Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Pentraeth

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llanddona Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llan-Ddyfnan

PLWYF PENTRAETH

Gelwid Pentraeth hefyd wrth yr enw Llanfair-Bettws-Geraint. Y mae enw Pentraeth yn arwyddo—The head, or upper end of the sandy beach, or bay; "Traeth Coch", neu the red sands; ac weithiau Red Wharf Bay: tardda yr enw Bettws Geraint oddiwrth Ceraint (neu Gerimius), wŷr Constantine, Duc Cornwall, a dilynydd y brenin Arthur. Bu Geraint yn llyngesydd yn y llynges Brydeinig, a thrwy hyny, ar rai achosion, yn achlesu yn yr ynys hon; a bu hyn yn foddion i'w dueddu i adeiladu eglwys Pentraeth, yr hon a elwid Llanfair-Bettws Geraint ar ei enw. Cysegrwyd hi i St. Mair, oddeutu y chweched ganrif.

Mewn llythyr a ysgrifenwyd gan Dafydd Ddu i'r "Cylchgrawn," yn y fl. 1793, geilw yntau y lle wrth yr un enw; dichon fod gan y bardd reswm digonol dros ddefnyddio yr enw hwn, gan fod llyfrgell y boneddwr Paul Panton, Plasgwyn, yr hon a gynwysai holl lyfrau a llawysgrifau Ieuan Brydydd Hir, at ei wasanaeth ar y pryd.

Mae hen farwnad hefyd ar gael, yr hon sydd o amseriad tra boreuol, yn crybwyll am frwydr a ymladdwyd yn "uch Pentraeth," h.y., uwch Pentraeth.

Fod yma gyfeiriad at y lle hwn sydd yn bur debygol, a dyweyd y lleiaf, oddiwrth y ffaith fod y frwydr grybwylledig wedi ei hymladd yn agos i Cadnant; ac nid oedd dim yn fwy naturiol nag i brif faes yr ymdrechfa gael ei symud dair neu bedair milldir yn ystod y frwydr hon.

Bryn Herddin, neu "Bryn-hir-ddyn" fel yr ysgrifenid ef gan y Commissioners a anfonwyd i wneud ymchwyliad i'r hen waddoliadau. Mae yn anhawdd penderfynu beth achlysurodd i'r enw hwn gael ei roddi ar y lle. Tybia rhai iddo dderbyn yr enw oddiwrth Caswallon-llaw-hir. Dywedid y byddai ef yn ymweled â lle o'r enw Gadlys, rhwng Beaumaris a Phentraeth, ac iddo fod hefyd yn y lle hwn; felly galwyd y lle ar ei enw yn "Bryn-hir-ddyn." Mae lleoedd yn Mynydd Eilian, yn agos i Lys Caswallon, yn cael eu henwi "Caman hir," ac "Efra hir," oddiwrth yr un person. Ond y dybiaeth gryfaf yw i Bryn-hir-ddyn dderbyn yr enw oddiwrth Ieuan Brydydd Hir, yr hwn oedd yn dra hoff dalu ymweliad a Plasgwyn, Pentraeth, yn agos i'r lle hwn.

Rhyd-y-delyn, neu Rhyd-elyn, ond yn fwy cywir Rhyd Elen: rhyd ydyw afon, ac elen yw amaethdy. Y mae hwn yn lle tra hynafol.

Mynydd Llwydiarth.—Tardda yr enw hwn o'r geiriau llwyd ac arth, a'r ystyr yw, "Mynydd yr arth lwyd."

Y mae llyn ar yr ochr ddwyreiniol i'r mynydd, yn nglyn a'r hwn yr oedd traddodiad cyffredinol yn Nghymru, yn nghylch yr " Ychain Banog." Dywedid iddo gael ei gysegru i goffadwriaeth y dylif, ar lan yr hwn y cyflawnent eu defodau, trwy gyfleu ar wyneb y dwfr fath o ynys nofiadwy, goediog, yn yr hon byddai y coffr cysegredig a gynrychiolai yr arch, yn guddiedig. Yr ynys hon a dynid i dir gan ddau o'r ychain mwyaf allent gael yn yr holl fro, y rhai, o'r herwydd, a elwid "ychain banog"; a'r ddefod hon, debygir, yw yr hyn a elwid yn "tynu yr afanc o'r llyn." Y mae man ar y ffordd fawr o Bentraeth i Borthaethwy, a elwid "gallt y Plasgwyn," o'r lle y gwelir tair o lanau ar unwaith, sef Llanddyfnan, Llanbedrgoch, a Llanfair-Bettws-Geraint; y traddodiadau yw, i'r afanc a dynid gan yr "ychain banog," pan gyrhaeddoedd i'r llanerch dan sylw, a gweled tair eglwys ar unwaith, dori ei galon a threngu.

Tair Naid, ac Abernodrwydd.—Y mae y cyntaf yn enw ar faes bychan yn agos i Plasgwyn, a'r llall yn enw ar afonig fechan heb fod yn mhell o'r lle; ond nid adnabyddir hi wrth yr enw hwn yn awr. Yn y lle a elwir "Cae tair naid," codwyd tair o geryg ar eu penau er dynodi neidiadau Gwalchmai ap Meilir. Mae y traddodiad am y lle hwn rywbeth yn debyg i hyn:—Prïododd Gwalchmai ap Meilir aeres Plasgwyn; yn fuan ar ol y briodas, aeth y priodfab i ffordd, a bu am lawer o flynyddau heb ddychwelyd. Ni chlywodd neb o'r teulu yn y cyfamser ddim yn ei gylch, a chymerodd ei wraig yn ganiataol ei fod wedi marw, a chytunodd i brïodi drachefn; ond ar ddiwrnod y brïodas dychwelodd Gwalchmai yn ol. Cyn myned at y tŷ, canfyddodd rïan yn golchi rhyw ddilledyn yn Abernodrwydd, ac yn ystod yr ymddiddan fu rhyngddynt, dywedodd y rhïan mai golchi crys ei thad yr ydoedd, a hyny er coffadwriaeth am dano. Adroddodd yr holl hanes wrtho, a chanfyddai Gwalchmai mai ei ferch ef ydoedd hi; yna aeth i'r tŷ, a hawliodd y cyfan fel ei eiddo. Y diwedd fu i Gwalchmai a'r ail ŵr gytuno i derfynu y cweryl trwy un o fabolgampau yr hen Gymry, sef neidio.

Tranoeth aethant at y gorchwyl, a therfynodd yr ymdrech yn ffafr Gwalchmai ap Meilir, a chododd yntau feini yn y lle er coffadwriaeth am yr amgylchiad, y rhai sydd i'w gweled hyd heddyw. Yr oedd Gwalchmai yn fardd o fri yn ei amser, a chyfansoddodd englynion i'r amgylchiad, un o ba rai sydd fel y canlyn:

"Neidiais, a bwriais heb arwydd—danaf,
Wel, dyna feistrolrwydd;
A'r rhodd oedd yn ddigon rhwydd,
Wedi'r naid dros Abernodrwydd!"

Gelwid y lle oddiwrth yr amgylchiad hwn hyd heddyw yn "Dair naid."