Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Yr Annibynwyr

Oddi ar Wicidestun
Yr Enwadau Crefyddol Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Y Wesleaid

SALEM.

Dechreu'r Achos 1823
Adeiladu'r Capel 1827
Helaethwyd 1841
Ail-adeiladwyd 1860
Ai-gyweiriwyd 1899


Gweinidogion yr Eglwys.

 
Y Parch. Henry Rees 1831-2
Y Parch. Joseph Morris 1834-6
Y Parch. W. Ambrose 1837-73
Y Parch. L. Probert, D.D 1874-86
Y Parch. D. Glanant Davies 1887-91
Y Parch. W. J. Nicholson 1892


FEL yr oedd pwysigrwydd y porthladd yn cynhyddu, chwareli a mwngloddiau y cwmpasoedd yn cael eu dadblygu ac yn anfon eu cyfoeth i lawr iddo, amlhai y tai annedd yn y lle, a lliosogai y boblogaeth yn gyflym.

Methodistiaid oedd corph mawr y wlad o amgylch. Ychydig ac eiddil oedd rhif yr enwadau eraill y pryd hynny. Nid oedd gan yr Annibynwyr gapeli'n nes na Maentwrog, ar y naill law, a Rhoslan ar y llall. Tra'r oedd gan y Methodistiaid, erbyn gorffeniad y Morglawdd


SALEM, A

yn 1811, ddau gapel cyfleus yn yr ardaloedd cyfagos, sef Brynmelyn a Thremadog. Agorwyd y naill yn 1805 a'r llall yn 1810, ac ymunai'r Ymneillduwyr a ddeuent o ardaloedd eraill â'r Methodistiaid yn Nhremadog. Yr oedd gofalaeth yr eglwys honno y pryd hynny ar y Parch. John Jones. Methodist selog oedd efe, os nad hefyd yn gul a cheidwadol ei feddwl. Er hynny, meddai ar argyhoeddiadau cryfion a di-ildio. Caniatai i rai o enwadau eraill ymgynull i Dremadog i fwynhau'r efengyl, ac i ymuno â hwy os yr ewyllysient. Ond nid oedd ryddid iddynt gael gwasanaeth yr addoldy at ddim enwadol, hyd yn oed i gynnal ambell bregeth ynddo gan rai o'u gweinidogion eu hunain.

Ymhlith y rhai o enwadau eraill a arferai fynychu'r ddiadell Fethodistaidd yn Nhremadog yr oedd Mrs. Williams, priod Mr. John Williams, Tuhunt-i'r-bwlch, goruchwyliwr Mr. Madocks. Merch hynaf ydoedd hi i Mr. David Williams, Saethon, Lleyn, a chwaer i un o'r un enw, a ddaeth yn adnabyddus wedyn fel Mr. David Williams, Castell Deudraeth. Yr oedd Mrs. Williams yn aelod gyda'r Annibynwyr ym Mhenlan, Pwllheli; a phan ymsefydlodd ym Mhorthmadog, ei bwriad cyntaf ydoedd myned bob Sul Cymundeb i Bwllheli, a chymeryd, fel y dywed Emrys, "Hynny o efengyl a fedrai gael yn ei hymyl—hen system a welodd hi mewn bri yn Lleyn, ond a dorrodd rym Annibyniaeth yn y parth hwnnw o'r Sir; a phe buasai Mrs. Williams wedi cyndyn lynu wrth y cynllun hwnnw ni fuasai achos gan yr enwad mor fuan yn y Porth."

Yn fuan wedi iddi ymsefydlu yn ei chartref newydd ymwelodd y Parch. Benjamin Jones, ei chyn-weinidog, â hi; ac yn ystod ei arhosiad cynygiodd roddi pregeth iddynt yng nghapel Tremadog. Gwnaed y bwriad yn hysbys, a gwnaeth Mrs. Williams, drwy ei phriod, gais am fenthyg y capel; ond er syndod i bawb, gwrthodwyd y cais. Am y digwyddiad hwn nis gallaf wneud yn well na dyfynnu a ganlyn o ysgrifau dyddorol a gwerthfawr Emrys ar hanes dechreuad yr Annibynwyr ym Mhorthmadog, allan o'r Dysgedydd am y flwyddyn 1870.

Clywsom lawer o feio ar flaenoriaid y Methodistiaid oherwydd y tro. Y mae'n wir fod ymddygiad o'r fath yn ymddangos yn ddyeithr yng ngoleuni'r dyddiau hyn. Yr ydym yn sicr fod yr hen bobl dda yr oes honno yn gweled llawer mwy o ryfeddod yn ymddygiad un blaid yn gofyn, nac yn ymddygiad y blaid arall yn gwrthod. Y mae'r oes yn fwy cyfrifol am y weithred honno na'r personau. Yn wir, yr oedd rhywbeth i'w edmygu yn yr hen bobl dda a wrthodasant roddi gwasanaeth Capel Tremadog i Benjamin Jones, Pwllheli. Dyna engraifft o wroldeb. Yr oedd y gweinidog a'r blaenoriaid yn ddeiliaid ar ystad Madocks. Yr oedd gwraig ieuanc yr agent trwy ei gwr, wedi gwneud y cais. Yr oedd gan y goruchwyliwr hwnnw fwy o awdurdod na'r hyn sy'n meddiant y gwyr sydd yn sidellu pleidleisiau yn y dyddiau hyn; a mwy na'r cwbl, yr oedd y boneddwr a'r blaenoriaid yn gyfeillion cynnes i'w gilydd. Ond ni wyrent drwch blewyn o'u ffordd! Safasant o blaid y ffydd fel dynion. Ac os deuai Annibyniaeth neu rhyw "aeth" arall yn agos i'r lle gofalent na ddeuai drwy eu hareithfa hwy. Adwaenom y dynion hynny yn dda. O! na chaem fwy o rai tebyg iddynt. Buont lawer gwaith ar ol hynny yn agor eu pwlpud yn llawen i bregethwyr o enwadau eraill. Yr oeddynt yn medru symud gyda'r oes. Heddwch i lwch John Jones, Tremadog, William Wiliams, Lanerch; a William Roberts, "Farm Yard."

Buasai'n groes i'r natur ddynol ddisgwyl i amgylchiad felly fyned heibio heb niweidio rhywfaint ar deimladau pâr ieuanc o safle Mr. a Mrs. Williams, a'r canlyniad fu, iddynt agor Ysgol Sabothol mewn ystafell yn gysylltiedig â'r tŷ. Ymdaflodd Mrs. Williams i'r gwaith, ac ymgymerodd ei hunan â dosbarth o enethod. Wrth weled hynny'n llwyddo, gwnaed trefniadau i gael pregeth ar y Sabath; ac yn achlysurol ar nosweithiau'r wythnos, a chafwyd lle i'r diben hwnnw mewn rhan o Tregunter Arms. Credir mai'r bregeth gyntaf a gafodd yr Annibynwyr ym Mhorthmadog oedd gan y Parch. J. Williams, Ffestiniog ar y pryd,—Llansilyn a'r America wedyn. Dilynwyd ef gan amryw o weinidogion yr enwad o Arfon a Meirion, sef y Parchn. Lewis Pwllheli, Davies Trawsfynydd, Griffiths Bethel, Rowlands Rhoslan, a Davies Ffestiniog. Yn y flwyddyn 1825 daeth y Parch. John Evans o Carmel, Amlwch, i wneud ei gartref a diweddu ei ddyddiau gyda'i ferch, —priod J. C. Paynter, Swyddog y Doll, i Lan y Donn, Minffordd. Bu dyfodiad Mr. Evans i'w plith yn sirioldeb mawr i'r achos yn ei fabandod, er nad oedd ei nerth yn gryf,—oherwydd dioddefai oddiwrth ganlyniad ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i ddilyn ei alwedigaeth; ond cafodd fod o help a chysur, gyda'i ddoethineb, a'i gyngor parod, am gyfnod o ddwy flynedd ar hugain. Parhaodd yr achos i gynhyddu'n rheolaidd, a balch oedd yr aelodau o hynny, ac aberthent lawer erddo. Wrth ei weled yn parhau i lwyddo, rhagolygon y dre'n gwella, a'r preswylwyr yn cynhyddu, ymgynghorodd yr aelodau ynghyd ynghylch y priodoldeb o gael capel addas iddynt addoli ynddo. Oherwydd y rhan a gymerai ei briod yn y gwaith, cymerai Mr. J. Williams ddyddordeb mawr yn yr achos, ac awyddai i wneud a allai er ei lwyddiant. Hyd yn hyn, nid oedd ym Mhorthmadog unrhyw fath o ysgol ddyddiol, oddigerth yr un gadwai'r hen forwr methedig, William Griffith. Gan mai morwriaeth yn bennaf a ddysgai efe, penderfynwyd cael adeilad a wasanaethai'r ddau amcan—addysgol a chrefyddol. Gyda Mr. Williams yn brif hyrwyddwr y mudiad, penderfynwyd ar ddarn o dir cyfleus, a chafwyd prydles am gant namyn un o flynyddoedd. Codwyd capel a thŷ gerllaw iddo, ar y draul o dri chant, a chasglwyd tuag ato yn yr ardal £67 3s. 11c.

Yr oedd cael gwr o brofiad a dylanwad Mr. Williams i gymeryd y fath ddyddordeb yn y gwaith, yn fantais werthfawr, nid yn unig gyda'i gyngor, ond hefyd gyda'r gwaith o gasglu tuag ato. Efe hefyd a edrychai ar ol y cyfan ynglyn â'r capel newydd hyd ddiwedd y flwyddyn 1832.

Erbyn dydd agoriad y capel yr oedd y swm o gan punt wedi ei sicrhau. Cynhaliwyd cyfarfod i'w agor ar yr 20fed a'r 21ain o Fehefin, 1827. Gwasanaethwyd gan y Parchn. William Williams o'r Wern, Breese Lerpwl, Ridge y Bala, a Lewis Pwllheli. Yr oedd yr oll o'r eisteddleoedd wedi eu cymeryd ar ddydd ei agoriad, a cheir enwau'r cymerwyr oll yn ysgrifau Mr. Ambrose, ond nid oedd rhif y cyflawn aelodau ond saith. Yn yr amser hwn daeth Mr. Richard Jones i Ysgol Tremadog, o Ddolyddelan. Yr oedd Mr. Jones yn bregethwr poblogaidd, ac yn weithiwr diwyd. Pregethai'n fynych yn y capel newydd, ac ym Morfa Bychan; ond yn fuan wedi hyn gadawodd Ddyffryn Madog i fyned i'r Athrofa i'r Drefnewydd. Ar ol colli gwasanaeth Mr. Jones penderfynodd yr eglwys anfon at y Parch. D. Peters, Caerfyrddin, am wr ieuanc a wnai fugail ac ysgolfeistr iddynt. Anfonodd yntau Mr. James Williams, Llanwrtyd,—Hwlffordd wedyn. Ond nid oedd efe'n hoffi'r lle, ac anfonwyd am arall, pryd y daeth Mr. Henry Rees, brodor o Gaerfyrddin, a chawn iddo ef, ar yr 11eg o Ionawr, 1830, arwyddo cytundeb â'r eglwys (gwel y bennod ar "Yr Ysgolion Bore") i fod yn fugail iddi ac yn athraw i'w phlant. Cynhaliwyd cyfarfod i'w ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth ar yr 2fed o Fehefin, 1831. Yn flaenorol i hyn, ni cheid ond un bregeth yn Salem, sef ar fore Saboth. Elai'r pregethwr i Forfa Bychan erbyn y nos. Ond wedi dyfodiad Mr. Rees, newidiwyd y drefn i gael dwy bregeth yn Salem. Ni bu'r achos yng nghyfnod arhosiad Mr. Rees mor llewyrchus ag y dymunid. Dioddefodd ychydig o drai—nid o unrhyw ddiffyg o du'r gweinidog, ond o herwydd difrawder naturiol, a dyddiau tawel ar grefydd. Yn lled ddirybydd, ac er gofid i'r eglwys, penderfynodd Mr. Rees ymadael i Bentraeth a Phenmynydd, Môn. Dilynwyd ef yn Salem gan y Parch. Joseph Morris, pregethwr cynnorthwyol o Lerpwl. Sefydlwyd ef ar y 15fed o Hydref, 1834. Gwr cyfiawn oedd efe, yn cashau rhagrith, twyll, ac amhurdeb, â châs cyflawn; a phan ymsefydlodd yn y lle cafodd achlysur i ddysgyblu amryw. Dwy flynedd yn unig a fu cyfnod arhosiad Mr. Morris yn Salem. Cafodd alwad i Bwlchtocyn ac Abersoch, a chymerodd eu gofal yn Hydref, 1836. Yr un amser yr oedd y Parch. W. Williams (Caledfryn) wedi ei benodi i fyned ar daith—yn ol arfer y dyddiau hynny trwy Leyn ac Eifionnydd. Cymerodd yn gyfaill iddo Mr. W. Ambrose o Fangor, yr hwn oedd y pryd hynny'n fachgen ieuanc 23ain oed, newydd ddychwelyd adref o Lunden, wedi treulio wyth mlynedd o amser mewn gwasanaeth yn Lloegr, ac eto heb benderfynu ar y cyfeiriad a gymerai mewn bywyd. Yn ystod eu taith galwasant ym Mhorthmadog, a rhoddwyd iddynt groeso caredig, a chymaint oedd boddhad yr eglwys yn y "cyfaill" fel y gofynasant am Saboth iddo. Pan ddaeth dyddiad y cyhoeddiad hwnnw cyfeiriodd Mr. Ambrose ei wyneb tua'r lle. Cerddodd yr holl ffordd o Fangor i Borthmadog. Aeth y Saboth heibio'n hapus, ac ni fynai'r eglwys iddo ymadael oddiwrthynt, ond yn hytrach aros gyda hwy yn fugail arnynt. Cydsyniodd yntau i aros am flwyddyn o brawf os y dymunent, —peth go anghyffredin,—ond cymaint oedd ei ymdeimlad o'i anghymwysder i ymgymeryd â'r swydd fel nad allai wneud yn wahanol. Nid oedd wedi cael y manteision arferol a ystyriai y dylasai gweinidog ieuanc eu cael. Ni chawsai unrhyw gwrs athrofaol, ac nid oedd sefyllfa'r eglwys ychwaith yn un ad-dyniad iddo. Yr oedd y ddisgyblaeth a weinyddasai Mr. Morris, y dirywiad, a'r encil, wedi lleihau ei nhifer yn fawr, gan adael ei chymunwyr yn ddim ond 19eg. Ond nid am "flwyddyn brawf " y bu efe, ond am weddill ei oes—36 o flynyddoedd, a rheiny wedi eu llenwi hyd yr ymylon, ac yn amlwg o dan fendith y Goruchaf. Cynhaliwyd cyfarfod i'w ordeinio, ar y 7fed o Ragfyr, 1837. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. Joseph Morris. Pregethwyd ar "Natur Eglwys" gan y y Parch. E. Davies, Trawsfynydd. Holwyd y gweinidog gan y Parch. D. Griffith, Bethel. Gweddiodd y Parch. T. Pierce, Lerpwl. Rhoddwyd y Cyngor i'r gweinidog gan y Parch. William Hughes, Saron. Pregethwyd ar ddyledswydd yr eglwys gan y Parch. William Williams, Caernarfon. Cynhyddodd yr eglwys yn gyflym o dan weinidogaeth Emrys, a bu raid ychwanegu oriel at yr addoldy'n fuan. Ond er gwneud hynny, yr oedd erbyn y flwyddyn 1840 wedi myned yn rhy fychan drachefn, a bu cryn siarad ymhlith y brodyr ar ba beth i'w wneud. Daliai rhai'n selog, y dylid talu'r £150 dyled oedd arno. Ond credai'r gweinidog, ac ychydig eraill, fod gweled rhai yn "ymofyn lle" yn Seion, ac heb le i'w roddi iddynt, yn llawer gwaeth hyd yn oed na'r ddyled. Tra yn y cyfwng hwn derbyniodd Mr. Ambrose alwad oddiwrth eglwysi Talybont a Salem, Sir Aberteifi, a gogwyddai ei feddwl i'w dderbyn, am fod yno "le i weithio, yr hyn nad oedd ym Mhorthmadog."

Ond yn hytrach na cholli'r fath fugail ag Emrys, cydsynio'n ebrwydd a wnaethant i wneud unrhyw gyfnewidiadau a ystyriai efe'n angenrheidiol, a hynny ydoedd tynnu i lawr y capel a'i helaethu. Costiodd hynny £600, yn ychwanegol at y cant a hanner ôl ddyled. Yn ystod y chwe mis y bu'r capel o dan adgyweiriad, bu'r gynulleidfa'n cydgyfarfod yng nghapel y Wesleaid. Cynhaliwyd cyfarfodydd i'w ail agor ar yr 8fed a'r 9fed o Fedi, 1841. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Dr. Vaughan; J. Blackburn, Llunden; Joseph Morris, Llanengan; E. Evans, Abermaw; S. Roberts, Llanbrynmair; Thos. Pierce, Lerpwl; O. Thomas, Talysarn; J. Morgan, Nefyn; Thos. Edwards, Ebenezer; a William Williams (Caledfryn). Bu pregethu Saesneg am gyfnod, sef o'r 5ed o Fedi, 1852, hyd fis Hydref. Ymhen ychydig flynyddoedd yr oedd y capel hwn eto wedi myned yn rhy fychan i'r galw, ac yn 1859 dechreuwyd ar y gwaith o godi un helaethach drachefn. Cymerodd hwn bymtheg mis i'w orffen, a chostiodd tua dwy fil o bunnau. Yn ystod yr amser hwnnw cynhelid y gwasanaeth yn y Neuadd Drefol.

Ymgymerodd Mr. Ambrose a chasglu canpunt os yr ymgymerai yr eglwys a chasglu pedwar cant ar ddydd ei agoriad, yr hyn a wnaed, ac agorwyd ef ar y Saboth olaf o Fedi, 1860, pryd y pregethodd Mr. Ambrose. Dydd Llun a Mawrth, Hydref 1, 2, cynhaliwyd cyfarfod pregethu, pryd y cymerwyd rhan gan y Parchn. D. James, Capel Mawr; D. Roberts, Conwy; William Rees (Gwilym Hiraethog), E. Stephen (Tanymarian), a R. Thomas (Ap Fychan), Bangor.

Parhaodd yr eglwys i lwyddo o dan weinidogaeth y Parch. W. Ambrose. Ni chodwyd ond un pregethwr o Salem yn ystod yr hanner cyntaf o'i hanes, sef y Parch. David Lloyd, mab Mr. W. Lloyd, Ironmonger. Ar y 27ain o Ebrill, 1873, traddododd Mr. Ambrose ei bregeth olaf i'w eglwys. Bu farw y mis Hydref dilynol, yn 60 mlwydd oed, er mawr golled i'w enwad a thristwch i'w genedl.

Yn ystod y misoedd hynny cynhelid yr Undeb ym Mhorthmadog, ac ymhlith y rhai a wnaeth "enw iddynt eu hunain" yr oedd y Parch. Lewis Probert, yr hwn oedd y pryd hwnnw'n weinidog ieuanc yn y Rhondda. Gwnaeth argraff ddofn ar y gwrandawyr, a chanfu yr eglwys, oedd o dan orfod bellach i feddwl am olynydd i'r Parch. William Ambrose, fod un wrth fodd ei chalon yn bresennol. Yn fuan symudwyd ymlaen i roddi galwad iddo, a honno'n alwad unfrydol, —iddo ddyfod i'w bugeilio, ac er nad oedd hynny ym mryd Mr. Probert pan yn yr Undeb, rhoddodd atebiad ffafriol. Dechreuodd ar ei waith gweinidogaethol yn Salem yn nechreu'r flwyddyn 1874, ac fel y profodd, ni allesid cael ei gymhwysach fel olynydd i'r diweddar Barch. W. Ambrose. Nid oedd yr Annibynwyr ym Mhorthmadog, er clod iddynt, am adael Emrys fod heb goffadwriaeth deilwng ohono, a'r ffurf a gymerodd eu penderfyniad ydoedd codi capel newydd ar ei enw, i lefaru i'r oesau a ddeuai ddyfned eu parch iddo. Gweithiodd yr eglwys yn egniol a chanmoladwy tuag at sylweddoli hynny, ac ymdaflodd Mr. Probert â'i holl ysbryd i'r gwaith, a bu'n arweinydd doeth a diogel gyda'r symudiad pwysig. Gan fod yr "Undeb Cymreig" i'w gynnal ym Mhorthmadog ym mis Awst, 1877, manteisiwyd ar yr achlysur i osod y sylfaen i lawr ar yr 20fed o Awst, gan Henry Richards, Ysw., A.S., yr hwn a dalodd deyrnged uchel o barch i Mr. Ambrose. Cymerwyd dwy flynedd o amser i gwblhau'r gwaith, ac ar nos Fercher, y 7fed o Fai, 1879, rhoddodd eglwys Salem lythyrau gollyngdod i bedwar o'u diaconiaid Mri. Hugh Davies, Owen Hughes, Richard Williams, a John Williams, ynghyda'u teuluoedd, a phedwar ugain o aelodau eraill, y cyfan yn 98 o bersonau. Parhaodd y Parch. L. Probert i wasanaethu'r ddwy eglwys gyda'r llwyddiant a nodweddai ei holl waith, gan geisio pregethwyr eraill i wasanaethu gydag ef ar y Sabothau.

Y diaconiaid a adawyd yn Salem oeddynt Mri. Owen Morris, William Evans, William Timothy, a Benjamin Roose. Tymhor hapus, yn llawn gwaith, fu tymhor Mr. Probert ym Mhorthmadog—hyd yr adeg y traddododd ei bregeth ymadawol ar yr 21ain o Fawrth, 1886, gan ddychwelyd yn ol i'w hen faes, sef Y Pentre, Rhondda.

Yn y flwyddyn 1887, daeth y Parch. D. Glanant Davies, i gymeryd gofal yr eglwys. Yr oedd safle'r eglwys ar y pryd fel y canlyn:

Rhif yr aelodau, 284; rhif y rhai ar brawf, 45; rhif y plant yn perthyn i'r eglwys, 136; y gwrandawyr, 200; yr holl nifer, 665. Rhif yr Ysgol Sabothol, 430. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn ydoedd £582. Talwyd o'r ddyled yn ystod y flwyddyn £43.

Byr a fu arhosiad y Parch. Glanant Davies yn Salem. Ymadawodd yn 1891. Cyfodwyd tri i bregethu yn ei amser ef, sef John Williams Davies (ŵyr i Beuno), Robert Owen, ac Eifion Wyn—y tri o'r Garth.

Yn ebrwydd rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. W. J. Nicholson, Abertawe y pryd hynny, a dechreuodd ar ei faes newydd yng Ngorffennaf, 1892. Gwasanaethwyd yng nghyfarfod ei sefydlu gan y Parchn. Herber Evans, a William James, Abertawe. Y symudiad pwysig cyntaf a gymerodd le wedi dyfodiad Mr. Nicholson ydoedd adgyweirio'r capel. Yn flaenorol i hynny, nid oedd yr un sedd fawr ynddo, dim ond dwy sedd fach, un o bobtu'r pwlpud. Yn 1899 rhoddwyd y pwlpud newydd, gan deulu y diweddar Mr. Robert Owen, Belle Vue, yn goffadwriaeth am dano. Yr oedd Miss Morris, Bank Place, eisoes wedi anrhegu'r eglwys âg organ, gwerth tri chant o bunnau, er cof am ei brawd, Mr. Owen Morris; ond erbyn yr adgyweiriad hwn yr oedd hithau hefyd wedi marw, a rhoddodd Mr. David Morris rodd o gan punt tuag at sedd fawr er cof am dani. Rhoddwyd drysau newyddion hefyd yn rhodd gan Mr. William Evans, Lombard Street. Yr oedd yr holl draul yr aed iddo yn £579 12s. 7c.; ond cyn diwedd y flwyddyn nid oedd yn aros ond £29 9s. 11c.

Y pregethwyr ar ddiwedd y ganrif oeddynt, —Robert Owen, Eifion Wyn, ac R. G. Nicholson; y diaconiaid, William Evans, Griffith Griffiths, Morris Jones, Samuel Jones, Thomas Jones, Robert McLean, John Jones Morris, Phillip Owen, David Richards, Ebenezer Roberts, a William Timothy.

Blwyddyn a adawodd ei nod yn amlwg ar yr eglwys fu'r flwyddyn 1903—y flwyddyn y bu farw Capten Morris Jones, ac y dewiswyd Mr. J. R. Owen i lanw'i le fel trysorydd yr eglwys; y dechreuodd Mr. James Jones Roberts bregethu. Blwyddyn talu'r ddyled a chynnal Jiwbili, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. William James, Abertawe; John Thomas, Merthyr; L. Probert, D.D., Bangor, ac H. Elfed Lewis.

Y flwyddyn 1905, bu farw dau arall o'r diaconiaid, sef y Capten Thomas Jones a Mr. McLean. Am y diweddaf, dywed y gweinidog:—"Ni bu gan weinidog erioed gywirach cyfaill, ac ni fu gan yr eglwys erioed ffyddlonach swyddog."

Yn 1906, etholwyd Capten Joseph Roberts, Mri. William Roberts, J. R. Owen, D. G. Owen, a Thomas Parry, yn ddiaconiaid.

Yn 1910, symudodd Mr. D. G. Owen i Aberhonddu, a dewiswyd Mr. Llew. Davies yn ysgrifennydd yr eglwys yn ei le.

Yn 1907, urddwyd y Parch. William John Williams yn weinidog ar yr eglwys Annibynol yn Carway, Cydweli.

Wele ystadegau'r eglwys am y flwyddyn 1912: Ysgoldai perthynol i'r achos, dau; nifer y tai annedd, un; ymddiriedolwyr, saith. Gwerth eiddo'r achos, £3,800. Swm y ddyled, £310. Rhif yr aelodau, 267; y plant, 205; y gwrandawyr, 20; ar lyfrau'r Ysgol Sul, 277.

Y Swyddogion am 1912.

Gweinidog:
Y Parch. W. J. Nicholson.

Pregethwr:
Mr. E. Williams (Eifion Wyn).

Diaconiaid: Mri. Wm. Evans, G. Griffiths, J. R. Owen, Thos. Parry, Capten D. Richards, Capten Joseph Roberts, a Mr. Wm. Roberts.

Trysorydd yr Eglwys: Mr. J. R. Owen.

Ysgrifennydd yr Eglwys: Mr. Llew Davies.

Y COFFADWRIAETHOL.

Adeiladwyd. 1879
Adeiladu Ysgoldy 1898


Y Gweinidogion.

Y Parch. Lewis Probert, D.D. 1879—86
Y Parch. H. Ivor Jones 1887—99
Y Parch. D. J. Williams 1902—09
Y Parch. J. Edwards, B.A. 1913


Teyrnged o barch i goffadwriaeth gwr nad a'i glod yn anghof, ac na phaid ei enw a pherarogli am lawer cenhedlaeth yw'r deml wych hon. Fel y sylwyd yn yr adran flaenorol, gosodwyd y garreg sylfaen i lawr gan un o feibion puraf a ffyddlonaf Ymneillduaeth Cymru Henry Richards, Ysw., A.S., a thraddododd yntau ar yr achlysur un o'i areithiau grymusaf a mwyaf nodweddiadol ar "Weithrediad yr Egwyddor Wirfoddol"; a chymhwysach nag ef i siarad ar hynny nid oedd. Cymerwyd rhan hefyd yn y gweithrediadau gan y Parchn. Dr. Thomas, Lerpwl, a E. Herber Evans, Caernarfon. Yr oedd swm yr addewidion yn barod yn ddwy fil. Cymerwyd dwy flynedd i gwblhau'r adeilad, ar y draul o dros bum mil o bunnau.

Ond nid "aur, arian, meini gwerthfawr a choed," oedd unig gynysgaeth Salem i'r deml newydd, eithr hi a roddodd lythyrau gollyngdod i 98 o bersonau—diaconiaid, aelodau a phlant. Symudai rhai o gyfleusdra, ac eraill i fod yn help i'r achos yn ei gychwyniad. Agorwyd y capel yn ffurfiol trwy gynnal cyfarfod pregethu, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. E. Herber Evans, Dr. Thomas, Dr. Rees, Abertawe, W. Griffith, 2 Caergybi, a Gwilym Hiraethog—a'u rhagorach i'r amgylchiad nis gellid eu cael.

Ymgymerodd y Parch. L. Probert â gofalaeth yr eglwys newydd at ei waith blaenorol, ac ychwanegid yn barhaus at rif y ddwy eglwys. Dewiswyd yn ddiaconiaid, at y rhai a ddaeth o Salem, y brodyr canlynol: Mr. J. Jones, Braich y Saint, oedd wedi ymsefydlu ym Mhorthmadog, diacon yn Nhabor cyn hynny, ac yn


CAPEL COFFADWRIAETHOL EMRYS, A.

un o wyr blaenllaw yr enwad yn Lleyn ac Eifionnydd; Mri. David Griffith, Capten David Richards, a Joseph Hughes. Dewiswyd Mr. David Griffith yn ysgrifennydd yr eglwys, y Cadben David Richards yn drysorydd, a Mr. John Williams yn arweinydd y canu—swydd a lanwasai am flynyddoedd yn Salem.

Bu'r eglwys am amryw flynyddoedd yn gysurus a llwyddiannus iawn—yr aelodau a'r gynulleidfa'n lluosogi, a'r ddyled yn cael ei diddymu'n gyflym.

Yn y flwyddyn 1886 derbyniodd Mr. Probert alwad oddi wrth ei hen eglwys ym Mhentre Rhondda. Traddododd ei bregeth olaf yn y Coffa ar yr 21ain o Fawrth. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo yn Salem o dan lywyddiaeth Mr. W. E. Morris, pryd yr anrhegwyd ef a darlun (painting) o hono'i hunan, ynghydag anrhegion i Mrs. Probert a'u mhab; ac ni symudodd gweinidog erioed o'r naill ofalaeth i'r llall o dan amlygiad o fwy o barch nag a wnaeth Mr. Probert. Cyfrannodd yn helaeth at yr achos tra bu ym Mhorthmadog, a rhoddodd ei ysgwyddau'n llawen o dan feichiau y ddwy eglwys. Yn ystod y naw mlynedd cyntaf o oes y Coffa, talwyd yn agos i bedair mil o bunnau. Colled fawr i'r eglwys oedd colli gwr o'i ymroddiad ef. Er hynny ni ddigalonasant, ond symudasant ymlaen yn ddiymdroi i sicrhau olynydd teilwng iddo trwy alw y Parch. H. Ivor Jones, oedd y pryd hynny yng ngofalaeth eglwys Llanrwst. Dechreuodd Mr. Jones ar ei waith ym Mhorthmadog ar y 6ed o Chwefrol, 1887. Yn y flwyddyn 1889 agorwyd yr Oriel—hyd hynny ni bu ei hangen. Yn y flwyddyn ddilynol dewiswyd y Mri. William Williams, Richard Owen, Lewis Jones Lewis, David Owen, a John Griffith, yn ddiaconiaid. Yn 1897-8 ychwanegwyd ysgoldy helaeth a chyfleus at y capel, ar y draul o yn agos i naw cant o bunnau, ac agorwyd hi ar y 9fed o Fawrth, 1898. Yn y flwyddyn ddilynol derbyniodd y Parch. H. Ivor Jones alwad oddi wrth eglwys Gymraeg Albion Park, Caerlleon. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo ar yr 21ain o Fedi, dan lywyddiaeth y swyddog hynaf,—Mr. John Williams. Cyflwynwyd i Mr. Jones, ar ran yr eglwys, anerchiad hardd, ynghyd ag anrhegion i Mrs. Jones a'r ddwy ferch, yn arwydd o'u parch i'r teulu a'u hedmygedd o'u gweinidog. Talwyd yn ystod gweinidogaeth Mr. Jones tua phum cant o'r ddyled.

Wedi ymadawiad y Parch. H. Ivor Jones bu'r eglwys am ysbaid tair blynedd heb fugail arni. Yn 1902 rhoddodd alwad i'r Parch. D. J. Williams, Tredegar—brodor o Fethesda, Arfon. Dechreuodd ef ar ei waith ar y 29ain o Fehefin. Yn y flwyddyn 1905 dewiswyd yn ddiaconiaid Mri. Hugh Hughes, Elias Pierce, John Pritchard, a Richard Owen—tri newydd, ac un a ymneillduasai yn flaenorol. Yn ystod arhosiad Mr. Williams collwyd tri o wyr a fuont yn gefn da i'r achos: y Capten D. Richards, Mr. Lewis Jones Lewis, a Mr. Owen Evans, Bontfaen.

Ym mis Hydref, 1909, ymadawodd y Parch. D. J. Williams i'r Unol Dalaethau.

Y mae ystadegau'r eglwys am 1912 fel y canlyn:Gwerth yr holl eiddo perthynnol i'r achos, £6,151. Swm y ddyled ar derfyn 1912, £598 15s. Rhif yr aelodau, 200; y plant, 93; nifer y gwrandawyr, 15. Rhif yr Ysgol Sabothol, 178.

Yn 1912, bu farw Mr. David Griffith, ar ol llanw'r swydd o ysgrifennydd yr eglwys am 33 o flynyddoedd.

Y Diaconiaid.—Mri. John Williams, John Griffith, Richard Owen, John Pritchard, Elias Pierce, a Hugh Hughes.

Trysorydd yr Eglwys.—Mr. John Griffith. Ysgrifennydd.—Mr. Hugh Hughes.

Cynhaliwyd Undeb yr Annibynwyr Cymreig ddwywaith ym Mhorthmadog, sef yn 1877 a 1900.

Nodiadau

[golygu]