Neidio i'r cynnwys

Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Tredegar

Oddi ar Wicidestun
Hanes Dechreuad a Chynnydd Gwaith Haiarn Tredegar Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn

gan David Morris (Eiddil Gwent)

Dechreuad Gwaith Haiarn Tredegar


PENNOD III—TREDEGAR.

Tredegar sydd dref boblogaidd iawn, yn cynhwys 9.776 o drigolion. Ei phellder o Lundain yw 156, trwy y Feni; o Gaerdydd, 32; o'r Feni, 12; Gasnewydd, 24; ac o Ferthyr 8 o milldiroedd. Cafodd Tredegar ei henw oddiwrth Tredegar Fawr, sef enw y palas neu drigle yr hên Forganiaid, y rhai oeddynt ddisgynyddion o Cadifor Mawr, ap Collwyn;—a pherchenogion y tir lle saif Tredegar arno. Rhoddir llawer iawn o ystyrion i'r gair Tredegar. Y mysg eraill geilw rhai ef Tri—deg—erw, a mynant, er bodd ac anfodd, mai dyna yw'r iawn ystyr o'r enw. Ond pan ystyriom mai yr hên air Cymraeg am Ddaear nea Daear, yw Ar, ac os digymalwn y gair Tredegar—fel hyn, Tre Deg Ar, gwelwn yn amlwg mai iawn ystyr yr enw yw Tre—daear—deg. Mae llawer iawn o balasai yr hên foneddigion Cymreig, y'Nghymru, yn myned dan yr enw Trefel Trenewydd, palas yr anrhydeddus Arglwydd Dinevor hefyd Tregoib, palas ardderchog Mr. Hughes, ger Llandeilo Fawr, a llawer o balasau ereill a allesid eu henwi.

Nodiadau

[golygu]