Hanes Sir Fôn/Plwyf Llaniestyn
Gwedd
← Plwyf Llangoed | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llanfihangel-Din-Sylwy → |
PLWYF LLANIESTYN.
Saif y lle hwn oddeutu milldir a haner i'r gogledd o Langoed. Cysegrwyd yr eglwys hon i Iestyn ap Geraint, ap Erbyn, ap Cystenyn, & c., yn y chweched ganrif. Cafodd y plwyf hwn ei enw am fod orllewin yr eglwys wedi ei chysegru i'r Iestyn yma.
Pen-yr-Orsedd.—Lle, ond odid, y cynhelid y llysoedd neu brawdlysoedd, gan y barnwyr yn yr hen amser.