Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd i Lewis Morys

Oddi ar Wicidestun
Epigram i'w dori ar gaead Blwch Tobacco Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cyfieithiad o ail awdl Anacreon


CYWYDD I LEWIS MORYS, Ysw.,

O Allt Fadog, yng Ngheredigion, yn dangos nad oes dim a geidw goffadwriaeth am Ddyn, wedi angau, yn well na gwaith Bardd, ac na ddichon na Cherfiwr na Phaentiwr roi cystal Portreiad o Wr ag a rydd Prydydd awenyddol. Y Cywydd hwn sydd ar ddull HORAS, Lib. IV. Ode VIII.

Donarem pateras grataque, &c.

RHODDWN ariant a rhuddaur.
Rhown yt gawg gemawg ac aur;
I'r cyfeillion mwynion mau,
Deuai geinion deganau,
Genyf o b'ai ddigonedd
(A phwy wna fwy oni fedd?)
I tithau y gorau gaid,
Lewys fwyn, lwysaf enaid;
Pe b'ai restr o aur—lestri
O waith cyn maelgyn i mi,
Ti a gait, da it y gwedd,
Genyf yr anrheg iawnwedd.

Odid fod o fychodedd,[1]
Rhodd dreulfawr, rhai mawr a'i medd;
Tithau, nid rhaid it' weithion,
Ni'th ddorodd[2] y rhodd o'r rhai'n,
Caryt gywyddau cywrain,
Rhynged dy fodd rhodd o'r rhai'n,
Rhodd yw, cyhafal rhuddaur,
A chan gwell; uwch yw nag aur.

Onid ofer iawn dyfais
I fynu clod o faen clais?[3]
Naddu llun eilun i wr
Dewrwych, portreiad arwr,
Llunio'i guch,[4] a llain gochwaed,
A chawr tan ei dreisfawr draed?

Pond[5] gwell llên ac awenydd?
Gwell llun na'r eilun a rydd;
Dug o eryr da'i gariad,
Gwrawl Udd[6] a gâr ei wlad,
Llyw yn arwain llon aerweilwch,
Teirf yn nhrin[7] fyddin o feilch,
Wrth a gâr, yn oen gwaraidd,
Yn nhrin, llyw blin, llew a blaidd,
Araf oen i'w wyr iefainc,
Llew erchyll, a ffrewyll Ffrainc.
Pwy âg arfau? pa gerfiiad
A rydd wg golwg ei gad?
Trefi yn troi i ufel
O'i froch, a llwyr och lle'r êl!

Pwy a gai, oni b'ai bardd,
Glywed unwaith glod iawnhardd?
Tlws ein hiaith Taliesin hen
Parodd goffhau AP URIEN;
Aethai, heb dant a chantawr,
Ar goll hanes Arthur Gawr.
Cân i fad, a rydd adwedd
O loes, o fyroes, o fedd;
Cerdd ddifai i rai a roes
Ynill tragywydd einioes,
Nudd, Mordaf, haelaf helynt,
Tri hael Ior, ac Ifor, gynt,
Laned clod eu haelioni
Wrth glêr, hyd ein hamser ni!
Ac odid (mae mor gadarn)
Eu hedwi fyth hyd y farn,
Rhoddent i feirdd eu rhuddaur
A llyna rodd well na'r aur;
Rhoid eto (nid rhaid atal)
I fardd, ponid hardd y tál?
A ddel o'i awen ddilyth
O gyfarch, a bair barch byth.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ychydig.
  2. Dyddorodd
  3. Marmor.
  4. Cuwch—yr ael—"tan ei guwch."
  5. Onid.
  6. Arglwydd.
  7. Rhyfel.