Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Caergybi

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llanbabo Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyfi Landdeusant i Llanfwrog

PLWYF CAERGYBI.

Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir-ar-ugain o Beaumaris. Nid yw Ynys Cybi (Holy Island) ond bechan o ran maintioli: tua chwe' milldir o hyd o'r dwyrain i'r gorllewin, a phum' milldir o led o'r gog ledd i'r deau.

Yn Methodistiaeth Cymru' cyf. i. t.d. 7., dywedir:"Tua chanol y bedwaredd ganrif, ceir hanes am un o'r enw Cybi, mab i frenin Cornwall. Dywedir i hwn, wedi iddo fyw yn grefyddol iawn am ugain mlynedd gartref, fyned i Ffrainc, at Hilary, esgob Poictiers; ei fod trwy enill gwyneb yr esgob wedi cael ei ordeinio ganddo, ac iddo wasanaethu fel cynorthwywr iddo, hyd farwolaeth yr esgob, ac yna iddo ddychwelyd i'w wlad; ei fod oherwydd trallodion ei wlad, ac amgylchiadau gofidus yn ei deulu, wedi gadael ei gartref drachefn, a dyfod yn gyntaf i Dy Ddewi; a thrachefn iddo fyned i'r Iwerddon; ac yn mhen pedair blynedd ddyfod trosodd eilwaith ac ymsefydlu yn Nghaergybi. Dywedir hefyd fod Tywysog Môn, o dosturi at ei dlodi, wedi ei anrhegu a chastell ag oedd yn y gymydogaeth; a darfod sefydlu mynachlog fechan o fewn y castell, a galw y lle oddiar hyny yn Côr Cybi, gan olygu y castell." Yn ol "Teithau Pennant yn Nghymru" Cyf. ii., t.d. 276, bernir mai oddiwrth y gair Castell y daeth yr enw Caer Gybi, neu Caerau Gybi, gweddillion pa rai sydd i'w gweled hyd heddyw. Yn ol Tanner llewyrchodd St. Kebius tua'r flwyddyn 380 O.C. Ar y tu gogleddol i'r eglwys blwyfol, sef y fynachlog a nodwyd, mae y llythyrenau canlynol, yn y dull Gothaidd:—"Sancte Kybi ora pro nobis" ("O sant Cybi, gweddia droswyf") i'w gweled yn awr.

Yr enw nesaf Cae'r Ddwy, fel yr ysgrifenir ef mewn hen gof-lyfrau. Tardda y gair dwy, o Dduw; a'r ystyr yw" Amddiffynfa y Duw."

Holyhead.—Tybia rhai fod yr enw hwn yn tarddu oddiwrth fod yma amryw gapelau, neu leoedd i addoli. Ond tybia eraill yn wahanol ei fod wedi tarddu oddiwrth le yn agos iddo o'r enw Pencelyn (Pen Cyhelyn) oddiwrth Cyhelyn mab Caw, fel y crybwyllwyd.

Cyfieithir ef weithiau yn Holyhead, ond y gwir ystyr yw "Cyhelyn's Head." Yr hen enw oedd "Llan y Gwyddel," yr hwn a darddodd oddiwrth fod Caswallon wedi adeiladu eglwys ar fedd ei elyn Serigi Wyddel, ac iddo ei galw "Llan y Gwyddel."

Gelwir yr ynys fechan hon Caergybi, yn "Ynys Halen," am mai yno y byddis yn derbyn y doll ar yr halen a ddygid i'r rhan yma o'r wlad. Dywedir mai Wm. Morris, brawd yr hen fardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn) oedd y prif swyddog yn y tolldŷ hwn. Bu ef farw yn y fl. 1764.

Yr oedd Caergybi yn fan adnabyddus i'r Rhufeiniaidd, canys dywed Tacitus fod trafnidiaeth helaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen rhwng y lle yma a'r Iwerddon, yn amser Julius Agricola. Y mae hyn yn cyd-daro, âg amryw enwau sydd ar leoedd yn y gymydogaeth hyd y dydd hwn; megis y Valley, neu yn hytrach y Fael-lif; a Phenrhos Faelwy sydd yn arwyddo agos yr un peth. Y mae amryw olion o adeiladau Rhufeinig yn aros yma hyd yn awr.

Y mae helbylon milwrol a rhyfelgar y gymydogaeth hon wedi bod yn lluosog a phwysig, ac yn cael lle cyhoeddus yn hanesion boreuol y wlad. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, ac yn amser teyrnasiad Einion Urdd, mab Cunedda, yr hwn a unodd dan ei lywodraeth Frytaniaid, Ystrad Clwyd, a thalaeth Gogledd Cymru, ac a breswyliai yn ei diriogaethau gogleddol,— daeth yr Albanwyr Gwyddelig dan arweiniad Serigi, ac a diriasant yn Môn, ac wedi gorchfygu y brodorion, cymerasant feddiant o'r ynys. Wedi clywed y newydd. hwn, anfonodd Einion Urdd ei fab hynaf, Caswallon Llaw Hir, yn ddioed i waredu Môn o ddwylaw yr estroniaid, yr hwn a gynhullodd ei holl alluoedd, ac a ymosododd ar y dyeithriaid, gan eu llwyr orchfygu, ac a laddodd Serigi mewn ymdrech bersonol gerllaw Caergybi, a ffodd y gweddill yn eu llynges oedd yn y porthladd, gyda cholled fawr. Yn y fl. 443, wedi i Caswallon, mewn canlyniad i farwolaeth ei dad, ddyfod i'r orsedd, dewisodd Fôn fel ei breswylfod; ac fel mai efe oedd y gangen hynaf o deulu Cunedda, yr oedd yn mwynhau urddasolrwydd uwchlaw y tywysogion eraill, y rhai a dalent warogaeth iddo oll fel eu harglwydd a phen phrif benadur y wlad. Y mae olion nifer o aneddau y dyeithriaid a elwir "Cytiau y Gwyddelod," yn aros yn yr ardel hon hyd yn awr, fel y gellir gweled yn y Tŷ mawr, Porth Naumarch, Ynys Llyrad, &c., a chafwyd rhai arfau o wneuthuriad Gwyddelig gerllaw y Tŷ mawr, yr hyn a gadarnha y dystiolaeth. Ymddengys i'r wlad gael seibiant wedi hyn hyd y fl. 900, pan y daeth Igmwnd a'i baganiaid duon Fôn, ac yna y bu gwaith i Rhos Meilion, neu Meloreu. Mae yn debygol mai yn Ynys Cybi y bu y frwydr hon, sef y lle a elwir yn awr Penrhos-feilw. Mae tŷ a elwir "Tŷ Milo," neu yn hytrach "Tŷ Maelu," yma yr awr. Drachefn, anrheithiwyd Môn gan ŵyr Dulyn yn y fl. 915. Drachefn, yn 958 tiriodd Abloie brenin Dulyn yn y wlad, ac a losgodd Caergybi, ac a wnaeth ddinystr mawr drwy yr ynys. Bu ymosodiadau mynych ar y lle hwn, ac ar Aberffraw yn neillduol, y naill bryd a'r llall.

Y mae yma Forglawdd yr hwn sydd yn un o'r gweithredoedd penaf a gyflawnwyd er ei hynodi, ac yn dwyn cysylltiad pwysig rhwng y wlad hon a'r Iwerddon, er hyrwyddo mordwyaeth rhyngddynt i raddau mawr. Yr oedd sylw y wladwriaeth ar yr angenrheidrwydd am a gwelliant hwn wedi ei dynu at y lle er amser dryll iad y Chalremont Packet, o Parkgate, ar yr Ynys Halen, yn ngenau y Bay, Rhagfyr 18fed, 1790, pan y boddwyd cant a deg o deithwyr. Y mae y dref wedi ei chodi ar derfynau yr Ynys. Y mae y tir sydd yn ymwahanu fel ynys oddiwrth y sir gan y fael-lif, yn cynwys plwyfi Caergybi ar y gogledd, a Rhosgolyn ar y ddê. Y mae y sefyllfa yn fanteisiol i'r Mail rhwng Caergybi a Dublin. Dywedir nad yw yn hyspys pryd y dechreuodd y lle hwn fod yn borthladd y Mail; ond y mae yn wybyddus ei fod yn amser William III. Y mae y Goleudy ar y morglawdd hwn yn amddiffynol iawn i'r morwyr rhag peryglon yr Ynys Halen yn awr. Dywedir fod oddeutu 600 o fordeithwyr yn myned a dyfod drosodd bob dydd o'r Iwerddon. Felly y mae yn lle pwysig iawn.

Y mae yma Fôr-fur (Breakwater) arall. Y gloddfa anferth o'r lle y codwyd y defnyddiau ydyw "Mynydd y Twr." Gwelwyd oddeutu pymtheg cant o weithwyr yn cloddio meini i lenwi cylla gwangcus y môr. Difawyd swm anferth o bylor yma. Ar ddydd Gwener, Ionawr 16eg, 1857, taniwyd un-mil-ar-bymtheg o bwysau o bylor, a chwythwyd yn ysgyrion tua chan mil o dunelli o'r mynydd. Cyn tanio yr egyd mawr hwn, gwelwyd gafr yn pori yn ddiofal ar y mynydd, ac mewn eiliad daeth i lawr ar frig y groglwyth gwympiedig yn groen gyfan ddigon, ond yn bur ddychrynedig o bosibl. Dydd Mercher, Medi 9fed, 1844, gyda chwe' tunell o bylor, rhyddhawyd 10,000 o dunelli o'r graig, &c.

Dywedir fod oddeutu 900 o longau yn achlesu yn nghysgod y breakwater yma bob blwyddyn; a diau yr arbedir llawer o fywydau yn flynyddol trwy y fath gyfleusdra rhagorol.

Y mae yr Ynys Lawd (Ynys yn lledu) gyda'i goleudy, ei chloch, a'i phont gadwynol, yn wrthddrych sylw mawr. Dywedir fod yno risiau, sef gris am bob diwrnod yn y flwyddyn. Pob un a aeth i lawr ac i fynu, bu yn dda ganddo gael gorphwys am amser hir; ac fe deimlai ar ol hyny am ddiwrnodiau.

Y mae y fywiolaeth yn guradaeth barhaol yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor, wedi ei gwaddoli a 400p. o roddion seneddol, ac yn nawddogaeth llywydd ac ysgolorion Coleg yr Iesu yn Rhydychain, y rhai yn 1820, a ychwanegasant 20p. yn flynyddol at gyflog y curad. Dywedir yn yr hen-gofnodau mai Cybi a a sylfaenodd yr eglwys yn y bedwaredd ganrif. Rhydd un hen ganiad boreuol iawn i ni grynodeb o hanes ei dylwyth. Gwel" Hanes y Cymru," gan y Parch. Owen Jones.