Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cyfieithiad o ail awdl Anacreon

Oddi ar Wicidestun
Cywydd i Lewis Morys Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Arall o'r eiddo Anacreon


CYFIEITHIAD

A ail awdl ANACREON, 1754.

NATUR a wnaeth, iawn ytyw,
Ei rhan ar bob aniau byw;
I'r cadfarch dihafarchwych,
Carnau a roescyrn i'r ych;
Mythder[1] i'r ceinych[2] mwythdew;
Daint hirion llymion i'r llew;
Rhoes i bysg nawf ym mysg myr;[3]
I ddrywod dreiddio'r awyr;
I'r gwŷr rhoes bwyll rhagorol;
Ond plaid benywiaid bu'n ol;
Pa radau gant? Pryd a gwedd
Digon i fenyw degwedd,
Rhag cledd llachar, a tharian,
Dôr yw na thyr dur na thân
Nid yw tân a'i wyllt waneg,
Fwy na dim wrth fenyw dêg.]


Nodiadau

[golygu]
  1. Buandra
  2. Ysgyfarnog
  3. Moroedd