Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llandygfael

Oddi ar Wicidestun
Cwmwd Talybolion Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llanfaethlu

PLWYF LLANDYGFAEL.

Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r gorllewin o Amlwch. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Dryfael, ap Ithel Hael, ap Cedig, ap Credig, ap Cunedda Wledig, yn y chweched ganrif. Yr ystyr yw "Llan y Cyfran hael," neu y gyfran enillgar.