Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanddona

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llanfihangel-Din-Sylwy Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Pentraeth

PLWYF LLANDDONA

Saif y plwyf hwn rhwng Llan Iestyn a Llanfihangel-Din-Sylwy, ac yn agos i'r ffordd sydd yn arwain o Beaumaris i Bentraeth. Cysegrwyd yr eglwys i St. Dona, ap Selyf, ap Cynan, Carwyn ap Brochwe! Togythrog, yn y seithfed ganrif. Derbyniodd y plwyf yr enw uchod oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegrui St. Dona. Tybir gan rai ei fod o'r un ystyr a'r gair Donum, am rodd, ac mai ei ystyr yw Rhodd-Lan.

Cremlyn.—Enw ar ffermdy yn mhlwyf Llanddona; tybir fod yr enw yma yn tarddu o'r gair Cremium, "flesh fried in a pan". Seilir y dybiaeth ar ansawdd y lle sydd ar gyffiniau Din-Sylwy a Llanddona. Dywedir fod yno greigiau noeth a serth ar lan y môr, (gelwir y lle "Nant Dienydd," a'r traddodiad yw, y rhoddid y Cristionogion i farwolaeth yma, yn y cyn-oesau, trwy eu rhoddi mewn barilau, trwy y rhai y byddai picellau hirion wedi eu gyru—blaenau llymion pa rai a rwygent gnawd y trueiniaid mewn modd dychrynllyd—ac wedi hyny treiglid hwy dros y dibyn i'r môr! Felly gellir casglu fod Cremlyn yn enw ar le oedd gan Eglwys Rhufain i ferthyru y Cristionogion trwy beirianau berwedig.

Tybia ROWLANDS (Mona Antiqua) fod y gair yn dynodi rhai pethau oedd yn perthyn i'r aberthau, heblaw yr allorau ceryg. Dywed fod y cyfryw enwau yn awr wedi myned yn hollol anarferedig, ac wedi colli a myned i dir anghof; oddieithr mewn un neu ddau o leoedd, y rhai a elwir Cremlwyn neu Cremlyn, fel y mae yn cael ei seinio yn y cyffredin. Mewn un o'r lleoedd hyn y mae ceryg cofadail a chromlech yn sefyll, y rhai a ddengys y bu yma wasanaeth hynod rywbryd.

Pugan (neu Pugna).—Yn y plwyf yma y mae olion hen gapel i'w gweled, y rhai a elwid oddiwrth y lle yn "Gapel Pugna"; ystyr y gair yw brwydr, neu ymdrech.