Hanes Sir Fôn/Cantref Rhosir

Oddi ar Wicidestun
Cyflwyniad Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Cwmwd Tindaethwy

CANTREF RHOSIR

Cantref Rhosir a adnabyddir wrth luaws o wahanol enwau. Geilw rhai y lle yn Rhos -fair, oddiwrth eglwys fechan a gysegrwyd i St. Mair. Eraill a'i galwant yn Rhos-aur, neu Rhos-ffair, oddiwrth y rhos sydd yn agos yno, yn mha un y cynhelid ffair yn yr hen amser. Ond dywed y "Mona Antiqua," a'r " Topographical Dictionary of Wales," gan Mr. LEWIS, fod yn fwy tebygol mai y gwir enw yw Rhos-hir, yr hwn sydd yn fwy henafol na'r un o'r enwau a nodwyd, a hyny yn fwy cydweddol ag ansawdd y lle; oherwydd dywedir fod Morfa hir yn rhedeg oddiwrth Newborough i fynydd Llwydiarth, neu yn briodol, Mynydd-yr-arth-lwyd. Y mae y rhos hon oddeutu naw milltir o hyd, ac yn rhedeg trwy y ddau gwmwd, y rhai yn ol pob tebygolrwydd a alwyd yn Rhos-hir, ac yna rhoddwyd yr enw hwn ar y gantref oll.

Y ddau gwmmwd sydd yn sefyll yn nghantref Rhosir ydynt Tindaethwy a Menai.

Terfynau cantref Rhos-hir (Newborough):-Dywed WILLIAM JONES, Ysw., yn y Gwyneddon," fod y terfynau hyn yn afreolaidd, ac yn cynwys Rhos-colyn, Sybylldir, a Bryngwallan. Y terfyn deheuol sydd yn ymestyn oddiwrth Aber Pwll Ffanogl, yn mlaen hyd ochr y dwfr i Aber Menai; yna yn mlaen hyd ochr glan y mor i Llanddwyn Point; oddiwrth Porth Dwynwen, a'r gareg a elwir Careg Gwladus, yn mlaen hyd derfyn rhwng Menai a Malltraeth; oddi yno i Rhy-y-wraig Mill, a therfynfaes yn agos i Trefgarnedd uchaf; ac oddiyno hyd afon Gefeni i Nant Hwrfa: oddiyno heibio Rhos-tre' Hwfa i Rhyd-y-Spardyn. Ac ä drachefn hyd afon Gefeni yn agos i Afrogwy, ac oddiyno i Llangwyllog a neuadd Coedana, a thrwy Tre-ysgawen i Lidiart Twrcelyn, ac i Bont Rhyd Owen. Eto, o Rhos-y-Groes i Ros-y-Meirch a Bryn y Crogwydd, ac yn mlaen trwy Gareg Eurgan, i ddechreu cychwyn o gornant fechan sydd yn rhedeg trwy Rhyd-y-Wraig; ac oddiyno yn mlaen at derfyn Llanffinan, i Felin Geraint-yr hon a elwir yn gyffredin Melin Pentraeth, yna ä yn mlaen i afon Ceint, ac i gornant Rhyd-Ceint; ac oddiyno dra chefn i bwll a elwir Gorslwyd. Wedyn ä yn mlaen i Ceryg Brudyn, ac oddiyno trwy Geryg (terfyn yn agos i Nant y Crwth) i afon Braint; ac oddiyno yn mlaen at ffrwd sydd yn llifo o amgylch Llwyn Ogen i Aber. Pwll Ffanogl-o'r fan y cychwynasom dynu llinell derfyn y Cantref.