Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llan Idan

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llangaffo Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llan Edwen

PLWYF LLAN IDAN.

Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r de-orllewin o Fangor. Cafwyd yr enw hwn oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i un o'r enw Aidan. Tybir gan rai mai mab i Gabranus, neu Gwrnyw, yr hwn oedd wŷr i Urien Rheged, tywysog Regedia, yn y gogledd, ydoedd; ond tybia eraill mai Aidan yr esgob-yr hwn oedd yn cael ei alw Aidan Foeddog of Columcil—ac esgob Llandisfern. Y dybiaeth olaf yw'r gywiraf, oblegyd fod Ffinan, i'r hwn yr oedd eglwys wedi ei chysegru mewn lle arall, yn ddysgybl diweddaf i Aidan, yn ei ganlyn ef yn ei esgobaeth, ac yn cymeradwyo gwaith da ei feistr Aidan. Tybir i'r eglwys hon gael ei chysegru yn y bumed ganrif. Yr oedd perigloriaeth a'r holl blwyf hwn wedi eu cysylltu â chrefydd-dy Bethgelert, gyda rhôdd gan un o dywysogion Gogledd Cymru; ac arhosodd felly hyd nes y dadgorfforwyd y mynachdai yn amser Harri VIII., pan roddwyd y berigoriaeth ganddo i Birham, yn Surrey. Ar ol hyny, gwerthwyd hi gan Elizabeth i Edmond Downam a Peter Ashton, &c. Dosranwyd y plwyf hwn i'r maesdrefi canlynol:-Tre'r Driw, Tre'r Beirdd, Bodowyr, Myfyrion Gwydryn, a rhan o Bentref Berw.

Bodowyr.—Ceir lluaws o enwau ar leoedd yn yr ynys hon yn dechreu gyda Bod, Caer, a Tref. Goddefer ychydig o sylwadau ar hyn.

Y mae yn naturiol tybied ddarfod i'r preswylwyr ffurfio eu hunain yn llwythau a theuluoedd gwahanol, (wedi iddynt arloesi y lleoedd cymydogaethol, a lladd rhai o'r creaduriaid gwylltion, a dofi y lleill), a rhanu yr ynys a chodi terfynau rhyngddynt a'u gilydd. Gwelir rhai o'r terfynau hyny hyd heddyw yn rhedeg yn hir a chwmpasog; a gelwir hwy yn awr wrth yr enwau—Rhos dre' hwfa, Rhos Neigr, Rhos Lligwy, Rhosfawr, &c.

Yn y lleoedd hyn adeiladasant eu pebyll a'u cabanod, gan godi bryniau hirgrynion o ddaear yma a thraw, a'u coedio a'r canghenau a dorant mae yn debygol, a'u toi a'r tywyrch gwydn a godant, neu'r cyrs, neu rhywbeth tebyg, fel y caent leoedd i orphwys y nos, ac i gadw eu hangenrheidiau nes y gwnaent drigleoedd mwy rheolaidd. Gelwir y rhai'n, "Cytiau Gwyddelod." Tybia rhai i'r Gwyddelod gynt fod yn trigo ynddynt: ond cyfeiliornad yw hyn, os wrth y Gwyddelod y meddylir trigolion yr Iwerddon; ni fu y rhai'n yn preswylio erioed yma mor hir fel ag i adael nodau fel hyn ar eu hol—oblegyd y Gwyddelod a gyhuddir o ysbeilio yr ynys hon, ac nid arosant yn hir ynddi un amser.

Ond os wrth y Gwyddelod y meddylir y preswylwyr a ddaethant gyntaf iddi, fel y mae yn debygol, cyll y ddadl gyntaf ei grym; oblegyd cyfansoddir y gair hwn o ddau air Cymraeg, sef gwydd a hela, y rhai efallai a ysgrifenid "Gwyddelod," i arwyddo dynion, ac yn enw cyffredin ar y preswylwyr cyntaf. Dywed Dr. W. O. Pughe There is a tradition of Wales being once inhabited by the Gwyddelians, or more properly, its first inhabitans were so called: and the common people in speaking of it, ascribe some ruins about the country under the names of "Cytiau y Gwyddelod," to them: and the foxes are said to have been their dogs, and the polecats their domestic cats, and the like.

Wedi i'r preswylwyr yma ymadael o'u preswylfeydd cyntaf, ac ymdaenu dros y wlad yn wahanol dylwythau, dechreuasant sefydlu eu hunain mewn adeiladau mwy a rhagoarch, y rhai cyn hir a elwid yn "Bod," neu Bodau," h.y, trigle neu le i fod; ac, i wahanaethu y naill oddiwrth y llall, cysylltwyd enwau y sylfaenwyr neu'r adeiladwyr a'r gair Bod, megys, Bod-Eon, Bod-Ewryd, Bod-Edeyrn, Bod-Ychain, Bod-Filog, Fod-Owyr, &c.

Y bodau hyn, efallai, oedd y prif leoedd perthynol i bob ardal: a thebygol yw mai rhai yn meddu cryn ddylanwad yn y wlad oedd preswylwyr y rhan fwyaf o honynt.

Mae y gair Bodowyr yn tarddu o'r geiriau bod am drigle; ac ofydd am un yn mhlith y Derwyddon yn astudio phisygwriaeth—ond yn awr defnyddir y gair am un yn dysgu elfenau cyntaf barddoniaeth. Yr ystyr yw, "Trigfa ofwyr (habitation of the Eubates) neu, trigfa Offeiriadau Derwyddol,

Bu y lle hwn unwaith yn eiddo un o'r enw Evan Wyddel, yr hwn oedd yn preswylio yma. Ymddengys i'r dref hon, gyda Myfyrian, gael eu cysylltu â Phorthamel. Gwerthwyd y lle gan Hwlkin ap Dafydd ap Evan Wyddel, i William ap Griffith, mab Gwilym o'r Penrhyr, yn agos i Fangor.

Tre'r Driw.—Y mae'r enw yma yn cael ei wneyd i fyny o'r ddau air,—Tref, am drigfa, a Driw, am benaeth y Derwyddon-yr Arch-dderwydd. Yr ystyr yw, trigfa yr Arch-dderwydd, neu Tre'r Driw (the Druids Town.)

Rhoddwyd y dref hon, gan un o dywysogion Cymru, i St. Beuno, o Clynog Fawr, yn Arfon, fel yr ymddengys oddiwrth hen fraint-ysgrif a grybwyllir gan Mr. Rowlands; ac ymddengys oddiwrth yr un ysgrif, fod deiliad tir yn y lle hwn yn mwynhau amryw ragorfaeintau, a gwnaethpwyd hyn y fwy eglur gan orchymyn Gibbert de Talbot, Llys-Ynad Gogledd Cymru, yn amser Harri VI., yr hwn a ddyddiwyd yn Beaumaris, yn y 12fed flwyddyn o deyrnasiad Harri, O.C. 8412.[1]

Yr oedd adfeilion hen gapel yn weledig yn agos i Tre'r Driw, yr hwn a elwid "Capel Beuno": ac yr oedd hen gloch yn y ty hwn yn cael eu galw "Cloch fechan Beuno." Y mae yma ddau dŷ yn cael eu gadw Tre'r Driw isaf a Tre'r Vwri uchaf; a dau arall yn cael eu galw Tre'r Ivan a Thre' Vwri, a rhai a roddwyd yn gymunrodd gan y Parch. Robert White, o Friars.

Yn 1762, cafodd y Parch. H. Rowlands, pan yn arolygu symudiad rhai o'r ceryg yn y lle hwn (mewn trefn i wneud ymchwyliad i hynafiaethau y lle,) hyd i fathodyn (medal) arddechog o bres, a llun y Gwaredwr arno, mewn cadwriaeth dda, yr hwn a ddanfonwyd ganddo i'w gyfaill a'i gydwladwr, y Parch. E. Llwyd, awdwr yr "Archæological Britannica," ar y pryd hwnw, yn arolygu llyfrgell Ashmoleum, yn Rhydychain.

Y Bathodyn Pres.—Fel hyn y darlunir ef gan un—"Y mae ar un ochr i'r bathodyn hwn lun pen, yr hwn sydd yn cyfateb yn gywir i'r darluniad a roddir gan Piblius Lentitius o'n Gwaredwr, mewn llythyr a ddanfonwyd at yr Ymerawdwr Tiberius, a chynghorwr Rhufain." Ar yr ochr arall i'r bathodyn y mae yn ysgrifenedig mewn llythyrenau Hebraeg:—"Dyma Iesu Grist y Gyfryngwr-ddyn."

Yn gymaint a bod y bathodyn yma wedi ei gael yn mysg gweddillion trigfanau y prif Dderwyddon, nid yw yn annhebygol ei fod yn perthyn i ryw Gristion oedd gyda Bran Fendigaid, yr hwn oedd yn perthyn i fyddin Caractous yn Rhufain, oddeutu 52 O.C., ar yr amser yr oedd yr Apostol Paul yn pregethu efengyl Crist yn Rhufain. Yn mhen ychydig wedi hyn, dinystriodd y pen-cadben Rhufeinig Suctonius yr holl Dderwyddon oedd yn Ynys Môn. Gwelir copi o'r llythyr henafol y cyfeiriwyd ato yn "Golud yr Oes," tudal. 418.

Tre'r Beirdd, ac, mewn rhai hen ysgrifau, Trefynerd a ;Trefeyrd: y mae'r enw Tre'r Beirdd wedi tarddu oddiwrth fod y lle wedi bod yn drigfa prydyddion; oddiwrth beth y tarddodd yr enw Trefynerd, y mae yn anhysbys.

Rhoddwyd y dref hon gan y tywysog Owen Gwynedd, a chadarnhawyd y peth gan y tywysog Llewelyn, i Cynric ap Meredydd Ddu, fel y dengys yr hen weithred a ad-ysgrifenwyd ac a ddygwyd allan gan Mr. Rowlands. Bu ef yn pertruso am hir amser yn nghylch pa le a feddylid wrth Trefynerd, gan nad oedd unrhyw le o'r enw. yn nghwmwd Menai, ond rhoddodd yr hen weithred a ganlyn eglurhad ar y dyryswch:—"Bydded hysbys i bawb, trwy y tystiolaethau hyn fy mod i Iorwerth ab Dafydd ab Carw, rhydd-ddeiliad i Briordy Bethgelert, yn nhrefred Tref-beirdd, yng nghwmwd Menai, swydd Môn, wedi rhoddi caniatad i werthu, a gollwng yn heddychol, ac am byth, i Cynric ab Meredydd Ddu, a'i fab Ithel, rhydd-ddeiliaid, neu eu dirprwywyr yr holl diroedd yn nhrefred Berw, ac yn nhreflan Tref-beirdd, ynghyd a'u holl berthynasau, trwy ganiatad Mr. Cynhalin, Prior Bethgelert; ac yr ydwyf wedi rhoddi a chaniatau, a gollwng yn heddychol, ac am byth, i'r rhagddywededig Cynric ab Meredydd Ddu, a'i fab Ithel, a'u hetifeddion neu eu dirprwywyr, fy holl diroedd yn Glasynys, yn y drefred rag—ddywededig Tref-beirdd; ynghyd a'u perthynasau a'u rhyddid, y rhai a derfynir o un tu gan ynys y meirch, gyferbyn a Threfarthen; ac o'r tu arall gan Gwawr Walchmai, cyfwyneb a Thref y Beirdd.—I feddianu ac i ddal y tiroedd enwedig genyf fi a'm hetifeddion rhag-ddywededig; ac fod i Cynric ac Ithel a'u hetifeddion, neu ddirprwywyr, feddiant rhydd a heddychol, trwy hawl tref-tadol yn dragwyddol; yn nghyd a gallu i roddi, neu werthu, neu eu trosglwyddo, y pryd y mynont, ac i'r neb y mynont. A myfi y rhag-ddywededig Iorwerth, neu'm hetifeddion, a gadarnhawn y cyfryw drosglwyddiad-rhôdd, a hawl heddychol yn erbyn pob rhyw bobl, ac a amddiffynwn yr unrhyw ar ein traul ein hunain. Er tystiolaeth o hyn, rhoddais fy sêl ar y weithred bresenol, a'r personau canlynol ydynt dystion ac ymddiriedolwyr:—Evan ap Gwilym, ap Rathro, Einion ap Cynwrig ap Madyn, Madog ap Iorwerth ap Bleddyn, Iorwerth ap Howel ap Tegeryn Ddu, ynghyd a llawer eraill. Rhoddwyd ym monachlog Llanidan, ar ddydd Gwener, trwy awdurdod sedd y Tad Sanctaidd, yn y 34ain flwyddyn o deyrnasiad Edward III, Braint Lloegr, ym mlwyddyn ein Harglwydd 1360."

Gwelir oddiwrth yr ysgrif hon mai trefred Tre'r Beirdd sydd i'w ddeall wrth y Trefynerd dan sylw.

'Tref Arthen.—Yr Arthen y cymerwyd yr enw oddiwrtho ar y dref hon oedd mab Cadrod Hardd; ystyr yr enw yw—' Trigfa arthes ieuanc,' (A bear's cub, or young one.)

Yr oedd gan Cadrod etifeddiaethau eang yn yr ynys hon: rhoddodd i Gwerid, ei cyntaf anedig, Trefadog, yn Tal-y-Bolion; i Ednyfed, Tref Ednyfed, yn nghwmwd Llifon i Owen, Isefowen; ac i Sandde ac Ithon, ei feibion o'r ail wraig, Dref Fodafon; a rhoddodd y dref hon i Arthen, ei fab ieuangaf.

Myfyrian.—Yr enw, mae yn bur debyg, a dardd o'r gair myfyr (meditation) a cheir lle arall o gyffelyb ystyr yn agos i Geryg y Druidon, yn sir Ddinbych, sef Dyffryn Myfyr, h.y., dyffryn myfyrdod. Yr oedd y lle hwn ar y dechreu yn gysylltiedig â bwrdeisdref Porthamel; y mae dau Myfyrian-uchaf ac isef. Rhai o'r enw Prytherch oedd yn y lle hwn gyntaf, cyn myn'd i Llanidan. (Myfyrian uchaf.)

Tref Wydrin.—Y mae yn dybygol i'r enw yma darddu oddiwrth Gwydd-fryn; yr ystyr yw, "Trigfa uchel eglur" (a conspicious eminence.)

Berw, Biriw, neu Meriw.—Tarddai oddiwrth fod coed meryw yn tyfu yma—fel yr oedd Ysgeifog yn tarddu oddiwrth ysgaw; Eithinog, oddiwrth eithin, Rhedynog oddiwrth rhedyn, &c. Dosbarthwyd y faerdref hon yn yn ddwy—Berw Uchaf a Berw Isaf. Berw Uchaf sydd yn mhlwf Llanfihangel Ysgeifiog, a Berw Isaf yn Llanidan. Cysylltwyd y ddiweddaf ar y cyntaf â bwrdeisdref Tre'r Beirdd ; ac yr oedd yn rhan o'r tiroedd a pha rai yr anrhegwyd Cynric ap Meredydd Ddu a hwy.

  1. Diawl y wasg? Roedd Harri VI yn frenin Lloegr am y tro cyntaf o 1422 tan 1461, felly 1444 O.C. byddai'r 12fed flwyddyn o'i deyrnasiad