Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llan Edwen

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llan Idan Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llan Ddaniel Fab

PLWYF LLAN EDWEN.

Saif y plwyf hwn oddeutu pum' milldir i'r gogleddddwyrain o Gaernarfon. Cafodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Edwen, nith neu ferch i'r brenin Edwin; adeiladwyd yr eglwys oddeutu y chweched ganrif. Ystyr yr enw yw, "Llan y ddedwydd orchfyges."

Porth Amel.—Y mae Mr. Rowlands yn cynyg tair o wahanol amcan-dybiau gyda golwg ar darddiad yr enw hwn—1. "Porth Aemelicus," (Rhufeiniwr); 2. "Porth Aml," oddiwrth rifedi y personau oedd yn myned drosodd, ac yn dychwelyd dros Moel-y-dòn gyda bad; 3, "Porth ym Mwlch." Y mae yn ymddangos ei fod ef yn rhoddi y flaenoriaeth i'r olaf. Porth Amel, yn yr hen amser, oedd yn faenor, ac yn eiddo Llywarch ap Bran, yn nghwmwd Menai.

Plas Newydd.—Trigfa newydd (the new mansion); yr hen enw oedd Llwyn Moel. Yr ystyr yw "Llwyn ar fryn," (the grove on the hill). Yma ceir un o'r coedwigoedd penaf yn Môn, yr hwn le a gysegrwyd gan y Derwyddon fel lle addoliad. Tu cefn i Plas Newydd y mae cromlech aruthrol, neu allor y Derwyddon—un o'r rhai mwyaf yn yr ynys. Coed y Plas Newydd ydynt eang; gellir eu hystyried fel yn goffadwriaeth, os nad yn weddillion, o'r hen goedwigoedd derwyddol. Yma yr oedd trigle yr Ardalydd Môn cyntaf—hen arwr Waterloo.

Bryncelli, Plascoch a Llanedwen, ydynt dri o hen breswylfeydd yn y plwyf hwn. Y cyntaf a brynwyd gan Magdalene Bagnel, o'r Plas Newydd—Plas Coch yn bresenol, trigle W. B. HUGHES, Ysw., A.S., yr oedd yn cael ei alw ar y cyntaf y Porth Amel Isaf: adeiladwyd ef yn amser y frenhines Elizabeth, gan Hugh Hughes, Ysw, cyfeithiwr cyffredinol; a'i wyr Roger Hughes, a briododd Margaret merch ac etifeddes H. Jones, Ysw., o Langoed.

Y ty Llanedwen fu yn cael ei alw wrth amrywiol enwau, ar wahanol amserau, megys Sychdir, Ty'n-y-llwyn, Sychnant Uchaf, ac yn olaf, Llan Edwen.