Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Awdl Briodasgerdd i Elin Morys

Oddi ar Wicidestun
Dau Englyn o Glod i'r Delyn Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Unig Ferch y Bardd


AWDL BRIODASGERDD

I Elin Morys, Merch Lewis Morys, Ysw., o Allt Fadog; ac yn awr, gwraig Rhisiart Morys, o Fathafarn, 1754.

UST! tewch oll! Arwest[1] a chân,
Gawr[2] hai, ac orohian!
Melus molawd,
A bys a bawd,
Llon lwyswawd llawen leisiau,
Aml iawn eu gwawd,[3] mil yn gwau,
Wawr hoewaf, orohian
A cherdd a chân.

Tros y rhiw torres yr haul,
Wên boreu, wyneb araul;
Mae 'n deg min dydd,
Tawel tywydd,
O'r nentydd arien untarth;
Ni cheidw gwŷdd o chaid gwarth;
"Dwyre,[4] ddyn wenbryd eirian,
Yw 'n cerdd a'n cân.

Na ad le i gwsg yn d' ael; gwên,
Disgleiria, dwywes[5] glaerwen;
Feinais fwynwar,
E 'th gais a'th gâr,
Dyn geirwâr, dawn a gerych,
Age 'n bar, gwen wiw, y bych;
I'r hoew walch orohian,"
Yw'n cerdd a'n cân.

Na arho hwnt yn rhy hir,
Waisg Elin; e'th ddisgwylir;
Dwg wisg, deg ael,
Dda wisg ddiwael;

Dwg urael[6] diwyg eurwerth,
Na fo gael un o fwy gwerth:
Aur osodiad ar sidan
I'r lwys wawr lân.

Ar hyd y llawr, y wawr wych,
Cai irddail ffordd y cerddych;
Gwiwrif gwyros,[7]
A rhif o'r rhos,
Da lios, deuliw ewyn;[8]3
Brysia, dos; ber yw oes dyn:
Du 'ch ellael,[9] deuwch allan,"
Yw 'n cerdd a'n cân.

O chlywi, wenferch Lewys,
Dyre i'r llan draw o'r llys;
Canweis cenynt[10]
O'th ol i 'th hynt,
A llemynt â'u holl ymhwrdd ;
Felly gynt, fe ae llu gwrdd
I'r eglwys, wawr rywioglan,
A'r glwys wr glân.

Wedi rhoi 'n rhwydd sicrwydd serch,
I'r mwynfab, orau meinferch,
Hail[11] i'n hoew—wledd,
Dwg win, deg wedd;
Dwg o anredd digynnil
Ddogn o fêdd, ddigon i fil,
"A chipio pib a chwpan"
Yw'n cerdd a'n cân.

Rhodder a chlêr a'u haeddant—
Bwyd a gwin, be deuai gant;
I gyd ni gawn

Y ddau nwyfiawn ddyn iefanc,
O bod llawn, byd da, a llanc,
Gwr gwaraidd a gwraig eirian,
Pâr glwys per glân.

A fedro rhoed trwy fodrwy
Deisen fain, dwsin neu fwy,
Merched mawrchwant
I'w ced a'u cânt,
Dispiniaut hwy does peinioel;
Rhwy maint chwant rhamant a choel;
"Cysur pob gwyrf yw cusan,"
Yw 'n cerdd a'n cân.

Y nos, wrth daflu 'r hosan,
Cais glol y llancesau glân
O chwymp a'i chael,
Eurwymp urael,
Ar ryw feinael wyrf unig,
Gwenno ddu ael, gwn ni ddig;
Rhyned os syr ei hunan
Yn wyrf hen wan.

Yn iach cân i'r rhianedd,
Dêl i'r rhain dal wŷr a hedd!
Mae bro mwy bri
Eto iti;
Gyr weddi, gu arwyddiad,
I Dduw Tri, e ddaw it rad,
Byd hawdd, a bywyd diddan,
A cherdd, a chân.

Dod i'th wr blant, mwyniant mawr;
Dod ŵyrion i'th dad eurwawr,
A he o hil
Hapus hepil,
Dieiddil, Duw a wyddiad,
Ie, gan mil, egin mad;
Llaw Duw iddynt, llu diddan,
Hil glwys, hael, glân.


Gyr sin[12] i wan gresynol,
I Dduw a wnair; e ddaw 'n ol:
Afiaith ofer
Y sydd is ser;
Gorau arfer, gwawr eurfain,
Moli dy Ner mal dy nain;[13]
Gwiwnef it hwnt, gwynfyd da;
Amen yma![14]


Nodiadau

[golygu]
  1. Cerdd offerynnol
  2. Bloedd
  3. Canmoliaeth
  4. Tyred
  5. Duwies
  6. Urail—lleianwisg teg a drudfawr.
  7. Dail bytholwyrdd
  8. Ewyn y don.
  9. 4 Ael
  10. Cyfeiriad at hen defod Gymreig mewn priodasau.
  11. Gwasanaethu wrth fwrdd y wledd; o hyn y tardd y gair Heilyn am BUTLER.
  12. Elusen
  13. Margred Morys. Gweler t. d. 61
  14. NODAU AR Y BRIODASGERDD UCHOD.— Llemynt,' &c. alluding to the old custom of dancing a Morris-dance at a wedding. 'A fedro rhoed drwy fodrwy,' &c. Mae yn debyg y gwyddoch hyny o gast, a pha ddefnydd a wneir o'r deisen a dyner drwy y fodrwy. Y nos wrth daflur hosan,' mae'n gyffelyb y gwyddoch hyn hefyd; ond rhag nas gwyddoch, fel hyn y mae trin y dreth; sef pan ddel y nos, y briodasferch a a i'w gwely, a chryn gant o fenywiaid gyda'i chynffon yn esgus llawforwynion i'w helpu i ymddiosg; a phan dyno ei hosan hi a'i teifl dros ei hysgwydd, ac ar bwy bynag y disgyno, hono a gaiff wr gyntaf. Probatum est eto. Dyna'r ffordd yn Lloegr; ni wn i a ydyw yr un ffordd yn Nghymru ai peidio, ac nis gwaeth genyf.'—Llythyr GORONWY DDU at WILLIAM MORYS.