Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanerchymedd

Oddi ar Wicidestun
Cwmwd Twrcelyn Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llandyfrydog

PLWYF LLANFIHANGEL TRE'R BEIRDD.

Saif y plwyf hwn oddeutu pedair milldir i'r de-orllewin o Lanerchymedd. Gwel Sylw ar Tre'r Beirdd

PLWYF LLANERCHYMEDD.

Saif tref Llanerchymedd gan mwyaf yn mhlwyf Amlwch; ond y mae rhanau o honi yn Llanbeulan, Llechgynfarwydd, a Ceidio, yn nghymydau Menai, Llifon, a Thwrcelyn. Y mae dwy ran o dair o honi yn mhlwyf Amlwch. Ymddengys fod cynydd y dref hon i'w briodoli i'r ffaith ei bod yn sefyll yn nghanolbarth y wlad.

Cyn dechreuad y rhyfel gartrefol (parliamentary war) yn amser Charles II., yr oedd y lle yma wedi dyfod yn bur boblogaidd; ac, fel y cyfryw y gosodwyd ef allan mewn deiseb, am gael sefydlu marchnad yn y lle. Yn ystod llywodraethiad Cromwell y chaniatawyd hyny i'r brodorion gan y Llywodraethwr Cromwell: a chadarnhawyd y peth drachefn gan Charles II. yn y fl. 1665. Gyda'r eithriad o Beaumaris, hon oedd yr unig farchnad yn yr holl ynys; yr hyn a fu yn brif achos llwyddiant y dref hyd y fl. 1785, pan sefydlwyd marchnad-le yn Llangefni; yr hwn sydd yn sefyll yn fwy eto yn nghanolbarth y wlad.

Adeiladwyd eglwys Llanerchymedd gan Tegerin, un o arglwyddi Twroelyn, a mab Carwad Fawr, un o hynafiaid teulu Llwydiarth. Dywed Phillip, Sons, and Nephew, (Agents for the Admiralty Charts, and Ord- nance Maps,) fod yr eglwys hon wedi ei hadeiladu yn y fl. 408. Os ydyw hyn yn wirionedd, y mae yn un o'r eglwysi hynaf yn Môn. Cysegrwyd hi i St. Mair; yr ystyr yw, "Llan-y-chwerwder." Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth mewn cysylltiad a pherigloriaeth Llanbeulan: y mae dau le wedi eu neillduo at fywioliaeth yr eglwys hon, sef Llain Fair, a Chaeau Mair. Cedwir yr eglwys mewn trefn dda, gan deulu Llwydiarth a Bodelwyddan, heb gynorthwy trigolion y lle.

Adeiladwyd Ysgol Genedlaethol yma yn y fl. 1824, yr hon a gynwysai ddau gant o blant-perthynol i blwyfydd Llanerchymedd, Coedana, a Ceidio; cynhelir hi mewn rhan gan roddion gwirfoddol. Adeiladwyd Ysgol Frytanaidd yma hefyd oddeutu y fl. 1863, yr hon sydd yn adeilad eang a hardd.

Enw Llanerchymedd.—Yr enw cyntaf sydd genym hanes am dano arni ydoedd, Clochran"; tybir iddo darddu oddiwrth fod clochdy yr eglwys yn sefyll ar ran o dri, os nad pedwar, o blwyfydd: fel y mae tŷ Mr. T. Parry (Llanerchydd). O berthynas i'w enw presenol, y mae gwahanol farnau: dywed rhai, y byddai y derwyddon yn addoli Gwyn ap Medd, arglwydd y wlad obry, a brenin y tylwyth teg; a bernir mai yr un ydoedd a Pluto y Groegiaid, a thybia rhai iddo darddu oddiwrth y duw hwn. Myn eraill iddo darddu oddiwrth "Medd," enw ar ddiod a dynir o fel; a dywedir fod y pentref hwn wedi bod yn enwog mewn masnach yn y diodydd hyn; ac am y rheswm yma y galwyd y lle yn Llanerchymedd. Os dyma wir darddiad yr enw, yr ystyr yw "Llan-ybendro !" oblegyd ystyr y gair medd yw pendro.

Gelwir y diodydd a dynir o fêl yn fedd, neu medd, am eu bod yn meddwi dynion: pobpeth sydd yn meddwi, medd ydyw. Cyfieithir ef yn y "Cambrian Register"—"The Plat of the Methaglin." Tybia eraill drachefn, fod yma wledd fawr wedi ei chynal gan Caswallon, er llawenydd am fuddugoliaeth a gafwyd ar Cæsar, pan orfu iddo encilio eilwaith i Gaul. Yr oedd y wledd hon yn cael ei chynal fel diolchgarwch i'r duwiau am eu gwaredu oddiwrth y Rhufeiniaid. Yn ystod y wledd chwareuid amrywiol gampau, yn ol arferiad ein hynafiaid y pryd hyn dygwyddodd i ddau bendefig ieuanc fyned i ymdrechu a'u gilydd. Un oedd Cyhelyn, nai Afarwg, a'r llall oedd Hirlas, nai Caswallon: mewn canlyniad i'r ymdrechfa chwareuol hon, hwy a aethant i ymgynhenu; a Chyhelyn a laddodd Hirlas a'r cleddyf—ac, yn gofadwriaeth am y wledd feddwol hon, galwyd y lle—Llanerchymedd. Y mae lle yn y dref wedi cael ei alw oddiwrth y Cyhelyn hwn yn "Dwr Celyn," yn briodol Twr Cyhelyn; ac heb fod yn mhell o'r pen tref, mae lle o'r enw "Pwll Cynan "—lle yr ymgynhenodd y ddau bendefig crybwylledig. Y mae lle arall yn agos i Gaergybi wedi derbyn ei enw oddiwrth yr un person, sef Pen Cyhelyn; dywed rhai mai oddiwrth y Cyhelyn hwn y tarddodd y gair Holyhead; enw y lle oedd Pen Cyhelyn, a thrwy lygriad, galwyd ef yn Pen Celyn (ac felly Twrcelyn). Cyfieithid ef weithiau Hollyhead, pryd arall Holyhead: ond y gwir enw yw "Cyhelyn's Head."

Twrcelyn sydd wedi bod yn drigfa pur hynafol; ceir fod Caw ap Geraint ap Erbin, arglwydd Cum Cawlyd, yn nghyd a'i deulu, yn trigo yma, oddeutu y chweched ganrif y pryd y gyrwyd ef a'i deulu, gan y Pictiaid, allan o'u hetifeddiaeth, yn agos i Scotland. Rhoddodd Maelgwyn Gwynedd dir iddynt yn Ngwynedd; a chawsant dir gan y brenin Arthur, yn Ngwent. Caw, wedi dyfod i Gymru, a breswyliodd yn Twrcelyn; ond, rhai o’i deulu a aethant i Gwent, lle yr oedd Arthur wedi rhoddi tir iddynt.

Yr oedd rhai o blant Caw yn rhyfelwyr; eithr y rhan fwyaf o honynt a gyflwynasant eu hunain i waith y weinidogaeth, ac a fuont yn offerynau i blanu eglwysi yn Nghymru. Bu Twrcelyn yn drigfa beirdd enwog ers canrifoedd lawer. Yma yr oedd cartref Gildas, neu Aneurin, fel y tybir, yr hwn a gyfansoddodd y gân odidog a elwir y "Gododin"—cân brad y "cyllill hirion" yn Stonehenge. Gwel Davies's Myth. tudal. 318. Yr oedd Cyhelyn mab Caw yn fardd enwog yn ei ddydd, ac yn bur wahanol yn ei farn oddiwrth feirdd yr oes hono yn gyffredin. Ymddengys oddiwrth ei waith sydd eto mewn bod, nad oedd ganddo un parch i dduwiesau y derwyddon; ac yr oedd yn ystyried yr arferiad ag oedd gan y beirdd o anerch Ceridwen, fel ffynnon dysgeidiaeth, yn anaddas i gristion, &c.

Dinystriwyd yr hen dŵr gan ŵr y Llwydiarth, yn y fl. 1777.

Llwydiarth.—Tardda yr enw oddiwrth Arth lwyd— Gwelir ar arfbais Llwydiarth, yn Eglwys Amlwch, ddarlun o Arth-lwyd, a saeth yn ei phen.

Cyfieithir arwyddair y lle hwn—"Vivit post funera Virtus" fel hyn:"Rhinwedd uwch y bedd fydd byw." Dywedir fod hen deulu Llwydiarth yn achlesu beirdd ers yn agos i 400 mlynedd—pa faint bynag cyn hyny. Yn un o ysgrif-lyfrau Lewys Morrus o Fon, ceir yr hanes, y byddai Robyn Ddu yn fawr ei fri yn Llwydiarth; a phan oedd efe yna un tro ar giniaw, efe a ddywedodd Ab, ab fe syrthiodd y "Maenaddfwyn ?" "Cymer farch danat a dos, a myn wybod a'i gwir a ddywedodd Robyn, ebai gwr y tŷ wrth y gwas. Pan ddychwelodd, gofynwyd iddo, "A syrthiodd y maen ?" "Do," ebai y gwas "Do; gan wiried a bod y march a fu dan y llanc, wedi marw yn yr aman:" ebai Robyn. Awd i'r aman, a chafwyd ef yn farw. Y mae Llanerchymedd hyd heddyw yn enwog iawn am feibion yr Awen. Yma y mae cartref Galchmai, Llanerchydd, Meilir, Tegerin, Meilir Môn, &c.