Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Y Wesleaid

Oddi ar Wicidestun
Yr Annibynwyr Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Y Bedyddwyr



EBENEZER, W.

CAPEL EBENEZER.

Dechreu'r Achos 1832
Adeiladu Capel 1840
Ail Adeiladu 1870
Gosod Oriel 1877
Adeiladu Ysgoldy 1894
Prynu Ty Gweinidog a'r Capel Cenhadol. 1902
Gosod Organ 1905


Gweinidogion Hanner Canrif.

Y Parch William Thomas 1862-5
Y Parch T G Pugh 1865-6
Y Parch Peter Jones 1866-8
Y Parch David Jones (Druison) 1868-71
Y Parch Robert Hughes 1872-3
Y Parch Richard Morgan 1874-6
Y Parch Griffith Jones 1878-9
Y Parch Wm Hugh Evans 1883-6
Y Parch R Lloyd Jones 1880-3
Y Parch Ishmael Evans 1886-9
Y Parch Henry Hughes 1889-92
Y Parch Hugh Owen 1890-3
Y Parch Owen Evans 1892-4
Y Parch R Mon Hughes 1896-9
Y Parch William Thomas 1895-6
Y Parch Edward Jones 1894-7
Y Parch Owen Evans 1897-1900
Y Parch J R Ellis 1900-3
Y Parch Edward Jones 1903-7
Y Parch R Mon Hughes 1907-10
Y Parch Owen Evans 1911-


Hyd y flwyddyn 1846, perthynai eglwys Porthmadog i Gylchdaith Pwllheli; o 1846 hyd 1879 i Gylchdaith yr Abermaw; o 1879 hyd 1898 perthynai i Gylchdaith Blaenau Ffestiniog.

Olrheinir dechreuad Wesleaeth yn Nyffryn Madog i Laethdŷ'r Wern, a drowyd yn addoldŷ yn y flwyddyn 1821, a lle y buwyd yn addoli hyd 1831. Rhifai'r aelodau'r pryd hynny ddeunaw-ar-hugain. Prif noddwyr yr achos yn y Wern oeddynt Gaenor, a Morris Owen, Mynydd Du. Yn y flwyddyn 1831 symudwyd o'r Wern i dŷ annedd ym Mhenmorfa; ond ni bu llawer o lwyddiant ar yr achos yno, yn bennaf, o herwydd fod yr aelodau a ddeuent o Borthmadog yn awyddus i gael lle i addoli yn nes adref, ac hefyd am fod Mr. Llewelyn, Llwynymafon, ac eraill, wedi adeiladu capel yng Ngholan. Ond byr fu cyfnod yr achos yng Ngholan hefyd, ac yn y flwyddyn 1863 gwerthwyd y capel i'r Methodistiaid Calfinaidd. Wedi aros ym Mhenmorfa am ysbaid blwyddyn, symudwyd drachefn i Borthmadog, i ystafell yng ngwaelod y Grisiau Mawr, ar y gornel dde fel yr eir i fyny. Pregethwyd gyntaf yno gan Mr. Edmund Evans, Talsarnau, yn y flwyddyn 1832. Ond ni bu i'r ddeadell ddinas barhau yno; a symudwyd oddiyno i "Gefn y London," lle yr addolid hyd nes y caed capel yn gartref arhosol. Dechreuwyd adeiladu y capel cyntaf i Wesleaeth ym Mhorthmadog yn y flwyddyn 1839. Ni weithredodd y brodyr yn hollol reolaidd gyda'r gwaith, yn gymaint ag iddynt ymgymeryd â'r gwaith heb ganiatad Pwyllgor Adeiladu yr enwad, a bu hynny'n achlysur i rai wrthod rhoddi eu cefnogaeth i'r mudiad ar y cychwyn. Gosodwyd y gwaith i adeiladydd o Gaernarfon am £250, ond oherwydd diofalwch gyda'r cymeriad, ac arolygiaeth y gwaith, aeth yr holl draul i £368. Cynhwysai'r addoldy 150 o eisteddleoedd. Y swyddogion cyntaf oeddynt:—Mr. Robert Owen, y Tinman, a Mr. Edmund Evans, Talsarnau; ynghyda dau flaenor, Mr. Owen Morris, Morfa Bychan, a Mr. Hugh Hughes, Saer. Gwasanaethid yr achos gan amryw o bregethwyr cynorthwyol, megis Humphrey Morris, Trawsfynydd; Edmund Evans; Richard Jones, Trawsfynydd; Evan Rees, Abermaw; Hugh Lloyd, Dyffryn; Edward Thomas, Tyddyndy, Dyffryn; a John Roberts, Blaenau Ffestiniog. Nid oedd achos Wesleaeth wedi ei godi eto ym Mlaenau Ffestiniog na Than y Grisiau. Y gydnabyddiaeth a dderbyniai'r cymwynaswyr hyn am eu gwasanaeth fyddai swm y casgliad a wneid ar y pryd,—heb ychwanegu ato, na thynnu oddiwrtho,—nac ychwaith ei gyfrif.

Er cael capel cyfleus a chysurus, ni bu ffawd yr achos ar ei gychwyniad yn ddymunol. Rhoddwyd ymddiriedaeth mewn personau anghymwys, yr hyn a fu'n achlysur i niweidio llawer ar y cynnydd gwanaidd, ac i beri i'r sêl a'r gweithgarwch ymado o'r eglwys.

Yn y flwyddyn 1841 aeth Edmund Evans, Clwydfardd, a Richard Hughes, i Gyfarfod Talaethol yn Nolgellau, i ddadlu dros yr achos, ac i ymbil ar ei ran. Wedi trafodaeth faith, rhoed caniatad i Mr. Edmund Evans fyned ar daith i gasglu, er diddyledu'r capel ym Mhorthmadog. Gwnaeth Mr. Evans ymdrech arbenig; ymwelodd â llawer o eglwysi yng Ngogledd Cymru; ac o fewn 230 o ddyddiau efe a bregethodd 291 o weithiau, ac a gasglodd y swm o £173 15s. 11c. Ond efe a fu farw cyn gweled y capel, a fu'n achos o'r fath bryder iddo, yn ddi-ddyled.

Er i'r fath ymdrech gael ei gwneud i ddiddymu'r ddyled, lleihau ac nid cynhyddu oedd hanes yr eglwys, fel erbyn y flwyddyn 1848 nid oedd rhif yr aelodau ond 21, a'r cyfraniadau chwarterol ond punt. Dyna'r pryd y daeth Mr. Robert Evans i Borthmadog, a dywed ef nad oedd ond pedwar neu bump yn mynychu'r Ysgol Sul; ac mor brin oedd y rhai oedd a'u hysgwyddau o dan yr arch fel y gorfu iddo ef, y Sul cyntaf y daeth yno, gymeryd rhan dair gwaith yn ystod y dydd. Ac nid peth dieithr iddynt, ebe efe, fyddai bod am bedwar neu bum Saboth heb weinidogaeth, oherwydd yr arferiad y pryd hynny fyddai anfon y gweinidogion i'r mannau oeddynt yn alluog i gyfranu.

Ni pharhaodd y trai yn hir. Symudodd amryw o deuluoedd lluosog a defnyddiol i fyw i'r dref; a rhai oddi wrth enwadau eraill, megis Mr. Robert Morris (tad Mr. David Morris, Oakeleys), er fod ei briod yn aelod ffyddlon gyda'r Wesleaid er's rhai blynyddoedd. Bu Mr. Morris yn noddwr hael i'r achos. Ei gymwynas gyntaf wedi iddo ymuno âg ef ydoedd, talu gweddill y ddyled oedd yn aros ar y capel, sef y swm o £60. Ac nid yn unig hynny, sicrhaodd hefyd y gyfran gyntaf tuag at adeiladu capel newydd. Mor addawol ydoedd y rhagolygon erbyn hyn—y ddyled wedi ei thalu, rhif yr eglwys yn cynhyddu, a'r awydd am waith yn cryfhau,fel y penderfynwyd tynnu i lawr yr hen adeilad, ac adeiladu un mwy.

Gosodwyd carreg sylfaen y capel newydd i lawr ar y 18fed o Fehefin, 1870, a gorffennwyd ef erbyn Hydref, 1871. Yr oedd y draul—heb yr oriel—yn £1,200. Derbyniwyd £150 o Drysorfa Adeiladu yr enwad. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol ar y 18fed o Hydref, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Samuel Davies, William Davies, a Hugh Jones. Nid oedd y capel newydd mor ddymunol ag y dymunid iddo fod—i bregethu, nag i wrandaw. Oherwydd hynny, penderfynwyd gosod oriel ynddo, yr hyn a wnaed yn y flwyddyn 1877, ar y draul o £588. Derbyniwyd hanner can punt tuag ato o'r Drysorfa Adeiladu. Agorwyd ef yr ail waith ar y 5ed a'r 6ed o Fehefin, 1878. Y flwyddyn hon hefyd yr adeiladwyd addoldy bychan wrth ymyl y parc, gan Gylchdaith Wesleaidd Bangor a Chaernarfon, at wasanaeth y Saeson oedd yn y dref. Ond ni bu ei lwyddiant ond am gyfnod byrr, a bu raid ei gau. Yn 1902 prynodd eglwys Ebenezer ef, tuag at ei ddefnyddio i gynnal Ysgol Sul Genhadol.

Yn y flwyddyn 1894 adeiladwyd ysgoldy, ar draul o £700. Hyd yn hyn nid oedd gan yr eglwys dŷ i'w gweinidog, o'r eiddynt eu hunain; ac yn y flwyddyn 1902 penderfynwyd prynu un, yr hwn a gostiodd, gyda'r capel cenhadol, y swm o £900; a'r flwyddyn ddilynol cynhaliwyd nodachfa, yr hon a drodd allan yn llwyddiant mawr, gan gyflwyno i'r eglwys £800 o elw clir.

Er cymaint o welliantau a wnaed ar y capel, nid ydoedd eto'n berffaith gan eglwys mor weithgar, a chawn hi, yn 1905, yn gosod ynddo organ hardd, gwerth £480. Derbyniwyd y swm o ddau can punt tuag ati gan Mr. Carnegie, y miliwnydd. Derbyniwyd £28 o elw ar ddydd ei hagor, a chyfranodd yr aelodau y gweddill.

Fel, erbyn hyn, nid oes eglwys fwy gweithgar a chytun o fewn y dref nag eglwys Ebenezer. cynifer ag wyth o bregethwyr wedi codi o honi, sef:Owen Hughes, Richard Williams, John Lloyd, Owen Madoc Roberts, William Barrow Griffith, John Hughes, J. Watkin Lloyd, ac Ellis O. Lloyd.

Ar derfyn 1912 rhifai'r aelodau 211 ynghyd a 80 o ieuenctyd. Rhif yr Ysgol Sabothol: yr athrawon a'r athrawesau, 27; yr holl nifer, 233. Y mae'r Capel, yr Ysgoldy, a'r Capel Cenhadol, yn ddi-ddyled.

Y Swyddogion am 1912.

Gweinidog: Y Parch. Owen Evans, Rockcliffe, Garth.

Y Blaenoriaid.—Mr. David Lloyd, Tremadog; Mr. D. R. Thomas, High Street; Mr. Ellis Jones, Snowdon Street; Mr. E. Hugheston Roberts, Tremadog.

Goruchwylwyr yr Eglwys.—Mr. D. Morris, The Oakeleys; Mr. W. Morris, Britannia Terrace; Mr. J. P. Roberts, Boston Lodge; Mr. Urias Heritage, 7, Snowdon Street.

Ymddiriedolwyr yr Eiddo.—Ysgrifennydd: Mr. D. Morris, The Oakeleys. Trysorydd: Mr. D. R. Thomas, High Street.

Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol Gogledd Cymru deirgwaith ym Mhorthmadog, sef yn 1882, 1887 ac yn 1897, a Chyfarfod Talaeth Ail Dalaeth Gogledd Cymru yn 1910.

Nodiadau

[golygu]