Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Attodiad

Oddi ar Wicidestun
Plwyfi Llanddeusant i Lanfwrog Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

ATTODIAD.

Trwy ryw amryfusedd gadawyd allan y sylwadau canlynol mewn cysylltiad ag

AMLWCH.

GWEITHYDD GWRTAITH CELFYDDYDOL A DADANSODDOL (Chemical and Artificial Manure Works.)—Dechreuwyd y gwaith yma yn Mynydd Parys, yn y fl. 1843, gan H. Hills, Ysw., pan yr oedd y mines yn eu bywiogrwydd mwyaf yn ein hoes ni. Yn y fl. 1848, sefydlwyd y gweithydd yn Llamcarw; ac oddeutu y fl. 1866, sefydlwyd rhan o'r gwaith yn y Smelting Works. Anfonir allan filoedd o dunelli o'r gwrtaith yn flynyddol i wahanol barthau o'r deyrnas gyfunol.

Y mae o 120 i 150 o bersonau mewn gwaith yn y gweithydd hyn; ac felly telir miloedd o bunau yn flynyddol yn y dref gan y perchenogion—Mri. HENRY HILLS A'I FAB, yr hyn a rydd fywiogrwydd i fasnach y lle.

MONA MINES.—Y perchenogion presenol ydynt―T. F. Evans, ysw., Mona Lodge, J. W. Paynter, ysw., Maesllwyn, a H. Roberts, ieu., ysw., Pembol. Mae y ddau flaenaf yn ystusiaid-heddwch.

PARYS MINES.—Cerir y gwaith yma yn mlaen yn bresenol gan gwmpeini o Fanchester, o dan arolygiaeth Captain Thomas Mitchell, Pen'rallt.

PANTYGASEG MINES.—Newydd gael eu hagor y mae y rhai hyn, o dan arolygiaeth James M. Williams, Ysw., a Mr. Edward Jones, Tre'rdath, ac y mae y rhagolygon yn ffafriol iawn.

GWEITHYDD TOBACCO A SNUFF.—Y mae yma ddau o'r rhai hyn-un yn cael ei gario yn mlaen gan Mri. E. Morgan & Co., a'r llall gan Mr. E. Morgan Hughes.

CHWAREL LLECHI LLANEILIAN.—Dechreuwyd y gwaith yma ychydig flynyddau yn ol, gan gwmpeini o Loegr, ac y mae golwg obeithiol iawn am lwyddiant. Mr. J. T. Jones yw yr arolygwr.

GWEITHYDD ADEILADU LLONGAU.—Un gan Mr. W. C. Paynter; a'r llall ar raddfa eang iawn gan yr anturiaethus Captain William Thomas, yr hwn sydd newydd bwrcasu building yards y Mri. Treweek, Sons & Co.





ARGRAFFWYD YN SWYDDFA D. JONES, AMLWCH.