Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Y Bedyddwyr

Oddi ar Wicidestun
Y Wesleaid Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Y Methodistiaid



SEION, B

SEION, BONTYNYSGALCH.

Dechreu'r Achos .1838
Adeiladu'r Capel 1841
Ail-adeiladwyd 1868
Adgyweiriwyd 1894
Adeiladu'r Ysgoldy 1899


Gweinidogion yr Eglwys.

Y Parch. Richard Brown 1843-5
Y Parch. David Jones 1846-57
Y Parch. Richard Evans 1858-63
Y Parch. David Charles 1864-9
Y Parch. J. G. Jones 1870-9
Y Parch. W. Cynnon Evans 1881-5
Y Parch. Isaac James 1886-92
Y Parch. T. H. Price 1893-4
Y Parch. Owen Jones 1897—1903
Y Parch. E. M. Rowlands 1906—11
Y Pach. T. Basset 1913


"Byddai'n dda i chwi gymeryd ty i bregethu yn Nhrefadoc, a dyfod yno bob Saboth, neu ryw un arall, i gynyg yn deg i gael ychydig i uno mewn Cyfamod Eglwysig yno. Yr wyf yn eich hanog yn fawr i lafurio yn Nhrefadoc."—Christmas Evans mewn llythyr at R. Jones, Garn, Awst 12, 1836.

Fel y gwelir oddi wrth y dyfyniad uchod, y prif offeryn i sefydlu achos yr Hen Fedyddwyr yn Nyffryn Madog ydoedd y Parch. Christmas Evans. Amcan anfoniad y llythyr, oedd i longyfarch Mr. Robert Jones, Frondannwg, y Garn, ar ei ymuniad â'r Hen Fedyddwyr yn y Garn. Un o ddilynwyr J. R. Jones o Ramoth ydoedd Robert Jones, ond a oedd newydd gefnu arno. Addawai Christmas Evans, os y dechreuid achos, yr ymwelai yntau â'r lle i bregethu. Ond nid i Dremadog yr aeth Robert Jones, eithr i Borthmadog; ac nid ymwelodd Mr. Evans ychwaith â'r lle yn ol ei fwriad a'i addewid, gan iddo farw yng Ngorffennaf, 1838. Symudodd Robert Jones i fyw i Borthmadog yn fuan wedi iddo dderbyn y llythyr, a chafodd yn ebrwydd eraill i ymuno âg ef i gychwyn achos yn y lle. I'r diben hwnnw cymerasant lofft ym Mhen y Cei—lle sy'n awr yn sail room, uwch ben swyddfa Mri. Prichard a'i Frodyr. Erbyn y flwyddyn 1840 rhifai'r aelodau 21ain, a chant o wrandawyr. Wrth weled eu llafur yn llwyddo, symudwyd ymlaen i gael capel cysurus. prif symudydd gyda hyn ydoedd Mr. John Williams, Ynyshir,—lle a adwaenir yn awr wrth yr enw Bodawen. Efe a sicrhaodd y tir lle y saif y capel presennol arno. Cafodd brydles arno, yn ei enw ei hun, am gant ond un o flynyddoedd, am 10s. o ardreth. Arwyddwyd y cytundeb yn Hydref, 1841. Y flwyddyn ddilynol cyflwynodd Mr. Williams ei hawl i bedwar ar ddeg o ymddiriedolwyr, gan gynnwys ei hunan, am goron o iawndâl.

Costiodd y capel newydd £300, ac agorwyd ef ar y 5ed o Hydref, 1842. Pregethwyd yn y cyfarfod agoriadol gan y Parchn. John Evans, Bangor; Joel Jones, Pwllheli; R. Brown, Machynlleth; Rowland, Pentre Gilfach; Robert Jones, Llanllyfni; Iorwerth Glan Aled; R. D. Roberts, Llanberis; R. Morgan, Harlech; a Thomas Jones, Ffestiniog. Yn y flwyddyn ddilynol rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. Richard Brown, Machynlleth, i ddyfod yn fugail arnynt. Er na fu Mr. Brown ym Mhorthmadog ond am ddwy flynedd, bu ei arhosiad byr yn symbyliad mawr i'r frawdoliaeth yn y cylch. Dyma pryd y dechreuwyd yr achos ym Mhenrhyndeudraeth. Cafodd y gweinidog ganiatad y Gymanfa i fyned trwy Fôn ac Arfon i gasglu ar ran yr eglwys. Yn 1845, symudodd Mr. Brown i Benybont, Llandysul. Y flwyddyn ddilynol daeth Dafydd Jones, Talsarnau, i gymeryd gofal yr eglwys. Ordeiniwyd ef yn 1847. Saer coed oedd Dafydd Jones wrth ei alwedigaeth, a gweithiai ei grefft ar ystâd y Glyn; ond deuai i bregethu i Borthmadog bob Sul. Dywedir nad oedd y gydnabyddiaeth a dderbyniai ond 10s. y mis!—prin ddigon i dalu am ei gwch i'w gludo'n ôl a blaen. Ni allesid disgwyl llawer o lwyddiant tra'r oedd y gweinidog yn llafurio'n yr wythnos mor bell oddi wrth ei eglwys. Ie, yr oedd Talsarnau ym mhell o Borthmadog y pryd hynny. Nid oedd bum mlynedd eto er pan adeiladwyd y capel—yr oedd y baich yn fawr, a'r eglwys yn fechan, a gofynai am egni parhaus i'w chadw rhag suddo. Yn wir, yr oedd talu'r llôg yn fwy na'u gallu. Yr oedd yr amgylchiadau'n gyfryw fel ag y gorfu i'r Gymanfa ymyrryd, o herwydd dywedir fod dau neu dri o'r brodyr mewn perygl o gael gwerthu eu heiddo, i gyfarfod â dyled y capel; a gwnaeth y Parch. Robert Jones Llanllyfni, Eifionwyson, a Golygydd y Bedyddiwr, apêl ar eu rhan at Fedyddwyr Cymru, a chawsant atebiad caredig. Buont mewn gwirionedd yn gymorth wrth raid i'w brodyr ym Mhorthmadog, ac amlygasant hwythau eu gwerthfawrogiad o hynny trwy gyflwyno i Robert Jones "bâr o hosanau cochddu' rhodd ag oedd yn dangos gwir deimlad ac ysbryd yr eglwys yn llawer gwell nag y gwnai papur canpunt heddyw. Y mae'r "pâr hosanau" yn siarad cyfrolau. Ar ymadawiad Dafydd Jones, daeth y Parch. Richard Evans yn olynydd iddo yn 1858. Brodor o Fôn oedd efe, a chrydd wrth ei alwedigaeth; ond yr oedd ar y pryd yn Athrofa Hwlffordd. Bu peth amryfusedd yn ei amser yntau ynglyn â sefyllfa ariannol yr eglwys. Penododd y Gymanfa bwyllgor i chwilio i mewn i'r mater, ond ychydig a fu llwyddiant honno, hyd nes yr ymgymerodd Mr. John Parry, Tanner, âg ef, trwy gasglu a chyfrannu'n helaeth i gyfarfod â'r gofyn. Yn 1863 ymadawodd Mr. Evans, a galwyd ar David Charles, brodor o Lanelli, i fod yn olynydd iddo—gwr o alluoedd amlwg, yn meddu ar brif nodweddion bugail a phregethwr llwyddiannus. Dechreuodd ef ar ei waith yn 1864. Yr oedd amgylchiadau ariannol yr eglwys erbyn ei ddyfodiad ef yn llawer gwell. Nid oedd ond hanner canpunt o ddyled yn aros. Ond yr oedd sefyllfa'r capel yn gyfryw ag oedd yn galw am eu sylw. Angenrhaid oedd ei helaethu, neu godi un newydd. Cafwyd caniatad y Gymanfa, ac aed ymlaen gyda'r gwaith o adeiladu un newydd, a phenodwyd pwyllgor i ofalu am y gwaith. Cyn dechreu adeiladu, penderfynwyd talu dyled yr hen un yn gyntaf. Gosodwyd y gwaith o gynllunio ac adeiladu'r capel newydd i Mr. O. M. Roberts, Porthmadog; a phenodwyd Mr. Richard Parry, y Garn, i fod yn arolygwr ar y gwaith. Pris y cymeriad ydoedd £750, ond yr oedd hanner canpunt o extras. Agorwyd y capel newydd ar y 15fed o Ebrill, 1869. Bu farw Mr. Charles ymhen pum mis wedi agor y capel, sef ar y 14eg o Fedi. Ym mis Mai, 1870, daeth y Parch. J. G. Jones, Llanllyfni, yn fugail ar yr eglwys. Yn ei amser ef yr adeiladwyd y tŷ capel, gan Mr. Owen Jones; yr oedd yr holl draul ynglyn âg ef yn £217. Un o garedigion pennaf y cyfnod yma ydoedd diweddar Thomas Parry, masnachydd coed. Cyfrannai yn helaeth, a rhoddod symiau anrhydeddus i dalu'r gwahanol ddyledion. Ymadawodd y Parch. J. G. Jones ar y 12fed o Hydret, 1879, i gymeryd gofal yr eglwys ym Mhenrhyndeudraeth. Dilynwyd ef gan y cerddor adnabyddus, Mr. W. Cynnon Evans o Faesteg, oedd ar y pryd yng Ngholeg Llangollen. Ordeiniwyd ef yn Seion, Porthmadog, ar y 24ain o Awst, 1881. Byr fu arhosiad Mr. Evans; ymadawodd ym Mehefin, 1885. Olynwyd ef yn 1886 gan Mr. Isaac James, yntau hefyd yn fyfyriwr o Goleg Llangollen, a bu yn llafurio'n ddiwyd ac yn fawr ei barch am chwe blynedd. Yn 1893 rhoddwyd galwad i'r Parch. T. H. Price; ond bu efe farw ar y 26ain o Ionawr, 1894.

Bu'r eglwys, ar ol marw Mr. Price, am bedair blynedd heb fugail arni; ond eto nid yn ddiwaith na diynni. Yn ystod y cyfnod hwn, aed i'r draul o ganpunt i adgyweirio'r capel, a thalwyd deucant o'r ddyled. Yn Ionawr, 1896, daeth y Parch. Owen Jones, Llanddoget, i ofalu am yr eglwys. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr ysgoldy (a gostiodd tua £70), a chydweithiodd yr eglwys yn rhagorol âg ef. Ymadawodd yn 1903. 1903. Ym Mehefin 17eg, 1907, prynwyd y brydles am £46. Yn 1906 rhoddwyd galwad i'r Parch. T. Basset, brodor o Lwynhendy, oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Bangor. Ordeiniwyd ef ym Mehefin, 1906. Wedi ei ddyfodiad ef, anrhegodd Mr. Thomas Parry (ŵyr i'r T. Parry a enwyd), yr eglwys âg organ hardd er côf am ei rieni ffyddlon. Ni bu ar Seion weinidog ffyddlonach, amwy ymroddedig na Mr. Basset. Pan yr ymgymerodd efe â'r eglwys yr oedd y ddyled yn £272 10s.; ond ar y 26ain o Ragfyr, 1911, gwelodd yr eglwys dalu'r ugain punt diweddaf ohoni, yn bennaf drwy lafur diildio ei gweinidog. Yn niwedd y flwyddyn 1911 amlygodd Mr. Basset ei fwriad i ymadael â'r eglwys. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo ar y 25ain o Chwefrol, 1912, pryd y cyflwynodd yr eglwys roll top desk i Mr. Basset, a tray a thegell arian i Mrs. Basset, yn arwydd o'i pharch a'i hedmygedd o honynt. Traddododd Mr. Basset ei bregeth olaf fel gweinidog Seion ar y 26ain o Chwefrol.

Cododd pedwar o bregethwyr o'r eglwys:—Y Parchn. W. J. Parry; Robert Morris, Cwmafon; Robert Jones, Llithfaen; a Rowland Williams, Bargoed,

Ymwelodd y Gymanfa bum gwaith â Phorthmadog —1855, 1867, 1872, 1901 a 1912, a phregethwyd ynddynt gan gewri'r enwad. Rhif yr aelodau ar ddiwedd 1911 oedd 89.

Swyddogion.—Mri. Ellis Jones, David Jones, John Jones, a J. O. Jones.

Trysorydd.—Mr. David Ames.

Ysgrifennydd.—Mr. E. Gwaenog Rees.

Y BEDYDDWYR ALBANAIDD: EGLWYS BEREA.

Dechreu'r Achos.1841
Adeiladu'r Capel 1853
Adgyweirio.1895


Y Gweinidogion

Y Parch. Wm. Roberts 1855-8
Y Parch. Wm. Jones .1858
Y Parch. Stephen Jones 1882


Cyn y flwyddyn 1841 nid oedd gan y Bedyddwyr Albanaidd—a adwaenir hefy wrth yr enwau McLeaniaid, a Disgyblion Cristionogol—unrhyw fath o achos ym Mhorthmadog. Byddai'n rhaid i'r brodyr a ddeuent o Harlech, Talsarnau, Tan y Grisiau, a Thrawsfynydd, fyned i Ramoth at eu harweinydd. Ond yn gynnar yn y flwyddyn 1841, yr oedd eu rhif ym Mhorthmadog wedi cynhyddu digon iddynt anturio dechreu achos eu hunain, a chawsont ganiatad i ddefnyddio'r ystafell y cynhaliai'r hen forwr methedig William Griffith ei ysgol ddyddorol ynddi ym Mhen y Cei. Ond nid i William Griffith yr oeddynt i ddiolch am hynny. Annibynwr gor-selog ydoedd efe, a chashai'r enwad newydd â châs cyflawn, fel y gwelir yn y bennod ar Addysg. Ni feddai'r hen forwr ond ar un ystafell i gyflawni ei holl oruchwylion. Yno y dysgai y plant, ac y darparai ei holl ymborth. Oherwydd ei gasineb tuag at y Bedyddwyr Albanaidd, gofalai na wnai ddim a fyddai'n hwylusdod iddynt gyda'r gwasanaeth crefyddol, ac ni allai dan unrhyw amgylchiad aros yno yn ystod y moddion. Yn hytrach, gofalai am fyned ymaith, gan adael popeth yn y lle yn y cyflwr mwyaf annrhefnus a fyddai'n bosibl yn enwedig ar y Sabathau. Gadawai'r meinciau ar draws eu gilydd, a gweddillion y penwaig a'r wynwyn i addurno'r pentan!

Parhaodd pethau felly am tua deuddeng mlynedd, ond cafwyd caniatad y perchenog i osod pwlpud yn ymyl y ffenestr, a cheid pregethu'n achlysurol gan frodyr o Ramoth a Harlech yn eu tro. Fel y cynhyddai'r dref lluosogai'r eglwys hefyd mewn rhif, yn gymaint felly fel y penderfynasant, yn Nhachwedd, 1852, gymeryd tir i adeiladu capel a thŷ arno, y rhai a adeiladwyd yn y flwyddyn 1853.

Yn y flwyddyn 1855 ordeiniwyd y Parch. William Roberts, Penrhyndeudraeth, yn weinidog ar yr eglwys. Y bedydd cyntaf a gymerodd le ym Merea ydoedd yn 1857, pryd y bedyddiwyd gan y gweinidog unarddeg o feibion a merched. Rhifai'r eglwys 50 o aelodau, o ba rai nid oes heddyw ond un yn dal cysylltiad â Berea, sef yw hwnnw, Mr. William Humphreys (Elihu), Blaenau Ffestiniog. Yn y flwyddyn 1858, rhoddodd y gweinidog yr eglwys i fyny, er tristwch mawr i'r frawdoliaeth. Yr oedd yn bregethwr efengylaidd ac ysgrythyrol, ac ym meddu ar gyfiawnder o lais clir a melodaidd. Diaconiaid yr eglwys ar ymadawiad y Parch. W. Roberts oeddynt y brodyr Henry Jones, adeiladydd llongau; Owen Jones, asiedydd; a Griffydd Humphreys, dilledydd, yr hwn hefyd oedd y codwr canu.

Wedi i'r gweinidog gefnu arnynt nid oedd gan yr eglwys ddim i'w wneud ond dibynu ar garedigrwydd gweinidogion Harlech a'r cylch; ond ychydig o gefnogaeth a gawsant y tro hwn, ac awgrymodd y brawd Hugh Williams, llifiwr, mai mwy dymunol a fyddai iddynt ddyfod i ddealldwriaeth â Mr. William Jones, y chandler. Yr oedd ef yn bregethwr rhagorol, ac yn un a berchid gan bawb. Perthynai efe y pryd hynny i'r Bedyddwyr Cambelaidd yng Nghriccieth. Yr oedd rhai o eglwys Berea ar delerau lled gyfeillgar â Mr. Jones, ac yn gogwyddo at yr un golygiadau diwinyddol. Yr oedd Mr. Jones erbyn hyn yn dechreu heneiddio, ac yn awyddus am le i addoli yn ymyl, fel na byddai raid iddo fyned i Griccieth ar y Sabathau. Ac nid oedd ei angen yno gymaint ag a fu, oherwydd fod dau wr ieuanc wedi dechreu pregethu yno, sef Mr. William Williams, Siop yr Eifion, a Mr. Richard Lloyd, ewythr Mr. Lloyd George. Bu Mr. William Jones yn pregethu ar brawf rai gweithiau cyn i'r frawdoliaeth roddi sêl eu cymeradwyaeth arno. Ofnai rhai nad oedd yn iach yn y ffydd, yn ol credo'r enwad. Y diwedd fu i eglwysi Meirion a Phorthmadog foddlonni i dderbyn Mr. Jones, ac eglwys Criccieth, ynghyda'r nifer oedd ym Mhenmachno, yn aelodau o'r Cyfundeb Albanaidd, ar yr amod eu bod yn torri eu cysylltiad yn llwyr â Robert Rees, Parc, Llanfrothen, a'i ddilynwyr, y rhai a ystyrid oeddynt wedi gwyro ymhell mewn cyfeiliornadau parthed aberth Crist fel Lawn dros bechod—cyfiawnder pechadur ger bron Duw, &c. Dywedai rhai o ddilynwyr R. Rees nad oedd mwy o rinwedd Iawnol yng ngwaed Crist nag y sydd mewn gwaed aderyn; ond gwyddai'r Albaniaid nad oedd y frawdoliaeth yng Nghriccieth wedi myned i gyflwr felly. Cydsyniodd Mr. Jones â'u cais, ond iddo "gael rhesymau digonol dros hynny."

Aeth yr achos ym mlaen yn weddol gysurus am beth amser, ond ofnai rhai o'r brodyr nad oedd Mr. Jones yn cadw'n ddigon llwyr oddiwrth athrawiaethau R. Rees, a gwylient ar bob cyfle i ddal arno.

Oes y dadleuon pynciol oedd honno, gyda phob enwad. Cymaint oedd yr oerfelgarwch fel y galwodd Mr. Jones sylw'r eglwys ato, ar ol y gyfeillach un nos Fercher, i ofyn eglurhad arno. Atebwyd ef yn ddiatreg gan un o'r diaconiaid—Mr. Owen Jones—a hynny mewn ysbryd ymhell o fod yn ei le—mai yr achos o'r oerfelgarwch oedd, fod arnynt eisiau iddo ef dorri ei gysylltiad yn llwyr â'r cyfeillion y cwynai o'u plegid. Ac eb efe, "Os na thorrwch y cysylltiad â'r cyfryw bobl—mi gaiff y capel yma fod yn eiddo i'r sawl a'i piau—ewch chwithau i'r man y mynnoch."

Cododd Mr. Jones ar ei draed, a dywedodd,—" Er nad oes gennych hawl i'm troi allan fel yna, gwell yw i mi ymneillduo; a phawb o'r brodyr a'r chwiorydd sydd yn dewis dyfod i'm canlyn, deuwch i fy nhŷ i nos yfory, er mwyn i ni drefnu ym mha le i ymgynull ar Ddydd yr Arglwydd nesaf i addoli. Er i ymgais deg gael ei wneud gan Mr. Griffith Humphreys a Mrs. Catherine Roberts, priod Capten Roberts yr Economy, i ymbwyllo, ac i oedi dyfod i unrhyw benderfyniad, ni wrandawyd arnynt. Y noswaith ddilynol aeth nifer o'r brodyr a'r chwiorydd, oedd mewn cydymdeimlad â Mr. Jones, i'w dŷ yn ol ei wahoddiad, ac yno penderfynwyd ymneillduo'n llwyr oddi wrth eglwys Berea, a dechreu achos iddynt eu hunain; a'r Sul dilynol ymgynullasant mewn sail room yng nghefn Britannia Terrace, perthynol i Mr. William Jones (Lloyd's Surveyor). Canlyniad naturiol y rhwygiad hwn ydoedd gadael eglwys Berea heb ond rhyw saith neu wyth o aelodau ynddi. Erbyn y flwyddyn 1860 dechreuodd adfywio drachefn, a bedyddiwyd saith o'r newydd.

Yn y Gynhadledd Flynyddol yn 1881 pasiwyd i roddi galwad i'r Parch. Stephen Jones, y pryd hynny o Ruabon,—i ddyfod i wasanaethu eglwysi Meirion ac Arfon, fel cenhadwr efengylaidd i'r Cyfundeb. Ac yn 1882 dechreuodd ar ei waith cenhadol yn eglwys Berea, pryd y rhifai'r eglwys 28ain, a gweinidogion y Cyfundeb yn llenwi'r pwlpud yn eu tro ar y Sabothau—fel yntau. Parha'r brodyr da hyn i estyn eu gwasanaeth gwerthfawr i'r frawdoliaeth, ac unig wobr y gweision am eu gwaith yn Berea yw eu hyder yn yr Arglwydd y cant gydgyfarfod â'r rhai y llafuriasant yn eu mysg. Yn y flwyddyn 1895 aed i'r draul o £130 i adgyweirio'r addoldy.

Yn ystod gweinidogaeth y Parch. Stephen Jones bedyddiwyd a derbyniwyd i gymundeb eglwysig 32. Aelodau a dderbyniwyd o eglwysi eraill, 10. Aelodau wedi ymfudo o Berea i eglwysi eraill, 13. Marwolaethau, 24. Rhif yr aelodau yn Nhachwedd, 1912, ydyw 28.

SION: CHAPEL STREET.

Dechreu'r Achos 1859
Adeiladu Capel 1860


Wedi i Mr. William Jones a'i ddilynwyr gefnu ar eglwys Berea, gan ei gadael heb ond tua dau frawd a phump neu chwech o chwiorydd, ymgynullasant mewn sail room yng nghefn y Britannia Terrace, a berthynai i Mr. William Jones (Lloyd's Surveyor), gan arddel eu hunain yn "Ddilynwyr Crist" neu Fedyddwyr Cambelaidd. Y flwyddyn ddilynol adeiladwyd y capel presennol, ac agorwyd ef ar yr 8fed o Fehefin, 1860. Yr oedd Mr. Jones wedi ei neillduo i'r swydd o henadur yn eglwys Criccieth, ar y 16eg o Fai, 1841. Ni bu'r frawdoliaeth yn hir cyn i enw Robert Rees a'i ddaliadau fod yn faen tramgwydd iddynt eto, yn gymaint felly fel y barnodd Mr. William Jones yn ddoeth wneud yr hysbysiad a ganlyn ar glawr y Llusern—cyhoeddiad misol yr enwad:

"Dymuna y Disgyblion Cristionogol yng Nghriccieth a Phorthmadog hysbysu nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddynt â Robert Rees, Llanfrothen, a'r rhai sydd ynglyn âg ef, dan yr amgylchiadau presennol; ac ni dderbynir neb o leoedd eraill a ymgysyllto â hwynt."

Tystiai brodyr Berea, pe y cyhoeddasid yr uchod cyn yr ymraniad, na ddigwyddasai'r rhwyg.

Bu Mr. Jones yn hynod ffyddlon yn Sion, a bu'r ddiadell â'u henadur mewn undeb perffaith â'u gilydd o hynny hyd ei farw. Ar yr un adeg ag yr adeiladwyd y capel adeiladodd Mr. Jones, ar ei draul ei hun, dŷ capel, yr hwn a drosglwyddwyd i'r eglwys yn ddiweddarach gan ei fab, Dr. William Jones Williams, Middlesbro. Bu Mr. Jones farw ar y 18fed o Orffennaf, 1887, ac ni dderbyniodd yn ystod y saith mlynedd ar hugain y bu'n henadur yn "Sion" unrhyw gydnabyddiaeth ariannol am ei lafur, am y credai fod derbyn cyflog am wasanaethu'r swydd yn groes i ddysgeidiaeth y Testament Newydd.

Rhif yr eglwys yn bresennol, 14.
Henadur.—Mr. Owen Price.
Athraw.—Mr. John Jones (Caerdyni).


Nodiadau

[golygu]