyd tŷ capel. Costiodd y gwelliantau hynny £1,330, gan wneud holl gostau'r capel yn £4,168. Yn ystod y cyfnod hwn cododd yr eglwys dri phregethwr,—y Parchn. W. R. Jones (Goleufryn), Robert Richards—y Rhyl yn awr, ac Owen Owens—gwr a adweinir yn well heddyw wrth yr enw O. Eilian Owen—pregethwr, llenor, a Chymreigydd gwych.

Yn y flwyddyn 1894 cyhoeddodd yr eglwys ei hadroddiad argraffedig cyntaf. Gan fod y gemau sydd ynddynt yn rhy gain i mi ddodi fy nwylaw anghelfydd arnynt, cymeraf hwy'n dyner, ac a'u dodaf i lawr yma fel ag y maent. Ynddo dywed y gweinidog am yr eglwys:—Sefydlwyd hi ar ddiwedd diwygiad grymus; ni phrofodd hi yr un adfywiad nerthol, ac ni fu erioed mewn sefyllfa o gysgadrwydd diymadferth nac o farweidd—dra llygredig. Cadwyd hi oddi wrth rwygiadau a therfysgoedd blinion. Cafodd ei hun droion yng ngwyneb anhawsderau a pheryglon. Cyfarfu â rhai profedigaethau, a gwybu rhywbeth am erlidiau."

Bu farw yn ystod y flwyddyn honno wyth o aelodau, ac yn eu plith y Parch. Edward Davies, ac am dano ef dywed y gweinidog ei fod yn

"Un o'r dynion mwyaf duwiol, tangnefeddus, a chariadus a adwaenasom erioed; ac y mae ein colled a'n hiraeth am dano yn fawr iawn."

1895. Ychwanegu 27 o aelodau cyflawn at yr eglwys. Marw naw o frodyr a chwiorydd, "distaw, a thawel, a charedig."

1896. Marw deg—chwiorydd bron i gyd—o aelodau cyflawn. Rhai tawel neillduedig oeddynt.

Anaml y clywid eu llef ar yr heol nac yn y capel. Yr oedd mesur helaeth o naws crefydd ar eu heneidiau wrth iddynt fyw, ac arogl bywyd tragwyddol ar eu hysbrydoedd wrth iddynt farw.

1897. "Profodd rhai o honom bethau blinion iawn. Bu farw deg o aelodau cyflawn yr oedd eu cymeriadau yn lân. Ni thynasant warth ar eglwys Crist, na chwmwl ar eu henwau eu hunain.'

1898. Sefydlu cymdeithasau newyddion: (a) Y Gymdeithas Ariannol tuag at gynorthwyo i dalu'r ddyled. (b) Cymdeithas Ddirwestol y Cyfundeb. (c) Cymdeithas y Dorcas, er porthi'r newynog a dilladu'r noeth. (d) Seiat y bobl ieuanc.

1899. Mr. John Roberts yn dechreu pregethu.

1900. Blwyddyn olaf y ganrif. Dywed yr Adroddiad:—"Gwlad fechan dylawd a thywyll dros ben, oedd Cymru, gan mlynedd yn ol, a dichon nad oedd yn Ewrob ar y pryd genedl fwy dinod a phrinach o fanteision nag oedd y Cymry. Bychan, a bychan iawn, oedd ein Cyfundeb ni yr adeg honno; ond yr oedd yn nodedig o fyw, o gynes, ac o egniol; a chynhyddodd trwy ras Duw yn rhyfeddol. Ni wnaeth yr un enwad fwy nag ef o blaid Addysg, Dirwest, a Llenyddiaeth." Gwnaed apêl ar ran y Cyfundeb am Gasgliad y Ganrif, a chasglwyd £564.

Rhifai'r aelodau eglwysig 500. Yr Ysgol Sabothol —Y Tabernacl, 505; Ysgol Sabothol Snowdon Street, 115; yr holl gynulleidfa, 756.

1901. Gwaeledd y gweinidog. Yr eglwys yn rhoddi seibiant iddo, a'i gynorthwyo.

1903. Dychweliad ac adferiad. Mrs. Rowland yn anrhegu'r eglwys â Llyfrgell ei phriod, a gynhwysai 350 o gyfrolau, ynghyda darlun o Mr. R. Rowland.

1904. Marw dau flaenor—y Cadben Robert Williams, a Mr. Richard Hughes, ac wyth aelod arall—ac ni chollwyd "erioed rai rhagorach—mwy cysegredig i grefydd, a mwy aeddfed i ogoniant."

1905. Marw blaenor arall—Mr. John Owen, Paris House "Gwr doeth a galluog, nodedig am ei ysbryd rhagorol, ac am ei dduwioldeb caruaidd; enwog am ei haelioni distaw, ac am ei ffyddlondeb gostyngedig ymhob cyfarfod."

Ethol Mr. Richard Davies yn flaenor.

1907. Marw Mr. Daniel Williams. Anfynych y cafodd unrhyw eglwys flaenor llawer rhagorach—mwy doeth ac uniawn, mwy ffyddlawn a gofalus, neu fwy bendithiol ei ddylanwad nag ef."

Dewis y Mri. John Kyffin a Robert Jones Lloyd yn swyddogion.

1908. Y gweinidog yn rhoddi trem ar hanes yr eglwys.

"Yn ei ffyddlondeb i gynorthwyo'r Corph, trwy y Casgliadau Cyfundebol, credaf na pherthyn iddo eglwys yn ol ei hamgylchiadau yn rhagori arni yn hyn. Pe gwnai y gweddill gystal a hi, prin y gallai y Cyfundeb ddefnyddio ei gyfoeth. Cred lluaws oddiallan i ni ein bod yn eglwys oludog iawn; gwyddom ni sydd ynddi mai fel arall y mae. Meddwn rai personau llwyddiannus, a diolchwn am danynt, oblegid y maent yn wir haelionnus. Bu ar hyd y blynyddoedd yn flaenllaw i helpu pob sefydliad crefyddol, dyngarol, ac addysgol, a phob symudiad daionus yma ac oddi yma.

Nid oes ynddi genfigen na malais at neb na dim rhinweddol. Câr ei chymdogion yn wresog, a daw mor agos ag unrhyw un y gwn i am dani at garu ei gelynion.'

Y gweinidog yn hysbysu ei fwriad o dorri ei gysylltiad â'r eglwys, wedi ei gwasanaethu am 30 mlynedd o "dangnefedd pur, o gydweithrediad hollol, ac o fendithion lluosog."

1909. Y Gweinidog, ar ol gwasanaethu'r eglwys am ddeng mlynedd ar hugain, yn ymddiswyddo. Yn ystod y cyfnod hwnnw cyfrannodd yr eglwys y swm o £4,400 at achosion o'r tu allan i'w hangenion ei hun. Yr oedd hanner y swm hwn wedi ei gyfrannu yn y deng mlynedd diweddaf. Wedi gwasanaeth mor werthfawr, am gyfnod mor faith a llafurus, nis gallai'r eglwys ollwng ei gafael o'i gweinidog heb wneuthur amlygiad teilwng o'i theimladau tuag ato, a'i gwerthfawrogiad ohono. Gwnaed hynny trwy gyflwyno, ym mis Mai, bureau dderw hardd i Mr. Roberts, a llestri tê a choffi arian i Mrs. Roberts. Cyflwynwyd iddynt hefyd Anerchiad hardd, i lefaru mewn geiriau ei pharch iddo. Ynddi dywed yr eglwys:—"Pregethasoch efengyl bur ac athrawiaeth iachus gyda nerth, goleuni, ac yn aml gyda'r coethder barai i'r meddylddrychau ymddangos fel gemwaith aur. Sicr ydyw na lygrasoch neb, ond cadarnhasoch eneidiau y disgyblion. Profasoch yn weledydd craff, ac yn wyliwr ffyddlawn. Fel gweinidog cymwys y Testament Newydd, cymerasoch lawer o boen erom ni. Yn arbenig y mae gennym i gydnabod y pwyll a'r doethineb a amlygwyd gennych, a'r medr gyda pha un y llwyddasoch i gadw undeb yr ysbryd yng nghwlwm tangnefedd. Dilynasoch y pethau a berthynent i heddwch gyda phenderfyniad a arwyddai eich mawr bris arno. Dwfn fu eich cydymdeimlad â'r trallodedig. Dilys gennym i fendith yr hwn oedd ar ddarfod am dano ddyfod arnoch a pharasoch i galon y weddw lawenychu."

Ond er ymddiswyddo parhaodd i gyflawni'r gwaith hyd nes y pennododd yr eglwys olynnydd iddo, ac efe'n arweinydd iddi.

Yn Adroddiad 1909, dywed:—

"Yr oeddwn y llynedd yn diosg hynny o wisgoedd swyddogol a feddwn yn eich plith. Yr wyf eleni yn arwisgo fy olynydd—y Parch. John Henry Williams, un o weinidogion cymwys y Testament Newydd, ynddynt."

1910. Annerchiad y Gweinidog newydd. Ei ofn, ei bryder, a'i obaith.

Yr Ystadegau, 31ain Rhagfyr, 1912:—Cymunwyr, 461; plant, 160; yr holl gynulleidfa, 731. Yr Ysgol Sabothol: swyddogion, 5; athrawon ac athrawesau, 55; yr holl nifer ar y llyfrau, 431.

Ysgol Sabothol Snowdon Street: swyddogion, 2; athrawon ac athrawesau, 18; yr holl nifer ar y llyfrau,

Cyfanswm holl draul y Tabernacl, yr adeiladu a'r adgyweirio, £7,257. Llogau dalwyd o 1862 hyd 1911, £1,600. Cyfanswm, £8,857. Talwyd yn ystod y cyfnod, £8,145. Gweddill y Ddyled, Rhagfyr 31ain, 1911, £712.

Yn 1912 yr oedd y capel yn hanner canmlwydd oed. Dathlu ei Jiwbili trwy dalu'r ddyled ar y Dydd Diolchgarwch. Yr oedd swm y casgliad ar ddiwedd y dydd yn £730, gan gynnwys cymunrodd o £150 a adawyd gan y ddiweddar Mrs. Jones, Madoc Street.

Swyddogion yr Eglwys.

Gweinidogion.—Parchn. J. J. Roberts, J. Henry Williams. Blaenoriaid.—Mri. Jonathan Davies, Richard Lloyd, Robert Williams, Richard Davies, John Kyffin, a Robert Jones Lloyd.

Trysorydd y Weinidogaeth.—Mr. Jonathan Davies.

Trysorydd Cyffredinol.—Metropolitan Bank of England and Wales.

Cynhaliodd y Methodistiaid Calfinaidd eu Cymanfa Gyffredinol ym Mhorthmadog yn 1874, a Chymdeithasfa'r Gogledd yn 1906.

Y PRESBYTERIAID SEISNIG.

Dechreu'r Achos.1893
Adeiladu'r Capel 1897

Y Gweinidogion.

Y Parch. D. E. Jenkins 1895-1900
Y Parch. E. P. Hughes.1904-4..
Y Parch. E. E. Jones 1906-10
Y Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D. 1911


Ychydig o gefnogaeth a roddodd Porthmadog i unrhyw achos crefyddol Seisnig yn ystod y ganrif ddiweddaf, er i ymdrech deg gael ei gwneud i ffurfio un. Cymry oedd y boblogaeth o anianawd, iaith, a chalon. Gwanaidd ac eiddil fu eglwys Tremadog tra y cyfyngodd ei gwasanaeth i'r iaith Seisnig. Ceisiodd Salem hefyd sefydlu gwasanaeth Seisnig, ond byr fu ei hoedl. Yn 1878 meddyliodd y Wesleaid, pe y caent gapel cyfleus, y sicrhaent achos llewyrchus; ond siomedig a fu hwnnw hefyd.

Wedi profiadau felly buasem yn disgwyl y cae'r syniad lonyddwch am gryn ysbaid beth bynnag; ond nid felly y bu. Yn y flwyddyn 1893 ystyriai'r Methodistiaid fod angen achos Seisnig yn y dref, ac os oedd i lwyddo mai yn eu dwylaw hwy y gwnai. Ni pherthyn i mi'n awr draethu'm barn ar briodoldeb y cwrs, ac a oedd gwir angen yn ei gyfiawnhau. Pa un bynnag am hynny, cafwyd caniatad y Cyfundeb i'w ddechreu, a chafwyd cynhorthwy y Parch. Lewis Ellis, Rhyl, i'w sefydlu. Ymunodd Methodistiaid y ddau gapel i'w ffurfio, a phenodwyd dau frawd i ofalu am dano—un o'r Tabernacl ac un o'r Garth, sef Mr. Robert Williams, Foundry, a Mr. Robert Roberts, y Banc, ynghyda help Mr. Edwards, y deintydd, a Mr. John Lewis. chreuwyd yr achos mewn ystafell yn y Neuadd Drefol, ar y 30 o Orffennaf, 1893, a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. D. Williams—Manchester yn awr. Ymhen peth amser symudwyd o'r Neuadd i ysgoldy y Tabernacl. Yn niwedd 1894 rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. D. E. Jenkins i'w bugeilio. Dechreuodd Mr. Jenkins ar ei waith yn Ionawr y flwyddyn ddilynol. Erbyn hyn ystyriai'r brodyr yr oedd cyfrifoldeb yr achos arnynt y gallent bellach anturio adeiladu


Y CAPEL SEISNIG, M.C.

capel; gwnaed trefniadau tuag at hynny, a sicrhawyd y man lle y saif y capel arno yn rhydd-ddaliadol. Gosodwyd y gwaith o'i adeiladu i Mr. Shaw, Birkenhead; ond Mr. Evan Jones, Groeslon, a'i cwblhaodd. Aeth y draul yn £2,700. Ychwanegwyd ato dŷ capel ac ysgoldy, aeth y cyfanswm yn £2,860, ac agorwyd ef yn y flwyddyn 1897. Dychwelodd y swyddogion cynorthwyol i'w heglwysi yn Awst, 1899. Yn y flwyddyn ddilynol, dewisodd yr eglwys swyddogion o'i phlith ei hunan, sef Mri. J. Rhys Evans, Josiah Kellow, John McKay, James McKerrow, a Henry Parry. Ni bu arhosiad y Parch. D. E. Jenkins yn hir wedi agoryd y capel. Yn Awst, 1900, symudodd i Ddinbych. Am ysbaid wedyn bu'r eglwys heb weinidog arni, hyd 1903, pryd y daeth y Parch. E. P. Hughes i gymeryd ei gofal ym mis Ionawr. Symudodd dau o'i swyddogion o'r dref i fyw, sef Mr. McKerrow a Mr. McKay; a symudodd y Parch. E. P. Hughes yn Rhagfyr, 1904. Yn Awst y flwyddyn honno ychwanegodd yr eglwys Mri. Thomas Jones ac R. Newell at ei swyddogion; ac yn y flwyddyn 1906 rhoddodd alwad i'r Parch. Enoch Ellis Jones, oedd ar y pryd yng Ngholeg y Bala. Dechreuodd yntau ar ei waith yn Rhagfyr y flwyddyn honno, a bu'n llafurio'n llwyddiannus hyd ei ymadawiad i gymeryd gofal eglwys Seisnig a Bowydd, Blaenau Ffestiniog, ym Mehefin, 1910. Yn Ionawr, 1911, daeth yr eglwys i gytundeb âg eglwys y Garth i gael gwasanaeth y Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D., yn gysylltiedig â'i waith yn y Garth; a doeth a fu'r trefniad. Eleni symudodd Mr. Kellow i fyw i Griccieth, ar ol gwasanaethu'r eglwys fel diacon o'i chychwyniad. Yn Rhagfyr, 1912, rhifai y cymunwyr 46: plant ac ymgeiswyr, 20. Yr holl gynulleidfa, 97. Yr Ysgol Sabothol: swyddogion ac athrawon, 9; cyfanrif yr Ysgol, 56.

Yr oedd cyfanswm holl dderbyniadau'r eglwys am y flwyddyn yn £170, a'r ddyled yn £636.

Y Swyddogion Presennol

Y Gweinidog—Y Parch W. T. Ellis, B.A., B.D. Diaconiaid.
Mri. Henry Parry, J. Rhys Evans, M.A.. Richard Newell (Trysorydd), a Thomas Jones.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwel Y Drysorfa, Ionawr, 1909.
  2. Gwel Y Drysorfa, Awst, 1909.