Hanes Sir Fôn/Plwyf Llandegfan

Oddi ar Wicidestun
Cwmwd Tindaethwy Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llanfaes

PLWYF LLANDEGFAN

Cafodd y plwyf hwn yr enw yma ers oddeutu y bedwaredd ganrif, oddiwrth Tegfan, ŵyr Cadrod Calchynydd, ac ewythr Elian. Bu yn beriglor yn Mangor Cybi: ystyr yr enw—Trigfan deg neu brydferth. Yn nheyrnasiad Charles I. cymerodd rhyfel gartrefol le, ac anfonodd y llywodraeth fyddin o wŷr, dan lywyddiaeth y Cadfridog Mytton, i le o'r enw Garth Ferry. Ychydig o wrthwynebiad a gawsant i lanio, yn unig ymddangosai yr isgadben Hugh Pennant a'i fintai gerllaw Cadnant; ond y gelynion a dywalltasant eu hergydion arno o'r gwrychoedd, ac o lochesau y creigiau, fel y gorfu iddo encilio yn fuan. Gerllaw Porthaethwy, o fewn llai na milldir i Cadnant, yr oedd gwarchodlu cryf wedi eu cyfleu, dan lywyddiaeth dau o swyddogion; ond y rhai hyny a ffoisant mewn modd gwarthus, ac nid heb amheuaeth cryf am danynt eu bod yn euog o fradwriaeth; canys dywedir fod gair ar led ar ol hyny, fod un o honynt wedi derbyn haner cant o bunau gan y Maeslywydd Mytton yn mlaen llaw, am fradychu yr ynys a'i rhoddi i fyny; a bod haner cant arall mewn addewid ar ôl i hyny gymeryd lle, ond na thalwyd byth mo honynt. Gwel " Hanes y Cymry," gan y Parch O. Jones, a " Golud yr Oes," ar hanes Castell Beaumaris.

BEAUMARIS.—Gelwir y dref hon ar amrywiol enwau; ac o berthynas i'r enw hwn ceir amrywiol farnau. Myna un mai Bumaris ydyw; eraill mai Bimaris; y trydydd mai Beaumaris; y pedwerydd mai Beaumarish; y pum. ed mai Belio Mariseum; a'r diweddaf mai Bellum Aniscum: y mae yn anhawdd gwybod pa enw yw y mwyaf priodol. Y mae pleidwyr yr enw Bimaris yn sylfaenu eu credo ar sefyllfa y dref, sef yw hyny, rhwng dau-for (neu Bi-maris) am ei bod yn sefyll rhwng yr Irish Sea a'r St. George's Channel. "Corinthus-inter duo maria Acquaeum et Ionium unde Bimaris dicitur." Vide Desp. in Hor. Od. I. VII. 2. Myn eraill fod yr enw yn tarddu o'r ddau air Ffrengig, beau a maree" Mor prydferth: tra y dadleua y blaid arall dros yr enw Beaumarish, neu "Y forfa deg;" yr hwn enw, meddir, a roddwyd arni gan Iorwerth I. Credir gan eraill fod yr enw Beaumaris yn gyfansoddedig o ddau wreiddyn-beau yn y Ffrancaeg, am brydferth, a maris yn Lladinaidd, yn dyfod o'r gair mare am for; ac felly mai yr ystyr yw—"Môr prydferth." Yn nesaf, gelwid hi mewn hen ysgrif-lyfr tra boreuol, yn "Gaer Athrwy," oddiwrth gwmwd Tindaethwy.

Gelwid hi hefyd yn Borth Wygyr. Tybia rhai mai at y lle hwn y cyfeirid yn yr hen driad canlynol:-" Tri porthladd breiniol ynys Prydain-Porth Ysgewin, yn Ngwent; Porth Wygyr, yn Mon; a Phorth Wyddnaw, yn Ngheredigion." O berthynas i darddiad yr enw hwn y mae gwahanol farnau: ymddengys i ni ei fod o'r un tarddiad a'r gair Dwygyr, ac os ydyw, dyma yr ystyr (yn ol syniad y Parch. O. JONES)—Porth gwaed gwyr;' oblegyd ei syniad ef am ystyr enw lle yn agos i Amlwch, sef Dwygyr, ydyw "Rhyd gwaed gwyr." Dywed Mr. R. EVANS, Trogwy, mai "Wigir" yw y gair, ac nid "Wygyr," ac os felly rhaid ei fod yn tarddu oddiwrth agorfa mewn coed, ac mai ei ystyr yw, "Porth y wig îr." Y mae hyn yn cydredeg yn naturiol ag ansawdd y lle yn y dechreuad; ac hefyd, yn gydsyniol hollol â llafar gwlad, â thraddodiad hen frodorion Amlwch a'i hamgylchoedd o berthynas i ystyr yr enw Dwygyr, sef "Dwy-wig-îr." Y mae yn y lle hwn olion llwyni o goed i'w gweled hyd heddyw. Y tir ar ba un y saif Castell Beumamaris, sydd ar ochr ogledd-ddwyreiniol y dref; perthynai i Einion, ap Meredydd Gruffydd, ap Ifan, ac Einion, ap Tegwared. Oherwydd fod y sefyllfa yn fwy manteisiol nag unrhyw le arall i'w adeiladu, gwnaed cytundeb rhwng Iorwerth I. a'r meddianwyr; ar yr amod fod iddynt hwy roddi i'r brenin y tir a berthynai iddynt yn Beaumaris, rhoddodd yntau diroedd yn eu lle iddynt hwythau a'u hiliogaeth dros byth, yn nhreflanau (townships) Erianell a Thre'rddol; y rhai hefyd oedd i fod yn rhydd oddiwrth ardreth. Pa fodd y daeth y brenin yn feddianol ar y cyfryw leoedd, nid yw yn hysbys.

Er mai ag ystyron geiriau yr ymdrinir yn fwyaf neill duol yn y traethawd hwn, dichon nad annyddorol fyddai ychydig grybwylliadau hanesyddol, y rhai sydd yn dwyn cysylltiad agos ac uniongyrchol a'r gwahanol leoedd. Y peth cyntaf a ddaw dan sylw mewn cysylltiad a Beaumaris ydyw, "Cyflafan y Beirdd," yr hon a gymerodd le yn ol gorchymyn Iorwerth I. Dywed rhai awduron diweddar gyda golwg ar yr hanes yma, na roddwyd beirdd Cymru erioed yn aberth i'r cledd gan Iorwerth. H. INCE, M.A., a sylwa, rywbeth yn debyg i hyn:—I'r dyben o ddiffodd yr yspryd rhyddid a feithrinid gan ganeuon y beirdd Cymreig, dywedir fod Iorwerth wedi eu galw hwy yn nghyd, a pheri iddynt oll gael eu lladd yn Nghonwy. Gwel " Ince & Gilbert's outlines of English History," tudal. 48. Eto, y mae heuaeth yn ei feddwl yntau, canys ychwanega— "Y mae er hyn yn bwnc hanesyddol a amheuir." Tystia amryw o awduron hen a diweddar fod y gyflafan grybwylledig wedi cymeryd lle, tra y mae eraill yn tystio i'r gwrthwyneb.

Yr oedd у beirdd yn uchel eu bri yn amser y Derwyddon, ac wedi hyny yn mhlith y tywysogion Cymreig hyd ddyddiau Iorwerth I., yr hwn a dynodd oddiwrthynt y gynhaliaeth berthynol iddynt yn ol penodiad y tywysogion—sef eu tâl-gyflogau o'r llywodraeth, am yr hyn yr oedd y beirdd yn dra anniolchgar; ac ystyrient eu hunain dan fath o ferthyrdod, ac oddiwrth hyny tybiodd rhai i'r brenin Iorwerth eu merthyru mewn gwirionedd. Oherwydd nad oes enw unrhyw un a ferthyrwyd ar gael, nac un wybodaeth am neb o honynt a ddioddefodd y cyfryw ferthyrdod, na fydded i ni fod yn rhy barod i goelio y gwaethaf, ac i ddwyn camdystiolaeth yn erbyn y brenin. Y mae hanes fod Iorwerth yn byw am beth amser yn Nantlle, yn mhlwyf Llandwrog, sef yr amser yr oeddid yn adeiladu Castell Caernarfon neu o leiaf, pan oedd yn cael ei adgyweirio—a'r pryd hwnw yr oedd Gwilym Ddu o Arfon yn byw yn yr un plwyf ag ef: a'r adeg hon hefyd y canodd ei awdl ardderchog i Syr Gruffydd Llwyd, o Drefgarnedd, yn Mon-ac yr oedd yn byw yn aml yn Dinorwig, sef y Llys.

Ymunodd Syr Gruffydd Llwyd a Madog, mab ordderch i'r tywysog Llewelyn, i godi yn erbyn trethiad Iorwerth ar y Cymry, y rhai y pryd hwnw a ruthrasant i dref Caernarfon ar ddiwrnod ffair, ac a laddasant bob Sais o'i mewn; torasant ben Syr Roger de Poleston, yr hwn oedd y pen-trethydd. Yn ngwyneb hyn, daeth Iorwerth i Gymru, a daliodd y penaethiaid Cymreig yn y gwrthryfel yma, a maddeuodd iddynt eu holl wrthryfelgarwch, ar yr amod na byddai iddynt gyfodi yn erbyn ei lywodraeth ef mwy, ac os gwnaent felly drachefn, bygythiai y byddai iddo ddifodi y Cymry, fel cenedl, oddiar wyneb y ddaear; ac ni wnaeth â Madog, y pen gwrthryfelwr, ond ei garcharu dros ei oes yn y Tŵr yn Llundain. Dyma brawf amlwg o dynerwch y brenin, ac efallai gormod prawf i neb feddwl y buasai y cyfryw un yn merthyru y beirdd mewn gwaed oer, am ganu ychydig i'w penaethiaid: a phe buasai rhywun yn cael ei ferthyru, Gwilym Ddu fuasai hwnw,—oblegyd canodd ef yn lled annheyrngarol i'r Saeson, yn ei awdl i Syr Gruffydd Llwyd, panoedd ef ac eraill o'r penaethiaid Cymreig yn garcharorion yn nghastell Rhuddlan. Y mae'r awdl i'w gweled yn yr "Archaiology of Wales," tulal. 409. Ond nid oes gair o son am ferthyrdod Gwilym Ddu, na neb arall o'r beirdd dan eu henwau priodol yn amser Iorwerth I.

Bonover.—Enw ar Borth Wygyr cyn i Iorwerth I. adeiladu y dref bresenol; y mae tarddiad yr enw yma yn anhawdd ei gael allan; ceir ar lafar gwlad amryw dybiau o berthynas iddo. Barna rhai fod iddo ddau wreiddyn, un yn dyfod o'r gair bôn, ystyr enw yr ynys, a'r llall o'r gair over, am drosodd, yn dangos ei chyflead yn ei chysylltiad ag afon Menai; ac mai yr ystyr yw; yn ol ieithwedd rhai yn sefyll ar lan yr afon Menai yn Arfon—"Môn dros yr afon." Tybia eraill ei fod wedi tarddu oddiwrth orchymyn Egbert, brenin y Saeson, ar ol brwydr Llanfaes. Fel y sylwyd eisoes, gorchymynodd Egbert, na elwid yr ynys wrth yr enw Môn byth mwy, ond wrth yr enw Anglesey, felly oherwydd fod yr hen enw wedi myned heibio galwyd y lle wrth yr enw "Mon Over" Eraill a ddywedant fod iddo darddiad Rhufeinaidd, oddiwrth enw cyffredin ar foneddigesau yn eu mysg. Hefyd, yr oedd yn enw ar un o'u duwiesau Bona Dia-yr hon yr oeddynt yn ei haddoli, fel y tybir, wedi iddynt oresgyn yr ynys hon. Ystyrid hon fel ffynhonell rhinwedd a diweirdeb; ei haberth cymeradwy fyddai hwch mochyn; a gweinyddid y swydd offeiriadol gan fenywod. Y mae bono yn tarddu o'r gair bonos (neu melior) am dda, neu rinwedd; a ver yw tarddell (spring), ac felly yr ystyr yw "tarddell rhinwedd.

Porto Bello.—Y mae y lle hwn yn sefyll yn agos i Bonover—hen balasdy ydyw; ystyr y gair Porto yw porth, neu hafan; ystyr y gair Bello yw brwydr, felly yr ystyr yw "Porth y Frwydr." Tybia eraill ei fod yn tarddu o ddau wreiddyn gwahanol—Porto yn Lladin am hafan, a Bello yn Ffrancaeg am brydferth; ac yn ol y syniad yna, yr ystyr yw "Hafan ddymunol, neu brydferth.

Baron Hill.-Preswylfod Syr R. W. BULKELEY. O berthynas i darddiad yr enw baron, tybia rhai ei fod wedi tarddu o'r gair breyr, a'r gair breyr yn tarddu o'r gwreiddyn Cymreig bre, sef bryn—yr hyn a arwydda un yn cynal ei lysoedd barn ar lethr bryniau yn yr awyr agored; ystyr Baron Hill yw " bryn y breyr." Dywed Lewys Dwnn, arch—Herodr cyffredinol holl Gymru o'r flwyddyn 1550 hyd 1580, mai pan oedd Fitshamon a'i farchogion yn cymeryd meddiant o wlad Morganwg, iddo glywed y trigolion yn galw eu hunain wrth yr enwau brenin Morganwg, brenin Gwent, brenin Dyfed, &c., iddo gyfansoddi gair yn ei iaith ei hun yn arwyddo'r un peth—" barwn," sef dyn o radd uchel—yn ol y Gymraeg, arlywydd, neu arglwydd. Ond feallai mai ei fenthyca a wnaeth o'r Almaenaeg, oblegyd Baron ydyw y gair yn yr iaith hono, os felly, yr ystyr yw "Bryn yr ar lywydd, neu arglwydd."

Adeiladwyd yr anedd-dy hwn yn 1618. Cyn yr amser hyn yr oeddynt fel teulu yn byw mewn lle o'r enw "Court Mawr," yn y dref; ac ar ol hyny, mewn tŷ arall oedd yn cael ei alw "Hen Blas." Trinwyd ac ail adeiladwyd Baron Hill gan y diweddar LORD BULKELEY, dan gyfarwyddid Mr. SAMUEL WYATT, arch-adeiladydd. Gorsedd Migen.—Saif y lle hwn rhwng Cadnant a Beaumaris; ystyr yr enw yw "gorsedd enciliedig!". Tybir iddo dderbyn yr enw oddiwrth chwareuyddiaethau oedd yr arferedig yn yr hen amserau ar ddydd y Sulgwyn. Yr unig ddyfyrwch neillduol yn yr wyl hon fyddai dawnsio y gwrywiaid oll fyddai wrth y gwaith hwn, wedi eu trwsio ag ysnodenau, a clychau bychain wrth eu penliniau. Byddai dau o honynt bob amser yn fwy hynod na'r lleill, y rhai a elwid yn "Ffwl," a "Migen;" gwryw wedi ei wisgo mewn dillad benyw, oedd Migen, ac wedi duo ei wyneb, i gynrychioli hen wraches. Byddent eill dau yn dyfyru yr edrychwyr gyda cu castiau digrif; a Migen fynychaf fyddai yn derbyn arian gan y bobl, ac yn cadw y lluaws ymaith trwy fygwth eu taraw â lledwad; a thybir mai oddi wrth hyn y cafodd y lle ei enwi. Tybia eraill iddo dderbyn yr enw oddiwrth Meigen Hen—Meugan, ap Cyndaf Sant, gŵr o'r Israel—yr un, fel y dywed rhai, a Mawan y ganrif gyntaf. Efe a wnaeth gapel Meugan Hen, yn Mhorthwygyr (Beaumaris), ac yn agos i orsedd Migen.

Cadnant.—Ystyr y gair yw, "Nant y Gad," lle y bu brwydr waedlyd ryw bryd.

Y mae Beaumaris yn fwrdeisdref hyfryd, a phrif-dref Mon. Saif mewn lle prydferth gerllaw y mor, ac oddi yma ceir golygfa ardderchog ar fryniau Caernarfon. Y mae llywodraethiad y dref hon mewn meddiant Corphoriaeth a wnaed trwy weithred seneddol yn ddiweddar, yn gynwysedig o Faer, pedwar Henadur, a deuddeg Cynghorwr, yn nghyda Swyddogion cynorthwyol eraill. Gwethrediadau y gorphoriaeth a wneir yn neuadd y dref, a chynhelir yr assizes yn llys y wlad ddwy waith yn y flwyddyn. Cynhelir llys gwladol, yr hwn sydd yn meddu llywodraeth dros holl wlad Fon, yn Llangefni, er codi dyledion o unrhyw swm heb fod uwchlaw £ 50. Hefyd, ceir yma ymdrochle gyfleus, a fynychir gan filoedd o ddyeithriaid yn nhymor yr hâf, o wahanol barthau y deyrnas. Y mae dau westy ardderchog yn heol y castell, a elwir Bulkeley Arms Hotel, a Liverpool Arms Hotel, y rhai ydynt dra chyfleus i ddyeithriaid. Yn y gwesty cyntaf crybwylledig y lletyodd ei Mawrhydi y Frenhines Victoria am dair wythnos, yn nghyd a'i hurddasol fam, yn y flwyddyn 1832. Hefyd, bu Brenhines Ffraingc a'i gosgorlu yma yn Awst, 1855, yn aros am fis, a gwellhaodd ei hiechyd yn fawr yn yr ysbaid fer hon. Adeiladwyd yma Pier gyda thrael ynghylch 5000p, trwy gynorthwy yr hwn y galluogid y teithwyr i dirio o'r agerlongau yn uniongyrchol i heolydd y dref. Dinystrwyd hwn trwy ddamwain ers ychydig flynyddau yn ol; ond prif gefnogwyr y lle a ffurfiasant yn gwmpeini er adeiladu un newydd llawer ardderchocach a mwy cyfleus; a bydd y drael o'i ail adeiladu yn fwy o lawer na'r cyntaf. Bydd yn gaffaeliad mawr i'r dref, yn gymaint nad yw y rheilffordd wedi talu ymweliad a'r lle hyd yn hyn.

Cysegrwyd eglwys y plwyf i St. Mary a St. Nicholas. Anrhegwyd hi a chloch uchelsain gan y diweddar Arglwydd Bulkeley, yn y fl. 1819. Y fywioliaeth eglwysig sydd Berigloriaeth-rhôdd Syr Richard Bulkeley Wms. Bulkeley, Bar. Y mae yma leoedd addoliad hefyd gan y Bedyddwyr, Annibynwyr, Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd. Dechreuodd y Methodistiaid eu hachos yma yn y fl. 1800. Ceir fod yma dri neu bedwar o frodyr, ac ychydig o chwiorydd, yn ymgynull mewn tŷ bychan gwael iawn. Ar ol i'r Parch Richard Lloyd fyned yno i fyw, cynyddodd yr achos yn gyflym; fel erbyn heddyw y mae yma ddau gapel prydferth-un at wasanaeth Cymraeg a'r llall at wasanaeth Saesoneg. Dechreuodd yr Annibynwyr eu hachos crefyddol yma oddeutu y fl. 1750. Dyoddefodd y pregethwyr a ddaethant yma rhwng y blynyddau 1750 a 1760 y triniaethau mwyaf ffiaidd a chreulawn, fel y mae yn syndod eu bod wedi gallu diangc heb eu lladd. O berthynas i ddechreuad achos y Bedyddwyr a'r Wesleyaid, y mae yn anhysbys i mi.

Y sefydliadau elusenol penaf yn y dref hon ydynt, yr Ysgol Ramadegol Rydd; hefyd, un yn cael ei chario yn mlaen ar gynllun Cenedlaethol. Adeiladwyd a gwaddolwyd y gyntaf yn haelionus gan Dafydd Hughes, Ysw., yn y fl. 1603, i goffadwriaeth yr hwn y gosodwyd cof golofn odidog yn nghangell yr Eglwys. Hefyd, addawodd Robert Davies, Ysw., Menai Bridge, 2,000p. os bydd i'r sefydliad aros yn y lle yma: ond os newidir ei le i ganolbarth y wlad, y bydd iddo roddi 5,000p! Y mae yr achos heb ei benderfynu eto.

Oddeutu haner milldir oddiwrth y dref, y mae craig yn cael ei galw yn China Rock, o'r hon y gwneir llestri china. Cynhelir y farchnad ar ddydd Sadwrn, a'r ffeiriau ar Ion. 13eg, Iau Derch, Medi 19eg, a Rhag. 19eg. Poblogaeth y fwrdeisdref yn y fl. 1871 yw 2358; rhif yr etholwyr yn 1832 oedd 329; ac yn y fl. 1866 yr oeddynt yn 558. Cyfanswm ardreth yr eiddo anghyffro yw, 37,874p., a'r swm a delir i'r faeldreth yw 1,770p. Yr aelod seneddol presenol yw yr Anrhydeddus W. Owen Stanley, mab i'r diweddar Arglwydd Stanley, o Alderley: y mae yn ystus heddwch, ac yn rhaglaw dros y sir (Lord-lieutenant). Bu yn swyddog milwrol unwaith, rhyddfrydwr yw mewn gwleidyddiaeth. Ei breswylfod yw Penrhos, Caergybi; a'i oedran yw 70.

Poblogaeth yr ynys yn f. 1871 ydyw.54,609. Rhif yr, etholwyr yn y fl. 1832 oedd 1,187; ac yn 1866 yr oedd ynt yn 2,352. Cyfanswm ardreth yr eiddo anghyffro yw 172,156p. a'r swm a delir i'r faeldreth yw 6,896p. Yr aelod preşenol dros y sir yw R. Davies, Ysw. Cyn y f. 1868, Syr Richard B. W. Bulkeley, Barwn., o Baron Hill, Beaumaris, oedd yr Arglwydd-raglaw dros y sîr. Bu hefyd yn aelod seneddol dros y fwrdeisdref o 1830 i 1833, a'r sîr o 1833 i 1837; a dros swydd Ffint o 1841 i 1847; ac oddiar hyny hyd y fl. 1868, dros Fôn. Proffesa fod yn rhyddfrydwr. Ei oed yw 71.