Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Cyflwyniad

Oddi ar Wicidestun
At y Darllenwyr Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Cantref Rhosir

HANES AC YSTYR ENWAU LLEOEDD YN MON.

MON sydd ynys neu randir,yn gorwedd yn Ngogledd Gwynedd, yn cael ei chylchynu ar yr ochr orllewinol gan fôr yr Iwerddon, ac yn wahanedig oddi wrth Arfon gan gulfor Menai. Ceir amrywiol farnau gan hynafiaethwyr o berthynas i darddiad ac ystyr yr enw Menai. Tybia Mr. ROBERT EVANS, Trogwy, ei fod wedi tarddu oddiwrth fynedfa Mèn dros yr afon, ac mai yr ystyr yw- "Mèn â âi." Casgla Mr. ROWLANDS, awdwr y "Mona Antiqua," mai ystyr y gair yw Main aw" (dwfr cul), oddiwrth ansawdd y lle yn y dechreuad, oherwydd dywedir fod afon Menai wedi bod mor gul fel y gallai dyn lamu drosti. Tybir gan luaws o hynafiaethwyr eraill, fod y wlad hon wedi bod unwaith yn gysylltiedig â gwledydd eraill Gwynedd; ond ei bod, mewn amser diweddarach, wedi ei gwahanu oddiwrthynt trwy gynhyrfiad gwastadol, a graddol ymchwyddiad y môr.

Y mae hen olion Priest Holme Island, a ganfyddir ar drai isaf y môr—yn enwedig pan fydd yn alban eilir (vernal equinox)—yn cadarnhau y syniad yma. Gelwir yr ynys hon "Glanach," ac yn "Ynys Seiriol," oddi wrth Seiriol Wyn; ac hefyd yn "Pufin Island," oddi- with adar sydd yn ymddangos arni o'r enw Puffins, Dywedir fod y môr wedi gorlifo yn y seithfed ganrif dros y lle y safai Tyno Helig—iselder prydferth Helig Foel, ap Glanawg, ap Gwgan Gleddyfrydd, ap Caradog Freichfras, ap Llyr Morini, ap Einion Yrth, ap Cunedda Wledig—ac oherwydd hyny galwyd y lle hwn hyd heddyw, "Traeth y lafan" (lavan sands); ond y gwir ystyr yw "Traeth y llefain."

Adnabyddir Ynys Môn wrth wahanol enwau. Gelwir hi genym ni y Cymry, "Môn," "Ynys Fôn," a "gwlad Môn." O berthynas i wreidd-darddiad yr enw Môn, ceir amrywiol farnan: dywed yr hynafiaethydd Mr. OWEN WILLIAMS, yr addolid Hu Cadarn yn Môn fel y duw penaf, o dan rith tarw neu fuwch, neu bob un o'r ddau; a chan fod Môn yr un ystyr a buwch, felly oddi. wrtha Hu Gadarn, yr hwn oedd ar lun ych, y cafodd Môn ei henw—a geilw Taliesin Ynys Môn yn "Ynys Moliant". Barna Philotechnas fod iddo darddiad Groegaidd o'r gair "Monos," unig (Monk); yn dangos safle yr ynys wedi ei gwahanu oddiwrth Gwynedd par orlifodd y môr dros yr iseldir crybwylledig. Edrychid ar ein hynys fel mynach, yn neillduedig oddiwrth wledydd eraill Cymru. Cadarnhà Dr. WILLIAM OWEN PUGHE yr un syniad an ystyr yr enw Mon—"That is a separate body, or individual; an isolated one; or, that is separate."

Bernir gan eraill iddi gael ei galw gan y Galiaid, y rhai a boblogasant yr ynys hon gyntaf, wedi iddynt ei gweled yn barth Olaf, nea bellaf oddiwrth y fan y trigent, sef Gaul, galwasant hi yn "Fôn Ynys", nau "Fon Wlad," h.y.., y wlad olaf.—Gwel "Sylwedydd," am Ionawr, 1831, cyf. I. tudal. 1. Cynygia y Parch. HENRY ROWLANDS (Mona Antiqua) yr un ystyr, ei fod yn tarddu o'r gair " bôn," sef terfyn eithaf, neu gynffon (tail). Y mae'n ffaith fod B yn newid i M ac F, yn ol y gyfundrefn reolaidd o newid y cydseiniaid yn yr iaith Gymraeg, fel ei gosodir i lawr gan y Dr. W. O. PUGHE, awdwr y Geirlyfr Cymraeg, yn yr engreifftiau canlynol:—bara , fy mara, dy fara; ac felly yn yr un dullwedd, ac wrth yr un rheol, y dywed y Cymro—"Gwlad Fôn," ac "Ynys Fôn," ac os efe oedd yn darlunio sefyllfa neu safle y wlad yma fel ynys bellaf, yr oedd yn naturiol iddo ddyweyd, dyma'r bôn, neu'r gynffon, sef y pen eithaf, neu'r fôn wlad.

Y Rhufeiniaid yn ngoresgyniad yr ynys hon a wnaethant yr enw Môn yn fwy cydseiniol ag ieithwedd neu y priod-ddull Lladinaidd, trwy ychwanegu y llafariad A at Môn, ac a'i galwasant yn "Mona Insula." Y mae'r enw Lladinaidd yma wedi achosi dadleu mawr yn mhlith yr hynafiaethwyr penaf. Polydore a dybia mai'r un yw Mona ag "Ynys Manaw ," (Isle of Ma ,) yr hon ynys a elwir gan Pliny, yn Menabia; gan Orosious a Beda, yn Menavia–Pilchard's way. Barna Gildas ei fod yn tarddu o'r gair Eubonia', am darddell, a bonia yn tarddu o'r gair bonus, am dda neu rinwedd; ac felly tarddell rhinwedd yw'r ystyr, yn cyfeirio mae'n debygol at yr ynys hon fel ffynhonell dysgeidiaeth a chrefydd y byd.

Dywedir fod Môn yn ffynhonell gwybodaeth mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, seryddiaeth, meddyginiaeth a chelfyddydau eraill; ac fod amryw wyr ieuainc wedi eu hanfon drosodd o Ffraingc yn amser Julius Cæsar i'w haddysgu yn y celfyddydau hyny. Y mae Sylvester Giraldus yn ei draethawd ar "Itinerarium Cambrice," yn dyweyd fod Caernarvon yn cael ei galw felly, oher wydd ei bod yn sefyll gyferbyn a Môn, ar yr ochr arall i'r afon. Ac er fod sylwadau annghywir Cæsar wedi camarwain, eto cytunir yn gyffredinol mai yr un ydyw Isle of Anglesey a Mona-prif eisteddle y Derwyddon. Enw y llywydd Rhufeinaidd a orchfygodd yr ynys hon gyntaf oedd, Suetonius Paulinus, yr hyn a gymerodd le dan deyrnasiad Nero (0.C. 59.) Gelwir yr ynys hon yn Monaw (the Môn of the water); ac, weithiau gelwir hi yn "Fôn Fynydd" gan y beirdd

"Cerddorion hyd Fôn Fynydd,
Dros hwn yn pryderu sydd."

Hefyd, gelwir hi yn Ynys Gadarn," am ei bod wedi bod yn noddfa i ffoedigion o wledydd eraill, ac yn anhawdd ei goresgyn, oherwydd ei bod yn ynys y gwroniaid.

Pan oresgynwyd yr ynys hon gan y Sacsoniaid, hwy a'i galwasant hi yn Money–ey yn eu hiaith hwy, sydd yn arwyddo Ynys: ond, ar ol ei darostwng gan y Saeson, gorchymynwyd ei galw yn "Anglesey" (neu Angle sea), h.y., Ynys y Saeson (Englishman's Island.) Derbyniodd yr enw yma ar ol y frwydr waedlyd fu yn Llanfaes, rhwng Merddyn o orsedd Cyman, ag Egbert brenin y Saeson; ac wedi i Egbert enill y frwydr, cymerodd feddiant o'r ynys, a gorchymynodd iddi beidio cael ei galw mwyach yn Fôn, ond yn Anglesey. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 818. Gwel. Hanes y Cymry,' gan y Parch. O. JONES, tudal. 141. Tarddodd yr enw hwn oddiwrth blaid fawr o bobl oeddynt a'u trigle tua glenydd y Baltic, y rhai a elwid Anghels, neu Angles, felly gelwir hi yn "Ynys yr Eingyl."

Gelwid Môn hefyd yn "Ynys Dywell," mewn cyferbyniad i agwedd gwledydd diwylliedig. Fel yr oedd parthau deheuol Prydain Fawr yn cynyddu yn eu poblogoeth, yr oeddynt hefyd yn cynyddu yn naturiol yn mhob cyfeiriad. A phan luosogodd y boblogaeth yn rhandiroedd uchaf Gwynedd, symudasant yn mlaen; a phan ddaethant at ochrau sir Gaernarfon, gyferbyn a'r ynys hon, a gweled ei bod yn orchuddiedig gan goed, yn naturiol dywedasant—"Dyma Ynys Dywell." (Here is a dark Island.) Dywed eraill iddi gael ei galw felly am mai yma yr oedd prif eisteddle y Derwyddon, y rhai oeddynt yn dewis rhodfeydd tywyll dan dderw cauadfrig i aberthu i, ac i alw ar eu duwiau; yr hyn sydd yn gwirio y syniad am dani fel y "dark and shady Island." Yr oedd Môn y pryd hwn yn llawn o lwyni pendewion, a hyny yw meddwl y bardd pan y dywed:

"Nos da i'r Ynys Dywell,
Ni wna oes un Ynys well."

Drachefn, y mae yn cael ei galw yn "Fôn mam Cymru," am ei bod yn noddfa i ffoedigion, yn ffynonell dysgeidiaeth, ac yn gysegrfa crefydd—gwel 'Hanes y Cymry,' gan y Parch. O. JONES, tudal. 53.

Giraldus Cambrensis, yn y ddeuddegfed ganrif, sydd yn rhoddi y darnodiad o honi dan y term o Famaethfa Cymru " (Nursery of Wales), neu yn ol eraill, "Mamaeth Cymru" (the nursing Mother of Wales). Gelwid hi wrth yr enw hwn oherwydd ei bod yn cynorthwyo gwledydd eraill Cymru gyda grawn, &c., yn amser prinder. Dywed Mr. Rowlands, yn ei bortrëad amaethyddol o'r wlad yma, y byddai y trigolion yn cadw eu hanifeiliaid i mewn yn y nos, a chanol dydd, am yspaid penodol, er mwyn i'r bugeiliaid gael hamdden i orphwys: oblegyd y pryd hwn nid oedd clawdd i'w weled yn yr holl wlad, ac yr oedd y gofal yma yn rhwystro i'r anifeiliaid sathru a dyfetha ei chnydau; ac felly gallu ogid Môn i anfon digon i gynorthwyo gwledydd eraill o rawn, &c., fel ag i gyflawn haeddu a theilyngu yr enw "Môn mam Cymru."

Gelwir trigolion yr ynys yn "Foch Môn," i'w diystyru: dywed traddodiad iddo darddu oddiwrth eu dull yn crefydda yn y canoloesau. Ceridwen, fel duwies llawnder, a ddarlunid yn y cymeriad o hwch; ei hoff ddysgybl a elwid porchellan; ei harchoffeiriad a elwid twrch, neu gwydd -hwch—sef baedd y llwyn; ei hoffeiriaid a elwid meichiaid, neu geidwaid moch; a'i chynulleidfaoedd yn foch: ac felly cyfenwyd y Monwysion "Moch Mon." Gwel "Hanes y Cymry," gan y Parch. O. JONES, tudal. 23.

Dosranwyd Ynys Mon er yn foreu yn dair cantref; a'r rhai hyny ydynt, cantref Rhosir, cantref Aberffraw, a chantref Cemaes: pa rai drachefn a ddosranwyd yn ddau gwmwd bob un, y cyntaf yn cynwys Cymydau Menai a Tindaethwy, yr ail yn cynwys Malltraeth a Llifon, a'r trydydd yn cynwys Twrcelyn a Thalybolion. Olrheinir yr hanes rhagllaw yn y drefn uchod, trwy ddechreu yn Nghantref Rhosir, gan chwilio am dardd iad ac ystyr enwau y gwahanol leoedd.