Hanes Sir Fôn/Plwyf Llangoed

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llanfaes Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llaniestyn

PLWYF LLANGOED

Saif y plwyf hwn oddeutu dwy filldir o Beaumaris; a gorwedda yr eglwys mewn lle neillduol o brydferth. Cysegrwyd hi yn y chweched ganrif i Cawrdaf yn Ngwent. Sant oedd o Fangor Illtyd, yr oedd ganddo eglwys arall yn Abererch, yn Arfon: geilw rhai ef yn St. Cawrdd. Y mae yr enw uchod yn arwyddo—Eglwys mewn coed, a derbyniodd yr holl blwyf yr enw oddiwrth yr eglwys.