Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanfaethlu
Gwedd
← Plwyf Llandygfael | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llanbadric → |
PLWYF LLANFAETHLU.
Gorwedda y plwyf hwn oddeutu pum' milldir i'r gogledd-orllewin o Bodedeyrn.
Tardda ei enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Maethlu, ap Caradog Freich-fras, ei fam Tegau Eurfron, ferch Nudd Hael, ap Senyllt, ap Cedig, ap Dyfnwal Hen, ap Ednyfed, ap Macson Wledig, yn y chweched ganrif. Yr ystyr yw "Llan y Famaethfa", neu Famaethlan.