Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Arall o'r eiddo Anacreon

Oddi ar Wicidestun
Cyfieithiad o ail awdl Anacreon Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Odlig arall i Anacreon


ARALL

O'r eiddo ANACREON, 1754.

MAE'n ddiau, myn y ddaear,
Yfed a wlych rych yr âr;
Dilys yr ŷf coed eilwaith
Y dwr a lwnc daear laith;
Awyr a lwnc môr a'i li;
Yf yr haul o fôr heli;
Ar antur, ŷf Lloer yntau;
Yfont, a d'unont eu dau
Y mae'n chwith i mi na chaf
Finau yfed a fynaf
Gwarthus iwch ddigio wrthyf,
Nid oes dim o'r byd nad ŷf.


Nodiadau

[golygu]