Hen Gymeriadau Dolgellau/I Yr Hen Amgylchedd

Oddi ar Wicidestun
Hen Gymeriadau Dolgellau Hen Gymeriadau Dolgellau

gan Edward Williams (Llew Meirion)

II Rhai Ohonynt


Hen Gymeriadau Dolgellau.
I. YR HEN AMGYLCHEDD

 AE'N debyg eich bod, fel fy hunan, wedi bod lawer gwaith mewn ocsiwn, ac yn gweld yr ocsiwniar yn rhoi ambell i lot i fyny, ac yn crefu yn enbyd am i rywun gynnyg rhywbeth am dano, a chithau yn gofyn i chwi'ch hun,—"Be mae o da?" Welsoch chwi erioed beth 'run fath a fo; a thebyg ydyw, os bydd y lotiau yn hen iawn, na welwch chwi yr un tebyg siawns mewn ocsiwn byth ar ol hynny. Ond, sut bynnag, hwyrach y bydd gennych chwi ffansi ato am yr unig reswm ei fod yn hen, ac yr ydych yn mentro cynnyg: a chyda lwc yr ydych yn ei gael.

Mwy na thebyg mai rhyw gwestiwn fel yna fydd rhywun yn ei ofyn i minnau pan yn dod a rhyw lot o hen gymeriad o'ch blaenau gyda hyn. Ac nis gallaf ei ateb, ond yn unig trwy ddweyd ei fod yn hen——yn un o antiques yr oes o'r blaen; ac yn ddios i chwi, welwn ni byth rai yr un fath a nhw eto. Dydyn nhw ddim i'w cael yrwan, er fod rhai yn ceisio bod yn odiach na'r cyffredin yn ein dyddiau ni. Nid ydyw amgylchedd yr ugeinfed ganrif ddim mor ffafriol i gynyrchu cymeriadau o'r fath a'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. "Pam?" meddech chwi. Wel, nid yr un arfau sydd yn eu llunio nhw, ac nid o dan yr un amgylchiadau y mae defnydd eu hymenyddiau yn tyfu. 'Doedd yma ddim byd yn cyfryngu rhwng natur a hi ei hun fel ag sydd yn yr "oes oleu hon" forsyth. "Llunio y gwadan fel bo'r troed" oedd hi ystalwm, ac nid llunio y troed fel bo'r gwadan fel y mae hi gyda ni. Nid chwilio am sgidiau nymbar 5 i droed nymbar 8, na gwasgu canolbwynt bodolaeth un i faint coes brwsh llawr, yr oedd yr hen bobol. Yr oedd yr hen bobl am roi chware teg i natur a gras ran hynny, fel rheol iddyn nhw eu llunio i'r ffurf fwyaf cymhwys iddynt; ac yn y golcu yna y rhaid i ni edrych ar agweddau pethau yn y dreflan yma a'r cylch o driugain i bedwar ugain mlynedd yn ol, sef yr adeg pan yr oedd y dref yn amddifad o'r breintiau yr ydym ni yr awrhon yn eu mwynhau. 'Doedd y pryd hynny na gasworks, waterworks, Local Board, Cyngor Sir, nac unrhyw foethau amheus fel sydd yrwan. Byddai pawb yr adeg honno yn dibynnu ar wybod sut dywydd oedd hi ar ol deg o'r gloch y nos, ar yr hen watchman, gyda'i lantar gorn pan y cerddai drwy y strydoedd yma, ac yn gwaeddi agwedd y tywydd fel rhyw walking barometer,—"Dark night," cloudy night," "dirty night," "fine night," "fel y digwyddai. Ffynhonnau y dref oedd yn disychedu y trigolion, a ffynhonnau ardderchog oeddynt, Ffynnon y Gro, ar dir y Llwyn, Ffynnon Plas Ucha, Ffynnon Morus Dafydd, a Ffynnon Ty'n y Coed. I Beti Dafis, am yr hon y cawn sylwi ymhellach, y rhoddwyd gofal glanweithdra y dref, a rhoddi ei bye-laws ei hun mewn grym. Dyddiau anneddfol, di-lyfethair mewn llawer dull, oedd y dyddiau hynny, ac yr oedd y trigolion i ryw raddau yn cyfranogi o'r cyf— ryw ryddid,—pob un yn ddeddf iddo ei hun, megis, a neb yn rhyw falio llawer sut yr oedd pethau yn mynd ymlaen, ond iddyn nhw fitio yr oes; ac os byddai rhywun yn camu dipyn yn frasach na'i gilydd at ryw ychydig o welliant, coegyn, flyer, neu rywbeth gwaeth oedd.

Nid oedd plisman yn y wlad, ond cwnstabliaid a ddewisid gan y festri, a phan gofiwn fod blaenoriaid Methodus a phregethwyr cynorthwyol gyda y gwahanol enwadau yn cael eu tyngu i mewn, gallwn synio yn lled agos pa mor effeithiol oedd y gwaith o heddychu y rhai anystywallt yr adeg honno. Be ddyliech chwi o ddynion crefyddol, a diwyd ar lawer ystyr, tebyg i Mri. William Jones y Draper, Shop Newydd; Parch. Rolant Huws, Hugh Jones y Shop, Dafydd Jones Shop Fach, Gruffydd Puw Tan y Cafnau, Parch. Richard Hughes person y plwyf,—heddychol ffyddloniaid Israel—yn ffigro mewn row ar y stryd ar noson ffair? Yr oedd Huw Jones y Shop yn meddu ar un fantais fawr i fod yn gwnstabl, yr oedd ganddo y dwylaw mwyaf bron o neb dyn yn y wlad, a dywedir ei fod, yn y cymeriad o gwnstabl, wedi gafael mewn bwli pen ffair o sir Aberteifi in ju jitsu fashion, a'i fwndlo i mewn i'r lock—up dan yr Hall, sef lle mae swyddfa Mr. Griffith Boderyl, mor ddidrafferth a phac o wlan. Ceir