Hanes y Bibl Cymraeg/Thomas Huet

Oddi ar Wicidestun
Richard Davies D.D. Hanes y Bibl Cymraeg

gan Thomas Levi

Dr. William Morgan

III. Thomas Huet

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Huet
ar Wicipedia

Nid oes genym nemawr o hanes y gŵr da hwn, ond bydd ei enw mewn coffadwriaeth felus gan y Cymry fel cyfieithydd llyfr y Datguddiad yn Nhestament Cymraeg William Salesbury. Mae llythyrenau cyntaf ei enw wrth y cyfieithiad, sef "T. H.; C. M." Hyny yw, Thomas Huet, Cantor Mynyw, neu Cantor Meniva. Yr oedd yn brif gantor Tyddewi o'r flwyddyn 1562 hyd 1588, ac offeiriad Cefnllys, yn Sir Frycheiniog, a Diserth yn Sîr Faesyfed. Bu farw Awst 19eg, 1591, a chladdwyd ef yn Eglwys Llanafan, Brycheiniog.

Nodiadau[golygu]